Mae tîm o bump Valorant y merched (Valkyries) wedi gadael effaith barhaol ym myd E-chwaraeon ac ar gyfer eu cystadleuwyr coleg eraill ledled y DU. Unwaith eto, gan aros heb eu trechu drwyddi draw, mae’r Valkyries wedi esgyn i fuddugoliaeth wrth fynd ar drywydd di-baid teitl y bencampwriaeth, Pencampwyr y Gwanwyn Valorant Women in Esports. Mae hyn yn gwneud y Valkyries yn bencampwyr dwywaith, gan ennill tymor ar ôl tymor yn olynol. Llongyfarchiadau Valkyries ar ennill y bencampwriaeth yn ddidrafferth!
Mae’n bosib bod y merched wedi profi rywfaint o déjà vu, gyda’u gornest olaf yn erbyn Belfast Metropolitan College (BMC), eu gwrthwynebwyr yn gêm bencampwriaeth y tymor diwethaf. Ond roedd gan y merched hyder yn eu sgiliau gan fod y Valkyries wedi arddangos eu goruchafiaeth trwy gydol y gystadleuaeth, gan wneud enw iddyn nhw eu hunain tra’n aros heb eu trechu. Gêm ar ôl gêm, roeddent wedi arddangos sgiliau unigol eithriadol, gwaith tîm anhygoel a chysylltiad.
Roedd yr ornest rhwng y Valkyries a Belfast Metropolitan College yn arddangosfa anhygoel o benderfyniadau cyflym, gyda’r ddwy ochr yn rhyddhau taniad di-baid o symudiadau a strategaeth tactegol. Roedd y gystadleuaeth yn ddwys gyda’r sgôr yn weddol agos drwyddi draw, cafodd y Valkyries eu hunain mewn brwydr ffyrnig, gyda phob rownd yn dyst i wydnwch a phenderfyniad y naill ochr a’r llall.
Fodd bynnag, gyda phenderfyniad a chefnogaeth gadarn, ymatebodd y Valkyries i’r gofynion. Mewn arddangosfa afaelgar o sgil a thactegau, daeth y gêm yn unochrog, a chan sicrhau dwy allan o dair gêm a hawlio teitl enillwyr pencampwriaethau Cwpan Gwanwyn Valorant Women in Esports, daeth y Valkyries allan yn fuddugol.
Cadarnhaodd y fuddugoliaeth eu medrusrwydd a’u henw da o fewn y bencampwriaeth Women in Esports ond fe’i phriodolwyd hefyd i’w hymroddiad, eu gwaith tîm a’u hangerdd dros y gamp. Er mai dim ond eu hail dymor oedd hwn, mae’r Valkyries wedi gadael marc trawiadol ar dirwedd Women in Esports, gan ysbrydoli chwaraewyr eraill gyda’u cyflawniadau rhyfeddol.
Mae tymor bywiogol arall o gystadlu’n dod i ben, gyda llongyfarchiadau mawr i Valkyries Dewi Sant ar eu hymrwymiad ac ymroddiad gwych i’w tîm ac i e-chwaraeon. Mae eu buddugoliaeth yn ein hatgoffa o botensial di-ben-draw holl aelodau cymuned y coleg. Ym myd e-chwaraeon sy’n esblygu’n barhaus, mae’r Valkyries yn ffynnu fel enghreifftiau disglair o ragoriaeth, ac rydym yn awyddus i weld dyfodol y merched ar faes y gad digidol ac oddi arno.
View this post on Instagram