Students watching from the Senedd viewing gallary.

Mae ymgysylltu â’ch cymuned a chael dweud eich dweud yn y penderfyniadau sy’n llunio’ch dyfodol yn un o’r pethau pwysicaf y gall person ifanc ei wneud, ac ar hyn o bryd, mae’r cyfle hwnnw wrth law.

Er ein bod yn mynd i mewn i gyfnod prysur a llawn straen o’r flwyddyn, mae cofrestru i bleidleisio’n hollbwysig ac mae’n cymryd llai na phum munud.

Beth sydd angen i chi wybod am gofrestru i bleidleisio yng Nghymru

Ewch i cofrestru i bleidleisio, a mewnbynnu eich manylion a’ch rhif Yswiriant Gwladol (N.I.) Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi derbyn eich rhif YG eto, mae hi’n bosibl cofrestru hebddo.

Yng Nghymru, gellir cofrestru i bleidleisio o 14 oed ymlaen, felly gallech chi gael aelod ifancach o’ch teulu i gofrestru hefyd.

image of the Welsh Senedd

Bydd Etholiad Senedd Cymru 2026 yn digwydd ar 7 Mai, ond y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yw 20 Ebrill.  Gwnewch yn siŵr na fyddwch yn colli’ch cyfle.

Pam mae cofrestru i bleidleisio mor bwysig

Y rheswm cyntaf a mwyaf amlwg dros gofrestru yw cael eich llais wedi’i glywed. Os nad ydych wedi cofrestru, ni fyddwch yn gallu pleidleisio yn Etholiad y Senedd 2026. Felly, gallai’r pethau sydd bwysicaf i chi fynd heb eu cynrychioli o gwbl.

Ar ben hynny, gyda’r Senedd yn symud i system rhestr gyfrannol gaeedig a nifer yr etholaethau a’r ASau yn cynyddu, mae pob pleidlais yn cyfrif yn fwy nag erioed.

Roedd hyn yn rhywbeth yr oedd yr AS dros Ganol Caerdydd Jenny Rathbone yn awyddus i’w bwysleisio pan ymwelodd â’r coleg yn gynharach y mis hwn, gan ddweud:

“Dw i’n gobeithio bydd pob un myfyriwr yn cofrestru i bleidleisio, achos os na fyddwch wedi cofrestru, fyddwch chi ddim yn gallu pleidleisio.”

Mae na fanteision eraill go iawn, ymarferol, i fyfyrwyr gofrestru i bleidleisio hefyd. Mae cofrestru i bleidleisio’n gallu rhoi hwb i’ch sgôr credyd. Mae hyn yn helpu pan fyddwch yn prynu tŷ, cymryd benthyciad, neu’n rhentu.

Mae’n ffordd wych o sicrhau eich bod yn cael dweud eich dweud mewn etholiadau yn y dyfodol ac unrhyw refferendwm a ddaw.

Dweud eich dweud yn Etholiad Senedd Cymru 2026

Gallwch chi dalu trethi, gwneud penderfyniadau mawr am eich bywyd, a chyfrannu at eich cymuned. Felly pam na ddylech chi ymgysylltu â’r broses wleidyddol hefyd?

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru i bleidleisio yng Nghymru cyn y dyddiad cau, 20 Ebrill. Mae’n cymryd pum munud, ond gall wneud gwahaniaeth am gyfnod hirach o lawer.