Dydd Iau 3ydd Mawrth 2022 yw Diwrnod y Llyfr, ac eleni roeddem yn awyddus i nodi’r achlysur hwn, gan ofyn i’n hathrawon: “Pa lyfr gafodd yr argraff fwyaf arnoch yn ystod y pandemig, neu lyfr a oedd yn wrthdyniad ystyrlon ar yr adeg heriol honno?”
“Mae llyfr Kazuo Ishiguro – ‘The Remains of the Day’ – yn fuddugoliaethus o ran ei naratif! Mae’n stori am aberth, ffyddlondeb, a chariad, a phe bai Shakespeare wedi’i ddarllen, nid oes unrhyw amheuaeth y byddai’r nofel hon ar dop ei restr o’r pum llyfr gorau hefyd!”
“Fy hoff lyfr erioed yw’r llyfr swmpus hwn, ac rydw i’n ei ail-ddarllen o dro i dro. Mae’n stori epig am deulu bach sy’n gamweithredol: mae yna galedi, drama, ac mae’n llawn droadau syfrdanol—ond, hefyd, mae’n cynnwys trafodaethau dwys am grefydd, athroniaeth, ac ystyr bywyd, sy’n themâu cyffredinol. Mae’n ystyriol, difyrrus, a chydymaith gwych mewn argyfwng. Oh, a chyda llaw, a soniais mai stori ddirgelwch yw hi?”
“Mae hwn yn hunangofiant, sy’n arddull na fyddai’n ei ddewis fel rheol ond mae’n llyfr gyda stori ddeniadol iawn. Mae’r stori wedi’i gosod gan amlaf yn ninas Fienna, ac mae’n adrodd yr effaith gafodd y Rhyfel Byd Cyntaf ar deulu Iddewig cyfoethog. Fe wnaeth y llyfr fy ysgogi i ddysgu geiriau newydd fel “bibelot” ac “incunabula”- chwiliwch am eu hystyron! Rydw i’n cofio ei ddarllen yn yr ardd yn ystod y tywydd twym a gawsom adeg y Pasg cyntaf wedi’r cyfnod clo.”
“Yn glasur o nofel, roedd darllen llyfr George Orwell, 1984, yn apelio ar y pryd fel un addas i’w ddarllen ar adeg lle roedd gwylio’r newyddion yn ddigwyddiad dyddiol, a phan gafodd newyddion ffug eu lledaenu ar draws y Wê. Mae’n llyfr tywyll ac anghysurus, ond dwi’n ei ail-ddarllen tro ar ôl tro”
“Mae ‘Empire of the Sun’ wedi seilio ar brofiad yr awdur o fod yn garcharor rhyfel yn yr Ail Ryfel Byd. Pan ddarllenais y llyfr yn ystod y cyfnod clo cyntaf, fe ddaeth dyfyniad penodol gan J.G. Ballard i’m meddwl, pan ddwedodd e fod y profiad wedi rhoi’r “sense that reality itself was a stage set that could be dismantled at any moment.”
“Mae hwn yn llyfr yr wyf wedi pendroni drosto ers i fi ei ddarllen. Mae’n gyfuniad o hanes gwleidyddol a naratif hunangofiannol sy’n ei wneud yn llyfr anodd i’w roi lawr, ynghyd â darllen am brofiadau Akala mewn addysg, a’r rhwystrau yr oedd hi’n wynebu, yn rhywbeth ddylai unrhyw athro ei ddarllen.”
“Rydw i wir yn dwli ar y llyfrau Twilight, ac rwy’n cefnogi Tim Jacob yn ddigywilydd. Mae’r llyfr hwn, a’r gyfres, yn addas i unrhyw un sy’n hoffi rhamant, brwydro, ac arwyr, gyda’r rhain oll wedi’u cynnwys mewn un llyfr ”
“Rydw i wedi dewis y llyfr hwn achos nad yw’n gwingo rhag y testunau anodd. Mae’n bortread trawiadol o wlad sydd wedi’i brifo, a stori gyffrous am deulu a chyfeillgarwch. Mae’n stori lân a thrist sy’n adrodd am berthynas anhebygol a chariad annistrwy.”