St David's Catholic College, Strategic Plan, Spirit and Truth

Mae Coleg Catholig Dewi Sant wedi lansio’i gynllun strategol newydd – Ysbryd a Gwirionedd- yn swyddogol, gan osod gweledigaeth feiddgar a llawn ffydd ar gyfer pennod nesaf bywyd y Coleg Catholig Cymreig.

Â’i wreiddiau’n ddwfn yng nghenhadaeth y Coleg Catholig, mae Ysbryd a Gwirionedd yn amlinellu fframwaith eglur ac uchelgeisiol ar gyfer twf, ffurfiant a gwasanaeth. Mae’r cynllun, sydd wedi’i adeiladu o gwmpas pedair colofn allweddol ganolog – Cenhadaeth Gristnogol, Ffurfiant Pawb, Cymuned a Phobl, a Stiwardiaeth Gynaliadwy – yn ailddatgan ymrwymiad y Coleg at feithrin dysgwyr mewn ffydd, doethineb ac uniondeb.

Mae’r cynllun wedi’i ysbrydoli gan neges yr Efengyl o addoliad “mewn Ysbryd ac mewn Gwirionedd” (Ioan 4:23-24), gan adlewyrchu cenhadaeth Dewi Sant i i fod yn gymuned lle mae pawb yn cael eu croesawu â thrugaredd, eu meithrin â doethineb, a’u hysbrydoli i geisio’r gwirionedd.

Mae datblygiad Ysbryd a Gwirionedd wedi bod yn broses wirioneddol gydweithredol, gan gynnwys ymgynghori helaeth â staff, myfyrwyr, llywodraethwyr a phartneriaid ar draws y gymuned. Mae’n adeiladu ar fewnwelediad, profiad a ffydd gyfunol teulu cyfan Dewi Sant.

Dywedodd Geraint Williams, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Catholig Dewi Sant:

“Mae Ysbryd a Gwirionedd yn dal pwy ydym ni a phwy yr ydym yn anelu at fod – cymuned Gatholig wedi’i hysbrydoli gan Grist, lle mae Ei gariad yn trawsnewid bywydau trwy ddysgu. Mae hon wedi bod yn broses wirioneddol gydweithredol, wedi’i llunio gan leisiau a phrofiadau ein cymuned coleg cyfan – staff, myfyrwyr, a phartneriaid fel ei gilydd. Gyda’n gilydd, rydym wedi canfod gweledigaeth gyffredin ar gyfer y dyfodol, un sydd wedi’i gwreiddio mewn ffydd, cynhwysiant, a gwasanaeth. Rwy’n credu y bydd y cynllun hwn yn ein harwain i dyfu’n ddyfnach fyth yn ein cenhadaeth, gan alluogi pob aelod o’n cymuned i ffynnu mewn ysbryd ac mewn gwirionedd.”

Mae’r cynllun yn lansio ar adeg arwyddocaol i’r Coleg ac i Gymru, wrth i’r genedl ddechrau ar gyfnod newydd mewn addysg drydyddol drwy sefydlu Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Mae Coleg Dewi Sant, fel yr unig goleg chweched dosbarth Catholig yng Nghymru, yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn y dirwedd esblygol hon, gan wasanaethu un o’r cymunedau mwyaf amrywiol a chynhwysol yn y wlad.

St David's Catholic College, Strategic Plan: Spirit and Truth

Bydd Ysbryd a Gwirionedd yn tywys cyfeiriad y Coleg dros y blynyddoedd nesaf, gan sicrhau bod ffydd, ffurfiant, a’r lles cyffredin yn parhau i fod wrth wraidd popeth y mae’n ei wneud.