Pwrpas sy’n ein Gyrru

Wedi’n gwreiddio yn y gwerthoedd cariad, gwasanaeth a pharch, rydym yn goleg wedi’n gyrru gan y gymuned, sy’n ymroddedig i helpu pob unigolyn i ddarganfod a chyflawni ei lawn botensial.

Rydym yn meithrin amgylchedd lle gall myfyrwyr, staff a theuluoedd uno mewn cefnogaeth ac anogaeth. Mae’n ymrwymiad ni i ragoriaeth addysgol, bersonol ac ysbrydol, gan sicrhau fod pawb sy’n cerdded drwy’n drysau’n teimlo wedi eu gwerthfawrogi, eu hannog ac yn barod i wneud gwahaniaeth.

Gan ddilyn cyngor Dewi Sant, “Cadwch y ffydd”, rydym yn bwriadu i bawb yn ein cymuned i gadw ffydd yn ganolog, p’un ai bo’n ffydd ynddynt eu hunain, ffydd yn eu galluoedd neu ffydd ym mhŵer yr hyn gallwn ni ei gyflawni gyda’n gilydd.

O ganlyniad, mae ein staff yn teimlo ‘run fath. Mae pawb sy’n gweithio yng Ngholeg Dewi Sant wedi eu gyrru gan werthoedd sy’n alinio â rhai’r Coleg- fel gosodwyd yn y Cynllun Strategol sydd wedi ei lywio gan y staff- adeiladu cymuned gefnogol, dod â daioni i’r byd, a ffydd mewn pobl ifanc.

Am Goleg Dewi Sant

Sefydlwyd Coleg Chweched Dosbarth Dewi Sant ym 1987 gan Archesgobaeth Caerdydd. Mae’n darparu addysg chweched dosbarth ar un campws yn ardal Pen-y-lan o’r ddinas. Mae’r coleg yn addysgu tua 1,650 o ddysgwyr llawn-amser, sydd bron i gyd rhwng 16 ac 19 oed.

Mae’r coleg yn cynnig tua 50 o gyrsiau Lefela, cyrsiau galwedigaethol lefel 3, a chyrsiau unigol lefel 1 a lefel 2. Yn 2024 roedd 31.3% o raddau yn A*-A, i fyny 1.4 pwynt canran o’r cyfartaledd cenedlaethol a 6.7 pwynt canran uwch dysgwyr eraill mewn Addysg Bellach.

Mae dros bedwar cant o fyfyrwyr yn symud ymlaen i’r brifysgol bob blwyddyn, gyda dros 40% ohonynt yn mynd i brifysgolion Grŵp Russell. Yn arolygiad diweddaraf Estyn (2019), barnwyd y coleg yn rhagorol am safonau’r dysgwyr yn ogystal ag am arweinyddiaeth a rheolaeth.

Mae’r coleg yn recriwtio o lawer o ysgolion gan gynnwys saith ysgol uwchradd Gatholig. Mae nifer uchel o ddysgwyr o gefndiroedd amrywiol sosio-economaidd, ethnig a chrefyddol yn mynychu’r coleg.

Mae 38% o’r dysgwyr yn byw yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, yn ôl diffiniad cwintel cyntaf Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.

Ysgolion sy’n Bartneriaid

Buddion Cyflogeion

Mae ffreutur hygyrch wedi’i adnewyddu gan y Coleg- Caffi Sant.

Gyda phryd arbennig yn ddyddiol, eitemau i godi a chymryd, a bar salad a thatws pob, byddwch yn gallu mwynhau cinio am bris rhesymol.

Yn agored i’r staff cyn ac ac ôl oriau’r coleg, mae’r gampfa ar y safle’n cynnwys melinau traed, hyfforddwyr croes, beiciau, meinciau a phwysau rhydd.

Gall staff gofrestru gyda chynllun arian parod i gyflogeion Health Shield, sy’n eich galluogi i hawlio costau yn  ôl am ofal iechyd bob-dydd. Mae’r cynllun hefyd yn cynnig  mynediad 24/7 i wasanaeth cwnsela, llinell ffôn meddyg teulu (GP) 24/7 a llawer o fuddion eraill.

Mae dau Ddiwrnod Lles staff bob blwyddyn- diwrnodau i’r staff ddod at ei gilydd mewn gweithgareddau wedi’u cynllunio i’n helpu i gyfathrebu’n well fel cymuned.

Bydd staff addysgu’n gymwys i ymuno â Chynllun Pensiwn yr Athrawon.

Bydd staff cynorthwyol yn gymwys i ymuno â Chynllun Blwydd-daliadau Pensiwn Llywodraeth Leol.

Mae cyfleoedd i deithio, gyda digonedd o dripiau tramor i’r myfyrwyr, sydd angen aelodau o staff i’w goruchwylio.

Yn ddiweddar mae aelodau o’r staff wedi mwynhau teithiau i Efrog Newydd, Paris, Nepal a Barcelona.

Mae gan bob aelod o staff fynediad i’r Rhaglen Gymorth Cyflogeion Wisdom sy’n darparu gwasanaeth am ddim a chyfrinachol ar gyfer cyflogeion a’u teulu agosaf sy’n cynnwys cwnsela byr-dymor, cyngor cyfreithiol ac arweiniad ariannol- ble bynnag a phryd bynnag.

Mae’r coleg yn cynnig brecwast am ddim i’r holl fyfyrwyr a staff. Dechreuwch eich dydd gyda tost a jam, iogwrt a ffrwyth neu uwd gydag ategion- a dechrau’r dydd y ffordd orau.

Mae gan bob aelod o staff fynediad i’r apiau Hallow (gweddi) a Wisdom (llesiant).

Gall pob aelod o staff ymgeisio am daleb i gael brechiad ffliw am ddim.

Gall pob aelod o staff ymgeisio am daleb i gael prawf llygaid sylfaenol am ddim.

Mae Coleg Catholig Dewi Sant yn cynnig cyflog sy’n gyfartal â, neu’n fwy na, chyflog cyfartalog am swyddi tebyg yn y sector Addysg Bellach. Rydym hefyd yn cynnal rhai o amodau gwaith gorau’r sector AB/Ysgolion ar gyfer athrawon yng Nghymru, gan gynnwys hawl gwyliau sy’n fwy hael o’i gymharu â Cholegau AB eraill a gwaith sy’n fwy hyblyg i’i gymharu â gweithio mewn ysgolion y wladwriaeth.

Mae Coleg Catholig Dewi Sant yn cynnig cynlluniau aberthu cyflog Seiclo i’r Gwaith a Cherbydau Trydanol.

Dod o hyd i Goleg Dewi Sant

Coleg Catholig Dewi Sant, Ffordd Tŷ Gwyn, Caerdydd, CF23 5QD.

(I rai, mae’n haws defnyddio’r côd post CF23 5JB yn eich sat nav)