YDYCH CHI'N OFALWR IFANC?
- Ydych chi’n gofalu am rieni, brawd neu chwaer neu aelodau eraill y teulu?
- Ydych chi’n rhoi cymorth corfforol ac emosiynol a/neu cynnig gofal personol i bobl eich aelwyd?
- Ydych chi’n edrych ar ôl eich brodyr a’ch chwiorydd?
Os ydych wedi ateb yn gadarnhaol i unrhyw un o’r cwestiynau hyn, mae Coleg Dewi Sant wedi ymrwymo’n llwyr i’ch helpu a’ch cefnogi. Fodd bynnag, mae angen i ni gael gwybod! Dwedwch wrth eich tiwtor bugeiliol, neu anfonwch e-bost at Mrs Turner (CTurner@stdavidscollege.ac.uk) sydd â chyfrifoldeb penodol dros eich cynorthwyo chi tra byddwch chi’n astudio yng Ngholeg Dewi Sant.
Mae nifer o ddulliau y gallwn ni eich cynorthwyo ac yn eu plith mae:
- Darparu cymorth ariannol (yn dibynnu ar incwm y teulu)
- Cysylltu chi ag asiantaethau cymorth eraill
- Caniatáu i chi gadw’ch ffôn symudol ymlaen fel y gellir cael gafael arnoch chi bob amser
- Creu amserlen coleg a fydd yn cyd-fynd â’ch anghenion penodol chi, lle bynnag posibl
- Cynnig cymorth emosiynol
- Creu cynlluniau wrth gefn os bydd rhai adegau arbennig sy’n eich rhoi o dan fwy o bwysau nag eraill.