Gwyddoniaeth Feddygol
Cymhwyster
Diploma CBAC
Canlyniadau
Gradd A* - C: 93.5%
Bwrdd Arholi
CBAC
Mae’r Diploma mewn Gwyddoniaeth Feddygol yn gyfwerth ag un Lefel A. Mae’r cwrs yn ymdrin â chynnal iechyd ac atal a thrin clefydau. Bydd myfyrwyr yn caffael y wybodaeth, dealltwriaeth, a sgiliau mewn egwyddorion gwyddonol allweddol i gefnogi cynnydd i Addysg Uwch neu gyflogaeth mewn meysydd fel gwyddorau ffisiolegol neu wasanaethau labordy clinigol. Mae’r cymhwyster yn cynnwys iechyd, ffisioleg, ffarmacoleg, mesur ffisiolegol, profion clinigol ac ymchwil feddygol.
-
Tystysgrif: Blwyddyn gyntaf y cwrs (50%)
- 1 arholiad
- 2 dasg dan reolaeth sy’n cael eu hasesu’n fewnol
Uned 1: Iechyd Dynol a Chlefydau
25% Arholiad YsgrifenedigCynnwys: Egwyddorion Biolegol, Anatomi a ffisioleg ddynol, Ffordd o fyw ac Iechyd, Iechyd dynol.
Uned 2: Technegau Mesur Ffisiolegol
12.5% Asesiad dan reolaeth sy’n cael ei farcio’n fewnolCynnwys: Swyddogaeth profion mesur ffisiolegol, gweithio gyda chleifion, gwneud profion mesur ffisiolegol, a riportio iechyd y claf.
Uned 3: Dulliau Ymchwil Gwyddoniaeth Feddygol
12.5% Asesiad dan reolaeth sy’n cael ei farcio’n fewnolCynnwys: Deall egwyddorion ymchwilio i epidemioleg, casglu data ymchwil, dadansoddi data, a chyfathrebu canlyniadau’r ymchwil.
Diploma: Ail Flwyddyn y cwrs (50%)
- 1 tasg dan reolaeth sy’n cael ei hasesu’n fewnol
- 1 tasg ymarferol sy’n cael ei hasesu’n fewnol
- 1 arholiad synoptig
Uned 4: Meddyginiaethau a Thrin Clefydau
25% Asesiad dan reolaeth sy’n cael ei farcio’n fewnolCynnwys: Rheoli meddyginiaethau, ffarmacoleg feddygol, egwyddorion trin canser, a gweithio gyda thîm amlddisgyblaethol.
Uned 5: Technegau Labordy Clinigol
12.5% Asesiad dan reolaeth wedi’i farcio’n fewnolCynnwys: Egwyddorion profion clinigol, gwneud profion clinigol mewn labordy, a phrosesu data gan ddefnyddio profion clinigol.
Uned 6: Astudiaeth Achos Meddygol
12.5% Arholiad YsgrifenedigCynnwys: Arholiad synoptig terfynol sy’n seiliedig ar gynnwys yr holl unedau. Astudiaeth achos ar glefyd neilltuol.
Mae gwyddonwyr meddygol ar flaen y gad o wasanaethau gofal iechyd, gan eu bod yn hanfodol wrth wneud diagnosis o glefyd, pennu effeithiolrwydd triniaethau a chwilio am feddyginiaethau newydd. Bydd y Diploma yn galluogi dilyniant i Addysg Uwch i amrywiaeth o raglenni Gwyddoniaeth Gymhwysol, megis gwyddoniaeth fiofeddygol, gwyddorau bywyd, a ffisioleg.
6 gradd C TGAU, gan gynnwys gradd CC yng Ngwyddoniaeth Ddwbl NEU radd C ym Mioleg. Rhaid hefyd gynnwys gradd yn TGAU mathemateg a gradd C yn TGAU Saesneg.
Gellir defnyddio gradd C mewn pwnc disgyrsiol megis Hanes, Astudiaethau Crefyddol neu Lenyddiaeth Saesneg yn lle Saesneg.