Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi bydd gwyl banc ychwanegol dydd Llun – Medi 19eg i nodi achlysur Angladd Gwladol Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.
Bydd Coleg Chweched Dosbarth Dewi Sant ar gau dydd Llun – Medi 19eg. Bydd y Coleg yn ail-agor ar ddydd Mawrth – Medi 20fed yn dilyn diwedd y cyfnod swyddogol, o alaru.
Ymunwn a’r genedl i alaru am farwolaeth Ei Mawrhydi, Frenhines Elizabeth II, esiampl ddisglair o gysegriad i ddyletswydd a gwasanaeth i eraill, yn was i’w phobl ac i’r Arglwydd.
Gweddiwn am orffwysfa ei henaid, a diddanwch ei theulu, iddynt gael eu cysuro yn eu tristwch.
A gweddiwn hefyd dros ei Fawrhydi, y Brenin Siarl wrth iddo ddechrau ar ei weinidogaeth o wasanaeth i’w bobl.