Er gwaetha dechrau glawiog fore Sul, daeth yn ddiwrnod llawn gwên, cefnogaeth a phwrpas ar y cyd wrth i’n myfyrwyr wirfoddoli ar Daith Gerdded 5 km Maggie’s i’r Teulu, i godi arian angenrheidiol at ofal canser.
Dechreuodd y daith gyda ffrwydriad o egni wrth i’r band gorymdeithiol arwain y cerddwyr o’r llinell gychwyn. Roedd gwirfoddolwyr o’r coleg ar gael ar hyd y llwybr, yn nodi’r ffordd a chynnig anogaeth a chefnogaeth i’r cerddwyr wrth iddynt ymlwybro o gwmpas y parc.

Wrth gyrraedd hanner ffordd, cafwyd perfformiadau hwylus band ukelele i godi calon, drwy ganu tonau poblogaidd fel Country Roads a Hit the Road Jack, a gododd yr hwyl a chreu ymdeimlad o gymuned go-iawn.
Yn goron i’r cyffro, cafwyd ymddangosiad syrpreis gan chwaraewr rygbi Cymru Teddy Williams i gynnig gair o ysgogiad cyn dechrau’r daith. Er nad oedd yn gallu ymuno o ganlyniad i’w anaf diweddar, roedd ei ymweliad yn ysbrydoliaeth i’r cerddwyr.

Wrth gwblhau’r daith, cafodd y cerddwyr eu croesawu nôl gyda detholiad o deisennau a brechdanau, yn ogystal â pherfformiadau gan ddau o’n myfyrwyr dawnus, Iren a Lily — ffordd berffaith i orffen prynhawn ystyrlon.
Dwedodd Patrik, un o’n myfyrwyr wnaeth wirfoddoli, “Roedd hi wir yn neis i helpu mas a gweld pa mor angerddol mae pobl ynghylch brwydro canser. Gwnaeth hyn i fi werthfawrogi pa mor bwysig mae digwyddiadau fel hyn a sut maen nhw’n dod â phobl at ei gilydd er mwyn achos da.”
Mae dod at ein gilydd mewn digwyddiad cymunedol fel Taith Gerdded Maggie’s nid yn unig yn cefnogi elusen anhygoel, ond hefyd yn galluogi myfyrwyr i gysylltu ag eraill, profi safbwynt newydd, a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.

Mae Maggie’s yn darparu cefnogaeth a chyngor am ddim ar gyfer pobl sy’n byw gyda chanser, a’u teuluoedd, ar draws y DU. Mae cymryd rhan mewn digwyddiadau fel hyn yn helpu sicrhau y gallan nhw barhau i gynnig gofal a thrugaredd mawr eu hangen.