
Daeth myfyrwyr Coleg Dewi Sant â chyffro ac ysbrydoliaeth i Ddiwrnod Diwylliant Ysgol Gynradd Mount Stuart, mewn dathliad cyffrous o amrywiaeth ac undod.
Dydd Gwener (Mawrth 21ain) cyfrannodd myfyrwyr Dewi Sant berfformiadau, arddangosfeydd diwylliannol a sgyrsiau ystyrlon i ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6. Roedd y digwyddiad yn un o lawenydd, ymgysylltu a dysgu.
Pan fydd pobl ifanc yn ymweld â disgyblion ysgol gynradd, mae’r argraff yn parhau ymhellach na’r digwyddiad ei hun. Mae’n sbarduno ysbrydoliaeth, hyder, a synnwyr o’r posibl yn eu meddyliau ifanc. Mae gweld myfyrwyr henach yn rhannu eu storïau, doniau a phrofiadau yn helpu’r disgyblion cynradd i ddychmygu eu potential, a gweld llwybrau posibl at y dyfodol.
Mae’r rhyngweithio hyn yn magu cysylltiadau, gan alluogi’r dysgwyr ifancach i deimlo’u bod yn cael eu gweld, eu clywed a’u gwerthfawrogi. Gall presenoldeb mentoriaid henach brwdfrydig, agosatoch, roi argraff hirdymor bod caredigrwydd, creadigrwydd ac arweinyddiaeth yn gallu creu newid yn eu cymdeithas.
Rhannodd pob myfyriwr o Goleg Dewi Sant ei siwrnai, gan adlewyrchu ar eu cefndir, doniau a hunaniaeth. Yn fwy na chyfres o berfformiadau, roedd hyn yn gyfle i hyrwyddo ymwybyddiaeth ddiwylliannol ac i annog disgyblion ifanc i ddathlu pwy ydyn nhw, gan werthfawrogi mor unigryw mae pawb.
Cynhaliwyd gwasanaeth i’r ysgol gyfan wnaeth arddangos cryfderau addysg gynhwysol, gyda’r plant a’r staff yn cael eu hysbrydoli gan yr hyder a chreadigrwydd a welsant. Roedd myfyrwyr Dewi Sant yn fodelau rôl penigamp, sy’n dangos sut gall arweinyddiaeth myfyrwyr wneud argraff ystyrlon wrth adeiladu cymuned fwy cynhwysol a goddefgar.
Mynegodd Mr Hazel, a drefnodd yr ymweliad, ei falchder o’r myfyrwyr:
“Roedd ein myfyrwyr yn anhygoel heddiw. Nid yn unig wnaethon nhw berfformio’n ardderchog ond fe wnaethon nhw gysylltiadau go-iawn gyda’r disgyblion yn Mount Stuart. Mae achlysuron fel hyn yn tynnu sylw at bŵer pobl ifanc, wrth ddod ynghyd, i ysbrydoli a dyrchafu eraill.”
Mae’r digwyddiad hwn yn un o nifer o ffyrdd mae Coleg Dewi Sant yn meithrin arweinyddiaeth, creadigrwydd a chynhwysiant ymysg ein myfyrwyr. Gan hyrwyddo ymwybyddiaeth ddiwylliannol ac amrywiaeth, mae’n myfyrwyr ni’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol- yn eu bywydau eu hun ac ym mywydau eraill.
Darllenwch ragor am Ddiwrnod Diwylliant Coleg Dewi Sant yma.