O goliau dramatig i ennill yn y funud olaf i fuddugoliaethau ysgubol, mae ein timau chwaraeon yng Ngholeg Dewi Sant wedi cael dechrau gwych i’r flwyddyn.
Yn wir, ar draws ein timau rygbi, pêl-droed a phêl-fasged (i fechgyn ac i ferched), nid yw Dewi Sant wedi colli gêm gystadleuol eto.
Dair blynedd oddi ar i rygbi ddychwelyd i Goleg Dewi Sant, mae’r rhaglen yn mynd o nerth i nerth ac yn addo datblygu’n flwyddyn fwyaf lwyddiannus erioed.

Gyda rhai gemau nawr yn cael eu chwarae ar Faes Rec y Rhath,mae’n haws i’r myfyrwyr ddod i gefnogi’r tîm.
Mae’r gefnogaeth ychwanegol fel petai wedi cael effaith uniongyrchol, gan i’r tîm sgubo i fuddugoliaeth yn erbyn Ysgol Esgob Llandaf gan 47-0.

Aeth y bois â’r momentwm i gêm nesaf yr ymgyrch yn erbyn Ysgol Bro Morgannwg.
Roedd hi’n arddangosfa o oruchafiaeth, gyda phedair cais a dau drosiad i sicrhau buddugoliaeth 24-0 a phum pwynt arall.

Gyda deg o bwyntiau ar y bwrdd eisoes, bydd y tîm yn chwilio am fuddugoliaeth arall yn eu gornest nesaf yn erbyn Y Pant yn St Peter’s.
Mae hi wedi bod yn ddechrau gwefreiddiol i’r tymor ar gyfer yr Academi Bêl-droed eleni.

Enillodd tîm cyntaf y bechgyn eu gêm gyntaf, un gyfeillgar yn erbyn Sefydliad Dinas Caerdydd, 5-0.
Nesa daeth y gêm go-iawn gyntaf yn eu hymgyrch, a orffennodd yn gyfartal ar ôl gornest galed yng Ngholeg y Cymoedd.

Hawliodd y tîm eu buddugoliaeth gystadleuol gyntaf wythnos yn ddiweddarach mewn gêm gwpan uchel ei sgoriau yn erbyn Coleg Caerdydd a’r Fro.
Wedi 90 munud wyllt, y sgôr oedd 6-6, ond diolch i rai ciciau gwych o’r smotyn, mae Dewi Sant wedi hawlio’u lle yn y rownd nesaf.
Fel ein rhaglenni eraill, mae’n siapo i fod yn flwyddyn anhygoel arall i Bêl-fasged Dewi Sant.

Aeth y bechgyn ati i gael dechrau gwych i ffwrdd yn erbyn UCS, gan sgorio buddugoliaeth anferth o 88-55.
Daeth Mike Wells at frig y daflen sgorio dros y Seintiau, gan sgorio 20 pwynt, tra bod moment orau’r gêm pan sgoriodd Maziek Zelga fwystfil o ddowc dros ddau chwaraewr o UCS.

Roedd ail gêm y tymor yr un mor gofiadwy, wrth i’n timau cyntaf ac ail fynd ati yn erbyn ei gilydd yn rownd gyntaf Cwpan AoC.
Gwnaeth y ddau dîm ymdrechion ardderchog, gyda balchder wrth gystadlu’n agos am fwyafrif y gêm. Fodd bynnag, wrth i’r gêm fynd yn ei blaen, aeth y tîm cyntaf yn eu blaenau ac ennill gan 80-30.

Buodd hi’n gychwyn clodfawr i dîm y merched, a chwaraeodd BUCS Met Caerdydd yn eu gêm agoriadol.
Roedd hi’n ornest dynn, gyda’r timoedd ar y blaen yn eu tro drwy gydol y gêm. Fodd bynnag, dangosodd y merched reolaeth pan oedd ei angen fwyaf, gan sicrhau buddugoliaeth gan un pwynt wrth i’r gêm orffen 37-36 yn eu plaid.
Gyda’r flwyddyn ysgol wedi sefydlu a’r timoedd chwaraeon wrthi’n ddyfal, mae, 26-27 yn siapo i fod yn ymgyrch i’w chofio.
Felly dewch i lawr i gadw sŵn a chefnogi’r timoedd!