Ymwelodd aelodau o’n Cyngor Myfyrwyr â’r Senedd yr wythnos hon i glywed gan oroeswyr, ymgyrchwyr ac arweinwyr elusennau am realiti trais yn erbyn menywod a’r gwaith sy’n cael ei wneud ledled Cymru i fynd i’r afael ag ef.
Cynhaliwyd yr ymweliad cyn Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod ar 25 Tachwedd, dyddiad pwysig sy’n galw ar bobl ledled y byd i herio trais, cefnogi goroeswyr a gweithio tuag at gymdeithas fwy diogel i fenywod a merched.
Clywodd y myfyrwyr gan Ruth Dodsworth OBE, cyflwynydd teledu, newyddiadurwraig a goroeswr cam-drin domestig, ochr yn ochr â chynrychiolwyr o sefydliadau sy’n cefnogi menywod yr effeithir arnynt gan gam-drin domestig a digartrefedd.

Archwiliodd y drafodaeth yr heriau y mae menywod yn eu hwynebu yng Nghymru heddiw, y rhwystrau a all atal goroeswyr rhag cael gafael ar gymorth, a rôl hanfodol sefydliadau sy’n darparu diogelwch, cefnogaeth a dechrau newydd.
Mae Ruth Dodsworth yn adnabyddus am ei gwaith fel cyflwynydd teledu, ond y tu ôl i’r llenni, dioddefodd flynyddoedd o gam-drin domestig a rheolaeth orfodol gan ei chyn-ŵr.
Am bron i 20 mlynedd, profodd Ruth ymddygiad rheoli, ynysu a thrais corfforol. Yn 2019, gwnaeth y penderfyniad dewr i geisio cymorth gan yr heddlu ar ôl ofni am ei bywyd.
Ers rhannu ei stori yn gyhoeddus, mae Ruth wedi dod yn ymgyrchydd amlwg, gan godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig a rheolaeth orfodol, ac annog eraill i adnabod arwyddion cam-drin a cheisio cymorth.
Mae ei phrofiad yn tynnu sylw at realiti pwysig: nid yw cam-drin domestig bob amser yn weladwy, a gall effeithio ar bobl o bob cefndir. Nid yw bob amser yn hawdd adnabod yr hyn sy’n digwydd neu ddod o hyd i ffordd allan.
Ffederasiwn Sefydliad y Merched drefnodd y digwyddiad, gan ddod â phobl a sefydliadau ynghŷd i godi ymwybyddiaeth o drais sy’n seiliedig ar rhywedd ac i gefnogi gweithredu er mwyn ei waredu.
Mae gan Sefydliad y Merched (WI) hanes hir o ymgyrchu ar faterion sy’n effeithio ar fenywod a chymunedau. Mae ei waith yng Nghymru yn cynnwys dod â llunwyr polisi, elusennau ac ymgyrchwyr ynghyd i drafod yr heriau sy’n wynebu menywod, ac i nodi ffyrdd o greu newid.
Yn ystod y drafodaeth banel, nodwyd eu bod yn ‘dathlu’ eu 50fed flwyddyn, ond gyda thristwch dwfn mai mater y maent wedi bod yn ei drafod ac yn ei herio ers 50 mlynedd ydyw.
Roedd y panel yn cynnwys cynrychiolwyr o Llamau, elusen ddigartrefedd yng Nghymru sy’n cefnogi pobl ifanc a menywod agored i niwed, gan gynnwys y rhai sy’n dianc rhag cam-drin domestig.
Mae Llamau yn darparu llety a llochesi i fenywod yn unig, ynghyd â chymorth arbenigol i helpu menywod a phlant i symud i ffwrdd o gam-drin ac ailadeiladu eu bywydau mewn diogelwch. Mae’r elusen hefyd yn gweithio i fynd i’r afael â materion ehangach a all arwain at ddigartrefedd, gan gynnwys trawma, tlodi a heriau iechyd meddwl.
Yn ystod y drafodaeth, amlygwyd graddfa’r galw am gymorth yn glir iawn. Soniodd y cynrychiolwyr am dderbyn bron i 1,800 o alwadau mewn un mis, gan dynnu sylw at y nifer enfawr o bobl sy’n ceisio cymorth a’r pwysau sydd ar wasanaethau.

Y tu ôl i bob galwad mae person a allai fod yn profi ofn, ansicrwydd neu gamdriniaeth, ac sy’n chwilio am ffordd o fod yn ddiogel. Mae sefydliadau fel Llamau yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi menywod a phlant, gan sicrhau nad oes rhaid iddynt wynebu’r sefyllfaoedd hyn ar eu pen eu hunain.
Bob blwyddyn, mae pobl ledled y byd yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod ar 25 Tachwedd. Mae’n lansio’r 16 Diwrnod byd-eang o Weithredu yn Erbyn Trais ar sail Rhywedd, sy’n rhedeg tan 10 Rhagfyr, Diwrnod Hawliau Dynol.
Mae’r ymgyrch yn annog pobl i siarad yn erbyn trais, herio agweddau niweidiol a chefnogi goroeswyr. Mae hefyd yn tynnu sylw at yr angen am amddiffyniadau cryfach, gwasanaethau cymorth hygyrch ac atebolrwydd i’r rhai sy’n cyflawni cam-drin.
I bobl ifanc, mae’r sgyrsiau hyn yn arbennig o bwysig. Mae’r agweddau rydyn ni’n eu datblygu, y perthnasoedd rydyn ni’n eu hadeiladu a’r ffordd rydyn ni’n trin eraill i gyd yn cyfrannu at y diwylliant o’n cwmpas.
Mae gan bawb rôl mewn herio ymddygiad sy’n achosi niwed, adnabod arwyddion cam-drin a helpu i greu perthnasoedd a chymunedau wedi’u hadeiladu ar barch.
Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn yn cynnig cefnogaeth am ddim a chyfrinachol 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, i unrhyw un sy’n profi trais yn y cartref neu drais rhywiol yng Nghymru.
Ffoniwch 0808 80 10 800, neu ewch i https://www.llyw.cymru/byw-heb-ofn
Mewn argyfwng, ffoniwch 999.