Students on trip to see Welsh community in Patagonia.

Y tymor diwethaf, dathlodd Coleg Dewi Sant gysylltiadau rhyngwladol mewn amrywiaeth o ffyrdd, ar y campws a thu hwnt.

Yn ogystal â chroesawu myfyrwyr o Ffrainc, Japan a Pheriw, gwnaeth rhai o’n dysgwyr ein hunain daith unwaith mewn oes i ochr arall y byd.

Students at viewpoint in Patagoina

Teithio i Batagonia

Cyn gwyliau’r Pasg, gwnaeth 11 o’n myfyrwyr a dau aelod o staff y daith hir i Batagonia, yr Ariannin.

Roedd yn daith a oedd nid yn unig yn caniatáu i fyfyrwyr fwynhau eu hunain a gweld y byd ehangach, ond hefyd i ddysgu mwy am y gymuned Gymreig ym Mhatagonia.


Archwilio Gwreiddiau Cymreig Patagonia

Dechreuodd y trip gydag ymweliad i Borth Madryn, lle cyrhaeddodd y llong Mimosa ym mis Gorffennaf  1865.

Students in front of a ship model in Argentina

Roedd y llong yn cludo 153 o deithwyr ynghyd â 18 o griw, dan arweiniad y Capten George Pepperell, gyda’r uchelgais o sefydlu gwladfa Gymreig.

I ddysgu mwy am hanes y ddinas, ymwelodd ein myfyrwyr â’r amgueddfa a Punta Cuevas—y safle hanesyddol lle bu’r ymsefydlwyr cynnar yn byw gyntaf.


Cysylltu â’r gymuned Gymreig ym Mhatagonia

Ar ôl gadael Porth Madryn, symudoedd ein teithwyr beiddgar i Drelew a’r ardal.

Students from Wales and Patagonia posing

Yma, cafodd y dysgwyr gyfle i ymweld â Choleg Camwy, y Gaiman ac Ysgol Gynradd y Gaiman.

Mynychodd y grŵp wersi Cymraeg yn y ddau sefydliad, gan gael cipolwg ar sut mae’r iaith Gymraeg yn parhau i gael ei defnyddio ar ochr arall y byd.

Roedd amser hefyd i archwilio ardal Trelew.

St David's students visit a primary school in Argentina

Gwelson nhw eitemau a ddaeth y mudwyr cyntaf gyda hwy mewn amgueddfa leol, ac ymweld ag amgueddfa ddeinosoriaid enwog lleol, diolch i argymhelliad y Maer.


Croesi’r Paith

Yn dilyn taith fws dros nos ar draws y paith, cyrhaeddodd ein dysgwyr eu cyrchfan nesaf: Esquel.

St David's students in front of Esquel sign in Patagonia.

Yma, ymwelson nhw â Laguna La Zeta, gwarchodfa natur syfrdanol, yn ogystal â’r cymdeithasau Cymraeg yn Esquel ac Ysgol y Cwm yn Nhrefelin.

Yn olaf, i gloi’r daith, teithiodd y grŵp i brifddinas yr Ariannin, Buenos Aires.

St David's students in front of Tango bar

Ymhlith uchafbwyntiau’r ymweliad hwn roedd taith i La Boca, Ysgol Boca Juniors, a phrofi sioe Tango draddodiadol.

Profiad bythgofiadwy

Drwy gydol y daith, cyfarfu myfyrwyr ag eraill oedd yn dysgu Cymraeg filoedd o filltiroedd o Gymru, gan gael cipolwg unigryw ar dreftadaeth ddiwylliannol y wlad dramor.

Roedd yn brofiad ysbrydoledig i bawb a oedd yn rhan ohono, gan adael myfyrwyr â gwerthfawrogiad dyfnach o’r iaith Gymraeg a’r gymuned Gymreig ym Mhatagonia.