Daeth staff Coleg Catholig Dewi Sant at ei gilydd yn yr wythnos cyn y Nadolig ar gyfer menter codi arian ystyrlon gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth ac arian i gefnogi metrau digartrefedd, gan gynnwys gwaith hanfodol Canolfan Huggard yng Nghaerdydd. Codwyd dros £2500 i’r achos haeddiannol hwn, diolch i sawl rhoddwr hael, gan gynnwys rhodd o £250 gan y sefydliad lleol Horbury Southwest.
Rhoddodd staff Coleg Catholig Dewi Sant a gymerodd ran y gorau i’w cysuron cartref am y noson, gan gymryd rhan mewn Digwyddiad Cysgu Allan ar y safle rhwng 8pm ac 8am. Er nad atgynhyrchu’r realiti llym a wynebir gan y rhai sy’n cysgu allan oedd bwriad y Digwyddiad Cysgu Allan, rhoddodd y profiad gipolwg bach ar yr heriau o roi’r gorau i gysuron cartref.
Bu’r cyfranogwyr yn herio’r elfennau ar deras awyr agored Canolfan Ddysgu George Stack. “Er ei bod yn amhosibl i ni amgyffred yr unigrwydd a’r anobaith y mae llawer o bobl yn eu hwynebu bob nos, dyfnhaodd y profiad hwn ein hempathi ac atgyfnerthodd ein hymrwymiad i helpu’r rhai sy’n agored i niwed yn ein cymuned,” dywedodd Mrs McLaren, a gymerodd rhan.
Cyn swatio i lawr ar gyfer y Digwyddiad Cysgu Allan, dosbarthodd staff fagiau o eitemau bwyd a hanfodion i unigolion digartref yng nghanol dinas Caerdydd. Dosbarthwyd dros 50 o fagiau i’r rhai mewn angen yng nghanol glaw a gwynt trwm, gan dynnu sylw at yr heriau sylweddol a wynebir gan y rhai sy’n profi digartrefedd.
Chwaraeodd Canolfan Huggard rôl allweddol yn y cyfnod cyn y digwyddiad hefyd, gyda staff yn siarad â myfyrwyr yn ystod sesiynau’r Rhaglen Fugeiliol yng Ngholeg Catholig Dewi Sant. Ysbrydolodd y trafodaethau hyn dysgwyr i weithredu drwy gymryd rhan yn Niwrnod Siwmper Nadolig, gan godi arian ychwanegol at yr achos. Mae’r ymroddiad a’r tosturi a ddangosodd y myfyrwyr yn amlygu pwysigrwydd gweithredu ar y cyd wrth fynd i’r afael â materion cymdeithasol.
Gan fyfyrio ar lwyddiant y fenter codi arian gan staff a dysgwyr fel ei gilydd, mae Coleg Catholig Dewi Sant yn pwysleisio y gall gweithredoedd bach, o’u huno gan bwrpas, greu newid ystyrlon. Mae’r bartneriaeth gyda Chanolfan Huggard wedi cryfhau ymrwymiad y Coleg i fynd i’r afael â digartrefedd yng Nghaerdydd.
Da iawn i bawb a gymerodd rhan yn y Digwyddiad Cysgu Allan, gan gynnwys y Tad Benny Dennis, Kane Amos, Olivia McLaren, Matthew Miller, Liz Newham, Yvonne Prescott, Rhian Hughes, Alex Jackson, Kahina Hammoudi, Lorraine Ledentu, Paul Smith, Philippa Marshall, Mel Holmes, Haley Hughes, Matt Todd, Estelle Daly, a Rhys Tranter.
Mae’r fenter hon yn amlygu pŵer tosturi, cymuned a gweithredi i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau unigolion sy’n agored i niwed.