Mae Coleg Catholig Dewi Sant, Caerdydd, wedi penodi Geraint Williams fel ei Bennaeth newydd, gan ddisodli Mark Leighfield a ymddeolodd yn ddiweddar.
Dywedodd Mr Williams, sydd wedi bod yng Ngholeg Dewi Sant ers dros 10 mlynedd, “Mae’n fraint enfawr i’r Llywodraethwyr ymddiried ynof i arwain y staff a’r dysgwyr i’r cyfnod newydd cyffrous hwn i’r coleg. Rydym yn hynod ffodus bod â chymuned mor gadarn a chref yma yng Ngholeg Dewi Sant ac edrychaf ymlaen at fod mewn sefyllfa lle gallaf weld pobl ifanc De Cymru’n tyfu’n academaidd, yn feddyliol ac yn ysbrydol.”
Bydd Mr Williams yn ymgymryd â’r swydd ar unwaith ar y campws sengl ym Mhen-y-lan.
Mae Geraint Williams wedi gwasanaethu’n flaenorol fel Pennaeth Cynorthwyol ac athro gwyddoniaeth yn y coleg.
Mae’r cymryd yr awenau gan Mark Leighfield, a wasanaethodd fel Pennaeth am 24 mlynedd. Gan sôn am Mr Leighfield, meddai Geraint Williams, “Mae Mark wedi bod yn un o hoelion wyth y coleg ers amser maith. Hoffwn ddiolch i Mark yn gyhoeddus am ei wasanaeth rhagorol i’n coleg a’i ymrwymiad dwfn i’w wneud y gymuned Catholic gref a gwydn y mae heddiw. Yn benodol, arweiniodd y coleg gyda phenderfyniad diwyro yn ystod cyfnod o afiechyd, ac mae’r gymuned gyfan yn ddiolchgar am hynny.
“Hoffwn ddiolch hefyd i Lisa Newman, Dirprwy Bennaeth, am ei stiwardiaeth ragorol o’r coleg yn ystod y cyfnod hwn o drawsnewid. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda hi, yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r holl staff a dysgwyr i fynd â’r coleg ymlaen i’r dyfodol.”
Meddai Cadeirydd y Bwrdd Llywodraethwyr, y Diacon Christian Mahoney, “Byddwn yn parhau i ymdrechu i wneud Coleg Dewi Sant y prif goleg chweched dosbarth Catholig yng Nghymru a thu hwnt. Pobl Coleg Dewi Sant sy’n ei wneud mor arbennig, ac rwy’n hyderus y byddant bellach yn cefnogi Mr Williams wrth iddo gymryd yr awenau”.
Wrth i Goleg Dewi Sant bontio i’w arweinyddiaeth newydd, bydd y dysgwyr yn canolbwyntio ar eu harholiadau a symud ymlaen i’w camau nesaf.