Rhoddodd myfyrwyr Coleg Dewi Sant ochenaid o ryddhau ddydd Iau, wrth dderbyn eu canlyniadau.
Cyflawnodd dysgwyr ganlyniadau penigamp, gan berfformio’n well na’u cyfoedion yn genedlaethol.
Roedd 31.3% o’r graddau yn A* neu A, sydd i fyny 1.4 pwynt canran o’r cyfartaledd cenedlaethol o 29.9%. Perfformiodd dysgwyr yn well ar bob ffin gradd.
Gwnaeth myfyrwyr yn y Rhaglen Anrhydeddau yn arbennig o dda, gyda 58.2% o’r graddau a gyflawnwyd yn A*-A, ac 83.5% o’r graddau yn A*-B.
Er bob data ac ystadegau yn adrodd stori, y cysylltiad dynol a wnaeth diwrnod canlyniadau mor arbennig. Amlygwyd straeon am lwyddiannau unigol ar fore o ddathlu, gyda myfyrwyr ac athrawon yn derbyn newyddion eu canlyniadau gyda’i gilydd.
Derbyniodd Josh Jones A*A*A*A* ac mae bellach yn mynd ymlaen i astudio Cyfrifiadureg yn Imperial College London. Dywedodd
“Rydw i’n berlewygol am fy nghanlyniadau ac i falch iawn o wybod fod fy ngwaith caled wedi talu ar ei ganfed. Mwynheais fy amser yng Ngholeg Dewi Sant yn fawr. Cefais gymorth gwych gan fy athrawon yn gyson drwy’r flwyddyn”.
Derbyniodd George Bevan A* A A A a bydd bellach yn mynd ymlaen i Brifysgol Aberystwyth i astudio Astudiaethau Ffilm a Theledu. Dywedodd
“Rwy’n falch iawn o sut rydw i wedi gwneud yn fy arholiadau, roeddwn i’n meddwl nad oeddwn i wedi gweithio digon!”
Mae Erin Griffiths wedi bod yn fyfyrwraig benigamp dros y ddwy flynedd ddiweddaf, gyda sawl athro yn mynegi eu llawenydd ei bod wedi derbyn A* A* A* A. Bydd Erin bellach yn cymryd ei lle ym Mhrifysgol Rhydychen i astudio Hanes.
Ymhlith nifer o fyfyrwyr llwyddiannus eraill roedd Ewan May a dderbyniodd A* A* A A. ac a fydd yn astudio Cyfrifeg a Chyllid ym Mhrifysgol Warwick, a Phillips Frilles, a dderbyniodd A* A A B i fynd ymlaen i astudio Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Birmingham. Daeth y ddau i’r coleg ar fore diwrnod canlyniadau i ddathlu eu llwyddiannau gyda ffrindiau, teulu ac athrawon.
Dywedodd Isabel, rhiant myfyriwr a dderbyniodd ei ganlyniadau, “Y penderfyniad gorau wnaeth fy mab erioed oedd cofrestru yng Ngholeg Dewi Sant. Diolch am ddwy flynedd o addysg ragorol”.
Bydd dros 400 o fyfyrwyr bellach yn mynd ymlaen i’r brifysgol, gyda llawer ohonynt yn cael eu dewis cyntaf.
O’r rhai sy’n mynd i’r brifysgol, bydd 44% ohonynt yn mynychu prifysgol Grŵp Russell, a 48% yn mynd i 30 brifysgol y Sutton Trust.
Mae 10 myfyriwr yn mynd ymlaen i astudio Meddygaeth, Deintyddiaeth neu Wyddor Filfeddygol.
Dywedodd y Pennaeth, Geraint Williams “Rydym i gyd yn hynod falch o’r canlyniadau a sut mae’n dangos yr ymroddiad a’r gwaith caled gan fyfyrwyr, a’u hathrawon hefyd.
Er gwaethaf y dirwedd heriol eleni, gyda ffiniau graddau yn gostwng yng Nghymru i gyd-fynd â lefelau cyn-bandemig, mae ein myfyrwyr wedi dangos ymroddiad rhyfeddol ac wedi rhagori. Hyd yn oed os yw ffiniau graddau yn newid o flynyddoedd blaenorol, mae llwyddiant ein myfyrwyr yn parhau i fod yn gyson.
Edrychwn ymlaen nawr at fis Medi, a’r myfyrwyr newydd a fydd yn ymuno â ni. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar feithrin amgylchedd dysgu cefnogol a sicrhau bod pawb yn cyrraedd eu llawn botensial.”