
Y staff yn rhannu meddyliau ac atgofion o’r ymadawedig Bab Ffransis. Y Tad Benny, Ms. Parker, Ms. H. Hughes, Ms. Cleary, Ms. Thomas, a Dr. Tranter yn rhannu eu storïau personol, ac yn esbonio beth wnaeth ei bresenoldeb mor arbennig iddyn nhw.
Atgof fydd yn fy nghalon am byth…
Nôl yn 2016, fel Rosminiaid, cawson y fraint arbennig o gynorthwyo yn Offeren y Pab a offrymwyd dros y Cardinaliaid ymadawedig. Roedd 16 ohonon ni, rhai newydd gychwyn ffurfiant diwinyddol, yn cynnwys fi. Aethon ni i’r ymarfer litwrgaidd cyn yr Offeren, yn llawn cyffro. Yna daeth y foment pan roedd tro yn y stori- dywedon nhw fod gormod ohonon ni. Awgrymodd y myfyrwyr uwch y dylai’r flwyddyn gyntaf gamu nôl, gan efallai byddai cyfle rhywdro arall i ni.
Dw i’n cofio sefyll yn dawel, yn gwylio wrth i’r lleill gael eu galw ymlaen. Yna daeth y Monsignors, a’n rhoi ni mewn rhes yn ôl ein taldra. Un ar y tro, dewison nhw bawb- pawb heblaw fi a brawd o’r Eidal. Ni oedd y byrraf. Gan wenu’n gwrtais ond tu fewn yn teimlo pwysau siom aruthrol, gwnes i resymu taw ein rôl ni fyddai dim ond gwylio o’r cyrion.
Ac yna, digwyddodd rhywbeth hollol annisgwyl. Cerddodd Monsignor tuag atom a dweud rhywbeth nag allan ni fod wedi dychmygu. “Chi’ch dau wnaiff gario’r microffon a’r Llyfr Offeren ar gyfer y Tad Sanctaidd drwy gydol yr Offeren.”
Ac yn sydyn, o fod yn rhai “dros ben” cawson ein hymddiried i gymryd rôl mor agos ac mor ddwfn. Cariais i’r microffon i’r Pab Ffransis drwy gydol y Litwrgi. Wnaeth fy llygaid fyth adael ei wyneb- ei bresenoldeb tawel, ei ostyngeiddrwydd a’i dynerwch syml. Nid dim ond tasg oedd hi, roedd yn brofiad ysbrydol. Y diwrnod hwnnw, dysgais i rywbeth na fydda i’n anghofio: weithiau, mae cael eich pasio heibio’n eich rhoi mewn sefyllfa berffaith i gael eich gweld mewn ffordd sydd wir yn cyfrif.
Moment o ras. Atgof am oes.
Roedd y Pab Ffransis yn llais trugaredd a charedigrwydd mewn byd sydd weithiau fel petai’n tyfu’n fwy rhanedig ac unigolyddol. Dw i’n teimlo, waeth bynnag eich cred fel unigolyn, ei fod wedi crynhoi ein cyfrifoldeb at ein gilydd. Darparu empathi at y rhai sydd ar gyrion cymdeithas a’r angen i gadw a pharchu’n planed.
Er na wnes i erioed gwrdd â’r Pab, ro’n i’n ymwybodol iawn o’i ddylanwad pan deithiais i i’r Ariannin gyda’r Coleg. Ro’n i’n ddigon ffodus i fynd i’r Offeren ar Ddydd Sul y Pasg yn eglwys gadeiriol Buenos Aires, lle buodd e’n gwasanaethu fel Esgob. Roedd ei ddinas enedigol yn falch iawn ohono fe, fel y gwelais gan y lluniau a cherfluniau niferus ohono fe o gwmpas y ddinas.
