Pob lwc gyda Diwrnod y Canlyniadau TGAU!
Bydd dysgwyr o Ysgolion Cyfun Corpus Christi, Y Fair Ddihalog, Illtud Sant, St Richard Gwyn a’r Cardinal Newman yn gallu ymrestru yng Ngholeg Dewi Sant yn yr ysgol ar fore diwrnod y canlyniadau TGAU. Bydd aelodau o staff Coleg Dewi Sant ym mhob un o’r ysgolion hynny er mwyn ymrestru dysgwyr ar y pryd.
Mae’r coleg wedi ebostio pob ymgeisydd o ysgolion eraill gydag amser ar gyfer sesiwn ymrestru. Os nad wyt ti wedi derbyn ebost, cysyllta â admissions@stdavidscollege.ac.uk.
Beth sy'n digwydd mewn sesiwn ymrestru?
Gall gymryd hyd at un awr i gwblhau dy sesiwn ymrestru, er gall yr amser amrywio yn dibynnu ar amgylchiadau unigol.
Wrth gyrraedd, gofynnwn am gopi o dy ganlyniadau. Byddwn yn gofyn i ti eistedd i aros i ni wneud copiau angenrheidiol, a threfnu aelod o staff i dy ymrestru di.
Bydd yr aelod o staff coleg yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gyda ti a darparu cyngor ac arweiniad am y dewisiadau gorau o gyrsiau i ti, gan ystyried dy ganlyniadau TGAU (ac unrhyw ganlyniadau eraill) dy ddiddordebau ac uchelgeisiau at y dyfodol.
Yn ystod dy sesiwn ymrestru, byddi di’n gwneud dewisiadau cwrs terfynol. Cofia bod amodau cyffredinol a phenodol i’r pynciau y bydd rhaid i ti fodloni.
Beth sy angen i fi ddod gyda fi i'r sesiwn ymrestru?
Os gweli di’n dda dere â chopi o dy ganlyniadau TGAU (ac unrhyw gymhwyster arall)- os yn bosib un caled (papur) y gallwn ni ei gadw.
Hefyd os gweli di’n dda dere ag unrhyw ganlyniadau TGAU o flwyddyn 10, efallai na chawsant eu nodi ar dy slip neu dystysgrif canlyniadau terfynol TGAU. Efallai na allwn ni dy ymrestru di hebddyn nhw.
Beth os na alla i ddod i fy sesiwn?
Os gweli di’n dda gwna bob ymdrech i ddod i dy sesiwn ymrestru penodol. Fodd bynnag, os na elli di gyrraedd, mae’r dewisiadau canlynol gyda ti:
- Anfon rhywun arall i ymrestru ar dy ran di (aelod o’r teulu rwyt ti’n ymddiried ynddynt, neu ffrind) ar yr amser a drefnwyd i ti; rhaid bod gyda nhw ebost neu lythyr sy’n dangos dy ganiatâd di, copi o dy ganlyniadau TGAU (ac arall) i ni eu cadw, a rhestr o’r cyrsiau rwyt ti eisiau ymrestru arnynt. Rydyn ni’n cynghori dylet ti fod ar gael i siarad ar y ffôn gyda’r person sy’n dy gynrychioli, rhag ofn bod angen trafod unrhyw rai o dy ddewisiadau.
- Ail-drefnu dy sesiwn ymrestru i amser gwahanol drwy ebostio admissions@stdavidscollege.ac.uk. Rho wybod inni pryd rwyt ti ar gael i ddod i Goleg Dewi Sant rhwng dydd Gwener 26 Awst a chyn 12.00 dydd Mawrth, 26 Awst yn dy ebost.
Pryd fydda i'n dechrau yn y coleg?
Bydd dy sesiwn anwytho naill ai ar fore neu brynhawn dydd Mercher 3 Medi neu ddydd Gwener 5 Medi. Byddwn yn rhoi gwybod i ti pa un yw dy sesiwn anwytho di drwy ebost, ac yn ystod dy sesiwn ymrestru.
Bydd gwersi’n dechrau ddydd Llun 8 Medi am 9.05 y bore.
Ble ga i wybodaeth am drafnidiaeth?
Bydd gwybodaeth am drafnidiaeth ar gael i ti yn ystod y Sesiwn Anwytho. Mae rhagor o wybodaeth am drafnidiaeth ar ein gwefan.
Bydd dysgwyr o Fro Morgannwg yn cael teithio ar goets pan fydd y tymor yn dechrau ym mis Medi, wedi’i ddarparu gan Gyngor Bro Morgannwg. Dylet ti gysylltu â’r Cyngor cyn gynted â phosibl i ofyn am docyn bws ar gyfer y flwyddyn academaidd er mwyn osgoi’r rhuthr ar ddechrau mis Medi.
Ble ga i wybodaeth am EMA / LCA?
EMA / LCA(Lwfans Cynhaliaeth Addysg): Bydd pecyn ymgeisio a gwybodaeth ar gael yn ystod y sesiynau ymrestru ac anwytho.
Bydd gwybodaeth hefyd ar gael am sut i ymgeisio am gymorth ariannol gan y Gronfa Ariannol wrth Gefn (Financial Contingency Fund) a Grant Dysgu’r Cynulliad (Assembly Learning Grant).