Ar 6 Rhagfyr 2023, roedd Valkyries Dewi Sant yn fuddugol yn y Cwpan Pencampwriaeth Fawr y Gaeaf Women in Esports hynod gystadleuol, er mai hwn oedd eu tymor gyntaf ym myd E-chwaraeon. Dangosodd y tîm o ferched sgil a gwaith tîm anhygoel, gyda chefnogaeth myfyrwyr a staff, a gadawodd farc cofiadwy ar fyd cynyddol e-chwaraeon myfyrwyr.
Drwy gydol y gystadleuaeth, dangosodd y tîm Merched lefel drawiadol o allu, gan fod heb eu trechu yn erbyn cystadleuwyr brwd o golegau ledled y DU. Ymlwybrodd Valkyries Dewi Sant drwy’r twrnamaint gan ganolbwyntio ar eu gwaith tîm ac yn benderfynol o gael effaith barhaol ar E-chwaraeon myfyrwyr.
Dywedodd Cyflwynydd Women in Esports, Daineal, am un o’n chwaraewyr, “Gwnaeth Labyrinth mor dda. Roedd hi’n darllen eu hamddiffyniad yn gyson, gan ragweld symudiadau eu gwrthwynebwyr a newid trefn eu tîm yn unol â hynny. Mae bod yn chwaraewr canolog mor gyson yn rhywbeth rydyn ni’n ei weld llawer ar lwyfannau proffesiynol Valorant. Mae hi’n bendant yn rhywun fyddech chi eisiau ar eich tîm, yn enwedig ar y lefel hon. Byddai’n rhaid i mi roi MVP i Labyrinth am fod mor gyson drwy’r gemau hyn.”
Helpodd Labyrinth ar sawl achlysur i dywys y Valkyries drwy’r twrnamaint i fuddugoliaeth, gyda lleoli chwaraewyr tîm yn strategol, y gallu i ddarllen y gêm, meddwl beirniadol a gweithredu manwl gywir. Mae’n ymddangos yn naturiol bod cyhoeddwyr y gêm, sy’n cael eu hadnabod gan eu tagiau chwarae gemau Daineal a Waxen, wedi rhoi’r teitl Chwaraewr Mwyaf Gwerthfawr (MVP) i Labyrinth am ei harddangosiad o sgiliau ac ymroddiad i’w thîm.
Rhoddwyd crybwylliad anrhydeddus i un o chwaraewyr eraill y Valkyries, Mochi, gan y cyhoeddwr arall, Waxen, a nododd, “Eiliadau sy’n gwneud chwaraewyr yn y gêm gyflym hon a gwnaeth Mochi’n bendant ddangos sut gall hi gamu i’r adwy pan mae’n cyfrif.”
Gwnaeth eu buddugoliaeth sicrhau y Cwpan Pencampwriaeth Fawr mawreddog ond hefyd cadarnhau eu presenoldeb fel grym i’w gyfrif ym maes E-chwaraeon myfyrwyr. Taniodd hyn ysbrydoliaeth ein chwaraewyr gemau benywaidd awyddus a thimau myfyrwyr eraill, sydd bellach hyd yn oed yn fwy awyddus i lwyddo yn eu Cwpanau Agored y Gaeaf E-chwaraeon Prydeinig.
Llongyfarchiadau mawr i Valkyries Dewi Sant ar eu camp ryfeddol wrth sicrhau Cwpan Pencampwriaeth Fawr y Gaeaf Women in Esports 2023!
Gallwch wylio gêm derfynol Pencampwriaeth Fawr y Gaeaf yma: https://www.twitch.tv/videos/2003926036?t=00h17m02s