Cyfnodau Asesu
Mae blwyddyn y Coleg wedi’i rhannu’n gyfnodau asesu sy’n seiliedig i raddau helaeth ar y tymhorau academaidd. Drwy gydol eu cyrsiau, bydd dysgwyr yn cwblhau aseiniadau, profion, NEAs a/neu’n ymarfer cyn-bapurau (yn dibynnu ar y pwnc ac amser y flwyddyn) ac yn derbyn adborth gan eu hathrawon pwnc. Bydd hyn yn bwydo i’r hyn a elwir ar Cedar yn ‘Pwynt Asesu Coleg’. Bydd y PAC yn giplun o gynnydd y dysgwr gan ystyried yr holl waith a gynhyrchwyd gan y dysgwr hyd at y pwynt hwnnw. Gellir meddwl am y PAC fel gradd cyflawniad cyfredol dysgwr.
Ar gyfer 2025-2026, bydd gradd y CAP yn cael ei diweddaru’n rheolaidd a bydd ar gael i rieni a dysgwyr drwy Cedar. Ar gyfer cymwysterau AS/A2, TGAU, a CBAC Cymhwysol, bydd hyn yn cael ei raddio ar raddfa A*, A, B, C, E, U neu ddim yn berthnasol. Ar gyfer cymwysterau galwedigaethol, bydd hyn ar raddfa Rhagoriaeth*, Rhagoriaeth, Teilyngdod, Pasio, Methu (wedi’i farcio fel D*, D, M, P, F yn y drefn honno).
Lle mae gwaith cwrs yn cael ei wneud a heb ei gwblhau eto, rhoddir gradd Amherthnasol.
Noder – mae’r radd cyflawniad yn ddangosydd o gynnydd hyd yn hyn, nid yn warant o berfformiad yn y dyfodol.
Gradd Darged
Mae’r radd darged yn deillio o sgôr TGAU dysgwr wrth iddo ddod i mewn i’r Coleg. Fodd bynnag, i ddysgwr Chweched Uchaf, os yw eu perfformiad yn eu harholiad AS yn uwch na’r radd darged hon, yna gall y radd darged symud i fyny yn unol â hynny. Gall y radd darged newid os yw dysgwr yn perfformio’n gyson uwchlaw eu gradd darged gychwynnol.
Graddau Ymgysylltiad
Ystod graddau ymdrech yw 1-5 a chânt eu rhoi yn seiliedig ar y meini prawf isod:
1 – Ymgysylltiad Ardderchog
Mae Ymgysylltiad Ardderchog yn golygu bod y dysgwr yn ymrwymedig i gael y mwyaf allan o bob cyfle i ddysgu sydd ar gael.
2- Ymgysylltiad Da
Mae Ymgysylltiad Da yn golygu bod y dysgwr yn gyfrifol ac yn gweithio’n galed, ac yn amlwg wedi ymgysylltu’n dda â’u pwnc.
3- Ymgysylltiad Boddhaol
Mae Ymgysylltiad Boddhaol yn golygu bod y dysgwr siŵr o fod yn gwneud mwyafrif o’r pethau y dylai eu gwneud ond heb fod yn gwthio’u hun neu wneud y mwyaf o bob cyfle sydd ar gael.
4- Ymgysylltiad Gwael
Mae Ymgysylltiad Gwael yn golygu bod y dysgwr yn aml heb fod yn ymgysylltu’n weithgar â gwersi dosbarth ac mae hyn yn amharu ar eu cynnydd.
5- Ymgysylltiad Gwael Iawn
Mae Ymgysylltiad Gwael Iawn yn golygu bod y dysgwr yn dangos bach iawn o ffocws na chymryd rhan ym mwyafrif eu gwersi.
Presenoldeb
Mae presenoldeb hefyd yn cael ei olrhain yn fyw drwy Cedar a’i roi fel canran. Mae tystiolaeth yn awgrymu mai presenoldeb sy’n darparu’r arwydd cliriaf o lwyddiant yn y chweched dosbarth. Mae ymchwil yn dangos y gall gostyngiad o 10% mewn presenoldeb arwain at danberfformio o leiaf un radd mewn cwrs. Mae presenoldeb rhagorol yn ddangosydd o gymhelliant ac ymroddiad i ddysgu. Mae wedi profi i arwain at debygolrwydd mwy o symud ymlaen i addysg uwch, graddau gwell, ymgysylltiad, cyfeillgarwch, a sgiliau cymdeithasol gwell.
Dylai pob dysgwr ddeall y disgwyliad y dylent weithio’n barhaus tuag at nod o bresenoldeb a phrydlondeb o 100%. Dylid cyfleu pob absenoldeb i athrawon pwnc ar gyfer y diwrnod hwnnw, yn ogystal â’u tiwtor bugeiliol.
Er mwyn awdurdodi absenoldeb i’r rhai dan 18 oed, rhaid i’r Perthynas Agosaf (NOK) hefyd gysylltu â’r tiwtor bugeiliol.
Nid yn unig y mae Cedar yn olrhain presenoldeb fel canran, ond bydd hefyd yn eich hysbysu faint o oriau a gollwyd ar gyfer pob cwrs, ar draws y flwyddyn.