Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i’ch diogelwch a’ch lles. Mae gan bawb yr hawl i deimlo’n ddiogel yn y coleg, ac mae pawb yn gyfrifol am sicrhau bod y rhai o’n cwmpas yn teimlo’n ddiogel hefyd.
Gallwch wneud hyn mewn nifer o ffyrdd:
Cyswllt:
- Geraint Williams, Uwch-berson Dynodedig (M09)
- Jamie Beynon, Dirprwy Uwch Berson Dynodedig ar 02920 431 853 (ystafell M09)
- Neu, siaradwch â’ch tiwtor bugeiliol, aelod o’r tîm lles neu athro
Bydd Person Diogelu Dynodedig yn siarad â chi o fewn 24 awr ac yn cofnodi’r holl wybodaeth berthnasol gan ddefnyddio’r Cofnod o Bryder Diogelu. Bydd hyn yn sail i unrhyw benderfyniad i atgyfeirio a bydd yn cynnwys y wybodaeth sydd ei hangen os gwneir atgyfeiriad.
Mae pawb yn chwarae rhan mewn sicrhau bod pawb arall yn ddiogel. Os ydych yn teimlo’n anniogel, yn bryderus am ddiogelwch person arall neu wedi gweld unrhyw ymddygiad bwlio, bygythiol, hiliol neu wahaniaethol gennych chi, rhowch wybod i ni yn y ffurflen isod.
Bydd eich pryder yn cael ei gofnodi’n ddienw oni bai eich bod am rannu eich manylion gyda ni.