St David's Students waving on a hill

Yng Ngholeg Dewi Sant, rydym yn baeddu ein dwylo i wneud effaith sy’n para ar amgylchedd y Coleg.

Mae myfyrwyr a staff  Cymdeithas yr Amgylchedd wedi plannu perllan fach o goed ffrwythau a llwyni sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt ar ein tiroedd, fel rhan o gynllun arloesedd cynaliadwyedd y Coleg.

Coed wedi’i rhoi gan Goed Caerdydd

Darparwyd y coed a’r llwyni yn rhodd gan Goed Caerdydd  fel rhan o ymdrech hir-dymor Cyngor Caerdydd i gynyddu gorchudd coed ar draws y ddinas, a chefnogi ei strategaeth dros yr amgylchedd, Un Blaned.

Students behind shovels

Mae’r berllan, a gynlluniwyd yn ofalus gan y myfyrwyr, yn cynnwys amrywiaeth o goed ffrwythau bwytadwy- afalau, eirin a cheirios. Mae pob math yn goeden frodorol yo Gymru a chawsant eu tyfu’n lleol, naill ai ym meithrinfa Coed Caerdydd yn Fferm Fforest, neu gan dyfwr ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Dysgu drwy Blannu

Yn ystod y diwrnod plannu, dysgodd y myfyrwyr a’r staff sut i blannu a gofalu am goed er mwyn rhoi’r cyfle gorau iddyn nhw i ffynnu.

Unwaith iddi sefydlu, bydd y berllan yn cefnogi bioamrywiaeth ar y campws, yn darparu bwyd a chysgod i fywyd gwyllt, a chynnig ffynhonnell gynaliadwy o ffrwythau am ddim i’r staff a myfyrwyr.

Rhan o Ymdrechion Cynaliadwyedd Ehangach

Mae’r berllan yn rhan o gynllun ehangach y Coleg, uchelgeisiau Eco-Ysgolion Baner Werdd.  Mae Cymdeithas yr Amgylchedd wedi arwain ystod o brosiectau amgylcheddol gyda’r myfyrwyr, yn cynnwys arwerthiant planhigion, casglu sbwriel, arolygon bioamrywiaeth, cymryd rhan yn yr arolwg Gwylio Adar y Gerddi, a chreu anneddau i drychfilod a phryfed.

Mae’r grŵp hefyd wedi gweithio gyda staff y coleg i leihau defnydd o blastigion defnydd un-tro ac annog defnydd o gwpanau a photeli y gellir eu hail-lenwi, sy’n cryfhau ein hymdrechion cynaliadwyedd ymhellach.

Two learners planting a tree

Dywedodd yr athrawes Fioleg, Mrs Bird:

“Bydd y berllan hon yn waddol parhaol a grëwyd gan fyfyrwyr a staff sy’n angerddol dros wella’r amgylchedd yma yn y Coleg a thu hwnt. Gobeithiwn mai dyma’r cam cyntaf tuag at ardd amgylcheddol barhaol ar y safle.”

Gall myfyrwyr â diddordeb mewn ymuno â Chymdeithas yr Amgylchedd Dewi Sant a chymryd rhan mewn prosiectau amgylcheddol yn y dyfodol ddarganfod mwy ar dudalen  Teams y coleg