Y Fflam 2025: Ysbrydoli Ffydd yn ein Hieuenctid

Ymgasglodd dysgwyr ar gyfer Y Fflam 2025, i danio eu hangerdd dros ffydd, creu atgofion, i ysbrydoli ac i gael eu hysbrydoli. Mae’r cyfarfod blynyddol hwn yn darparu gofod i bobl ifanc wneud ffrindiau newydd a thyfu eu gwybodaeth am eu ffydd.

Gan fynychu ar ei phen ei hun yn y lle cyntaf, gwerthfawrogodd Georgia’r awyrgylch croesawgar a chadarnhaol. “Mae’r digwyddiad yn annog pobl i dyfu mewn hyder yn eu ffydd, wrth greu atgofion gwych gydag eraill” rhannodd Georgia.  “Dw i fel arfer yn addoli mewn ffordd fwy personol a phreifat,” ond gwnaeth hi fwynhau addoliad fel grŵp mewn ffordd wahanol i’r gorffennol.

 


Mynegodd Mariah feddyliau tebyg, gan ddisgrifio’r digwyddiad fel “cyfle ardderchog ar gyfer adnewyddiad ysbrydol, yn dathlu’r ffydd Gatholig gydag elfennau newydd.” Roedd yr elfennau modern hyn yn cynnwys cyfuniad unigryw o adlewyrchiad personol ac addoliad cymunedol, yn cynnwys emynau ac anerchiadau llawn ysbrydoliaeth.

“Mae’r Fflam yn tynnu sylw at rai anawsterau gall pobl ifanc eu profi, gan feithrin ymdeimlad o empathi. Ond gwnaeth hyn ysbrydoli gobaith ac anogaeth o fewn y gynulleidfa,” esboniodd Mariah. Ysgogodd hyn i’r bobl ifanc ddeall a magu gobaith ar gyfer y sawl sy’n profi anawsterau o fewn eu cymunedau.

 


Canmolodd y Tad Benny, wrth fynychu am yr ail dro, egni a brwdfrydedd y bobl ifanc a welodd yn y digwyddiad.  Gan ryfeddu at eu hymrwymiad i’r ffydd, meddai: “Nid dim ond dyfodol yr Eglwys ydyn nhw; nhw ydy’r Eglwys, yma a nawr.”

Adlewyrchodd Y Fflam 2025 ffydd ysbrydoledig y credinwyr ifanc, gan ein hatgoffa bod yr Eglwys yn fyw ac yn ffynnu yng nghalonnau ei hieuenctid. Wrth i’r siwrnai gau, mae’r Fflam yn parhau i sbarduno adnewyddiad gobaith a ffydd sy’n goleuo’r ffordd ar gyfer cenedlaethau i ddod.