Bu hi’n ddiweddglo gwych i’r myfyrwyr yma yng Ngholeg Dewi Sant eleni, gyda hwythau’n derbyn eu canlyniadau Safon Uwch ar adeg pan ddychwelodd dysgwyr at arholiadau eto.
Medrodd ein dysgwyr oll i oresgyn yr heriau a ddaeth yn sgil dwy flynedd heriol, oherwydd y pandemig, ac ennill canlyniadau Safon Uwch rhagorol.
Llwyddodd myfyrwyr Coleg Dewi Sant i ragori ar y gyfradd genedlaethol ar gyfartaledd, gyda 46.5% ohonynt yn ennill graddau A*- A.
Rhoddir caniatâd i fyfyrwyr gasglu eu canlyniadau o’r coleg am y tro cyntaf ers 3 blynedd, ac er yr holl ystadegau addawol a gafodd eu cyhoeddi, roedd y gwenau ar wynebau, y dathliadau, a’u hanesion yn dweud y cyfan.
Gwnaeth straeon am nosweithiau digwsg a theimladau o fod ar bigau’r drain droi’n sgyrsiau cadarnhaol rhyngom, ac yng nghanol yr holl ddathlu, clywyd: ‘rwyf wedi croesi’r llinell derfyn!’ a ‘beth nesaf?’
Mae dros 400 o’n dysgwyr wedi symud ymlaen i’r brifysgol, gyda sawl un ohonynt yn mynd drwy’r broses glirio UCAS ar hyn o bryd. Symudodd eraill ymlaen i brentisiaethau gradd, prentisiaethau, cyflogaeth, a blwyddyn flwch.
Mae tri o’n myfyrwyr wedi symud ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen, ac yn eu plith yw Nikolas Haarhoff, sy’n mynd i astudio Cyfrifiadureg.
Enillodd Mel Benedict ganlyniadau addawol, a bydd hi’n symud ymlaen i ddarllen y Gwyddorau Dynol, Cymdeithasol a Gwleidyddol ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Symudir ein myfyrwyr ymlaen i brifysgolion eang, gan gynnwys nifer o’r prifysgolion gorau yn y DU. Yn ogystal â Phrifysgol Rhydychen a Chaergrawnt, maent yn symud ymlaen i LSE, Durham, UCL, Warwick, Caerfaddon, a Loughborough – ystyrir pob un o’r rhain yn brifysgolion gorau’r DU.
Parha’r Gyfraith i fod yn ddyhead gyrfaol poblogaidd eleni, gyda sawl myfyriwr yn symud ymlaen i astudio’r pwnc yn y brifysgol, ac yn eu plith yw Elliot Morrissey, sy’n mynd i astudio ym Mhrifysgol Durham, a Martin Madamidola, sy’n mynd i Brifysgol Exeter.
Dywedodd y Pennaeth, Mark Leighfield;
‘Rydym yn hynod falch o gyraeddiadau ein holl fyfyrwyr.
Mae’r canlyniadau eleni yn dyst i’r gwaith caled a’r hyblygrwydd a ddangoswyd gan bawb o fewn cymuned y coleg, a gallwn edrych ‘nôl llawn balchder ar yr hyn a gyflawnom fel coleg.
Gyda’r canlyniadau hyn a’r sgiliau a fagwyd ganddynt trwy gydol eu hamser yn y coleg, hyderwn y bydd ein myfyrwyr yn barod i wynebu’r heriau newydd sydd o’u blaenau, beth bynnag fo’u dewis llwybr.