Er nad ydw i’n Gatholig, mae llawer o barch gyda fi at y Pab Ffransis fel arweinydd ysbrydol a siaradodd â phobl o bob ffydd gyda’i neges o drugaredd a chynhwysiant. Ces i’r fraint o’i weld wyneb yn wyneb yn ystod Diwrnod Ieuenctid y Byd 2023 ym Mhortiwgal tra’n tywys grŵp o bobol ifanc o Goleg Dewi Sant ac Archesgobaeth Caerdydd-Mynyw, lle gwnaeth ei neges o dosturi, bod yn agored, a’r galw i gwrdd ag eraill gyda thrugaredd yn hytrach na beirniadaeth wneud argraff ddofn arnaf i.
Hyd yn oed o’r tu allan i’r traddodiad Catholig, gallaf weld sut y gwnaeth e helpu llunio gweledigaeth o’r Eglwys fel lle croesawgar, diymhongar, ac ymroddedig i gyfiawnder a gofal am eraill. Roedd profi ei arweinyddiaeth yn bersonol, yn arbennig mewn adegau o weddi yn Lisbon a Fatima, yn arbennig o emosiynol, a bydda i’n cofio ei etifeddiaeth o obaith, caredigrwydd a gwasanaeth am byth.
Ro’n i’n dwlu ar y cyfeiriad llywiodd y Pab Ffransis yr eglwys tuag ato. Cawsom ni i gyd ein symud yn agosach at athrawiaeth Iesu o dan ei stiwardiaeth. Dw i’n gweddïo y gwnaiff ei olynydd barhau â’r gwaith y dechreuodd e.
Dw i wedi bod yn anhygoel o ffodus i fynychu’r Offeren yn Sgwâr Pedr Sant yn y Fatican ar ddau achlysur. Y tro cyntaf, aeth y Pab Ffransis heibio yn ei Popemobile, ac roedd hi’n teimlo fel petai e wedi gwneud cyswllt llygad â phob un person yn y dyrfa- moment o gyswllt dwfn. Ar fy ail ymweliad roeddwn i’n arwain trip ysgol, ac roedd un o’r myfyrwyr yn ein grŵp yn defnyddio cadair olwyn. Oherwydd hynny, cawsom ein harwain i’r rhes flaen ar gyfer yr Offeren. Ar ôl yr Offeren, daeth y Pab Ffransis i lawr, bendithio’r myfyriwr, a chusanu ei law yn dyner. Roedd yn brofiad dirdynnol a bythgofiadwy.
Cymerais i’r llun yma ar 5 Awst 2023 yn Fatima, Portiwgal, yn ystod y bererindod Diwrnod Ieuenctid y Byd gyda myfyrwyr o Goleg Dewi Sant. Gŵyl Ein Harglwyddes yr Eira oedd hi, dyddiad sy’n anrhydeddu Basilica Sancta Maria Maggiore yn Rhufain, lle cafodd e ei gladdu yn ddiweddar.
Mae’r ail lun yn dangos rhai o’r 150,000 o bobol yn Offeren Sul y Pasg cyntaf yn y Fatican ar ôl i’r rhwystrau Covid gael eu codi. Cerddodd fy ngwraig a fi i Sgwâr Pedr Sant yn gynnar iawn iawn y diwrnod hwnnw, a llwyddon ni i gael seddi. Gallwch chi’n gweld ni (fwy neu lai!) yn y cylch coch- fi sy’n gwisgo’r crys gwyn (dyna syndod!).
Ro’n i’n ddigon ffodus i weld y Pab Ffransis yn siarad pum gwaith yn ystod ei babaeth. Roedd ei dystiolaethu fe’n esiampl gref o sut gall bywyd y Cristion fod, a helpodd fi yn fy mhenderfyniad i ymuno â’r Eglwys Gatholig.
Cafodd e ei eni yn ystod yr wythnos cyn y Nadolig, ar 17 Rhagfyr, a bu farw yn ystod wythnos y Pasg, y dydd ar ôl dathliad Sul y Pasg. Mae’r amseriad hyn yn ein cynorthwyo i weld bod Dirgelwch yr Atgyfodiad yn ganolog i fywyd y Pab Ffransis; y seren arweiniodd ei feddyliau a gweddïau ac ysgogiadau; a sut y gwnaeth ei ddyfnder a phŵer ddatgelu rhywbeth gwir a gwerthfawr a thragwyddol i ni i gyd.