Mae’n foment o falchder i Goleg Dewi Sant wrth i’r sefydliad gael ei ddynodi’n swyddogol fel Coleg Noddfa – cydnabyddiaeth fawreddog sy’n tynnu sylw at ei ymrwymiad i greu amgylchedd croesawgar a chynhwysol i fyfyrwyr sy’n ceisio lloches neu noddfa. Mae’r garreg filltir hon yn amlygu ymroddiad y coleg i feithrin diwylliant o ddiogelwch, dealltwriaeth a pharch i’r holl fyfyrwyr, yn enwedig y rheiny sydd wedi’u dadleoli ac sydd wedi wynebu heriau wrth gael mynediad at addysg.
Mae’r fenter Coleg Noddfa yn rhan o fudiad ar draws y DU sy’n hyrwyddo cynhwysiant mewn addysg. Mae colegau sy’n cyflawni’r statws hwn yn dangos ymrwymiad i hwyluso mynediad at addysg i fyfyrwyr sy’n ceisio noddfa, addysgu eu cymunedau am brofiadau unigolion sy’n cael eu dadleoli, a dathlu’r cyfraniad y mae’r myfyrwyr hyn yn ei wneud at eu campws a’u cymdeithas. Mae’r rhaglen hefyd yn annog cydweithredu â sefydliadau ceiswyr lloches lleol i wthio’r nodau hyn ymhellach.
Cafodd siwrne Coleg Dewi Sant i ddod yn Goleg Noddfa ei chefnogi gan ymdrechion sylweddol i integreiddio egwyddorion noddfa ym mhob agwedd ar fywyd y coleg. Roedd hyn yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o ddadleoli gorfodol ymhlith staff a myfyrwyr, gan ddarparu cymorth pwrpasol i’r rheiny sy’n ceisio lloches, gan ymwreiddio gwerthoedd cynhwysiant ar draws ei bolisïau a’i gwricwlwm.
Yn ogystal â’r ddyletswydd foesol y mae staff yng Ngholeg Dewi Sant yn ei theimlo, mae’r achrediad hefyd yn bwysig wrth ganiatáu i ddysgwyr dyfu’n foesol ac yn foesegol. Drwy integreiddio egwyddorion noddfa ym mywyd y coleg, bydd dysgwyr yn canolbwyntio ar werthoedd fel trugaredd, cyfiawnder, uniondeb a pharch. Bydd yn caniatáu i ddysgwyr weithredu ar unrhyw gyfrifoldeb y maent yn ei deimlo drwy eu dyletswydd gofal at eraill mewn angen, a gwireddu’r cyfrifoldeb hwnnw.
Un o’r ffigyrau allweddol wrth gyflawni hyn oedd Mrs Katie Cummins, yr oedd ei hymroddiad yn hanfodol wrth yrru’r fenter. Roedd ei hymdrechion yn hollbwysig i’r coleg wrth fodloni meini prawf llym a osodwyd gan y rhaglen Colegau Noddfa. Mae’r broses hon yn cynnwys archwilio arferion presennol, ennyn diddordeb cymuned y coleg a meithrin partneriaethau â sefydliadau lleol i gefnogi ceiswyr noddfa.
Mae Coleg Dewi Sant yn parhau i ddangos ei ymrwymiad i noddfa drwy ddathlu cyfraniadau amrywiol ei fyfyrwyr a meithrin amgylchedd cefnogol. Yn rhan o’i ymdrechion parhaus, mae’r coleg yn ymwneud yn weithredol â mentrau sy’n hyrwyddo dealltwriaeth, parch a chydweithrediad â’r gymuned ehangach.
Mae’r gydnabyddiaeth hon yn cadarnhau gwerthoedd Coleg Dewi Sant a’i safle fel y ceffyl blaen wrth greu tirwedd addysgol fwy cynhwysol a thrugarog. Mae’r coleg yn bwriadu cynnal ei ran yn y rhwydwaith Colegau Noddfa i sicrhau bod yr egwyddorion hyn yn parhau wrth wraidd ei genhadaeth.
Am ragor o wybodaeth am y fenter Coleg Noddfa, ewch i wefan City of Sanctuary UK. I ddysgu mwy am Addewid Dewi Sant a’i ymrwymiad ehangach, ewch yma.