Mae pêl-fasged wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd Maisie Harrhy ers iddi ymuno â Thîm Archers Met Caerdydd yn 11 oed, ac yno, gwnaeth Maisie gynnydd aruthrol yng ngrwpiau iau’r tîm. Roedd ei gallu i gystadlu’n dod yn naturiol, yn enwedig pan ymunodd Maisie â Chlwb y ‘Vale Vipers’, lle gweithiodd hi’n galed i wella’i sgiliau drwy chwarae yn erbyn y dynion, ac ennill ei lle i gynrychioli Cymru ar sawl achlysur. Yn 2018 a 2019, roedd Maisie yn gapten Tîm Cymru ym Mhencampwriaeth Pêl-fasged Ewropeaidd FIBA dan 16.

Ar ôl amser llwyddiannus yn cystadlu mewn timau iau, yn ogystal ag ennill teitl cynghrair yn y broses, daeth Maisie yn aelod o dîm pêl-fasged y menywod pan roedd hi’n 15 oed. Yn gyflym, cafodd Maisie ei hadnabod fel chwaraewr amlwg, a chyn pen dim, roedd hi’n dangos sgiliau fel arweinydd yn ail dîm yr Archers. Fel un o’r 5 dechreuwyr newydd yn Nhîm y menywod, roedd rôl Maisie yn un hanfodol pan goronwyd ei thîm yn Bencampwyr Cynghrair Pêl-fasged genedlaethol Lloegr (Adran 2), a phan gafodd y tîm yna’i ddyrchafu i Adran 1 y cynghrair yn 2020.

Ymunodd Maisie â Choleg Dewi Sant yn 2019, lle astudiodd hi UG/Safon Uwch Addysg Gorfforol, Bioleg, a Seicoleg, ac roedd hi’n rhan o’r Rhaglen Anrhydedd hefyd. Gwnaeth ei symudiad i Goleg Dewi Sant ganiatáu iddi barhau â’i hymarfer pêl-fasged o gwmpas ei hamserlen, gyda mynediad cyfleus i’r cyfleusterau a’r sesiynau hyfforddiant ym Mhrifysgol Met Caerdydd. Cryfhawyd y cysylltiad rhwng Tîm yr Archers a Choleg Dewi Sant yn 2019 pan ddaeth Sarah Wagstaff hefyd yn hyfforddwraig tîm pêl-fasged Coleg Dewi Sant.

Oherwydd ei hetheg gwaith a’i lle sefydledig yn Nhîm Archers Met Caerdydd, mae Maisie yn esiampl i’w chyd-fyfyrwyr yng Ngholeg Dewi Sant, yn enwedig y rhai sydd am ddilyn yn ôl ei thraed hi.

Yn ystod tymor 2020-2021, chwaraeodd Maisie am y tro cyntaf gyda thîm WBBL, ar ôl oriau maith o waith caled yn mynd i sesiynau ymarfer corff a hyfforddiant yn gynnar yn y bore. Nid yn hir ar ôl cyflawni’r gamp hon, derbyniodd Maisie y newyddion da am ei hysgoloriaeth lawn i Academi Wyddonol Putnam yn Connecticut, UDA.

Dywedodd yr Hyfforddwraig, Sarah Wagstaff, “Roedd chwarae pêl-fasged yn America wastad yn uchelgais i Maisie, ac felly, roeddwn ni gyd yn falch iawn o glywed y newyddion am ei hysgoloriaeth i Academi Wyddonol Putnam, Connecticut. Bydd Maisie yn mynd i Connecticut ar ddiwedd yr Haf er mwyn ymuno â’r ysgol, ac rydym yn awyddus i glywed am ei chynnydd yno”.