Trosolwg o’r Cwrs

Mae hwn yn gwrs dwy flynedd. Ar ôl y flwyddyn gyntaf, gall myfyrwyr ennill AS mewn Bioleg, fel cymhwyster (UG) ‘annibynnol’ o bosib. Yna gallant symud ymlaen i ail flwyddyn y cwrs er mwyn cael y cymhwyster safon Uwch lawn mewn Bioleg.

Mae cwrs UG Bioleg CBAC yn gydbwysedd da o Fioleg draddodiadol a phynciau mwy modern. Mae’n atgyfnerthu llawer o waith TGAU, gan ddarparu sylfaen gadarn yn y pwnc ac yn cefnogi Gwyddorau eraill a Mathemateg hefyd. Darperir cyfleoedd i ddatblygu sgiliau, technegau a gweithdrefnau ymarferol.

Mae’r cwrs U2 yn darparu sylw manwl o feysydd sylfaenol ffisioleg a theori fiolegol. Bydd sgiliau ymarferol yn cael eu gwella drwy waith arbrofol a thaith maes preswyl.

Lefel UG (blwyddyn 1)

BY1: Biocemeg Sylfaenol a threfniadaeth celloedd
Mae’r uned yn cynnwys: strwythur a swyddogaeth celloedd, organynnau celloedd – ei strwythur a swyddogaeth, strwythur a swyddogaeth DNA, moleciwlau biolegol a chellbilenni.

BY2: Bioamrywiaeth a ffisioleg Systemau’r Corff
Mae’r uned yn cynnwys: gwahaniaethu celloedd, trafnidiaeth mewn planhigion ac anifeiliaid, y system dreulio, amrywiad, bioamrywiaeth, dosbarthiad ac esblygiad, ac ymddygiad anifeiliaid.

Safon Uwch (blwyddyn 2)

BY3: Egni, Homeostasis a’r Amgylchedd
Mae’r uned yn cynnwys: resbiradaeth a ffotosynthesis, trosglwyddo egni a chynhyrchu bwyd, rheoleiddio amgylcheddau mewnol gan gynnwys siwgr yn y gwaed a rheoleiddio tymheredd.

BY4: Amrywiad, Etifeddiad a Gwyddor Bwyd
Mae’r uned yn cynnwys: amrywiad, detholiad, etifeddiaeth enetig, mynegiant genynnau a chlonio genynnau, treuliad a diet.

BY5: Sgiliau Ymchwiliol ac Ymarferol mewn Bioleg

Mae hyn yn cynnwys arholiad labordy wedi’i farcio’n allanol.

Arholiadau ym mis Mai a Mehefin.

Mae’r cwrs Safon Uwch llawn mewn Bioleg yn darparu’r sail ar gyfer myfyrwyr sydd am fynd ymlaen i Addysg Uwch i astudio Bioleg, Meddygaeth, Gwyddor Filfeddygol a gyrfaoedd gwyddonol eraill. Mae hefyd yn llwybr i nyrsio, addysgu, ffisiotherapi a gwaith yn y labordy, yn ogystal â chysylltu yn uniongyrchol â gwyddoniaeth amgylcheddol a chynaliadwyedd.

6 gradd C TGAU, gan gynnwys gradd BB yn TGAU Gwyddoniaeth Dyfarniad Dwbl NEU radd B ym Mioleg haen uwch, Gradd B yn TGAU Mathemateg a gradd B yn TGAU Saesneg.

Gellir defnyddio gradd B mewn pwnc disgyrsiol megis Hanes, Astudiaethau Crefyddol neu Lenyddiaeth Saesneg yn lle Saesneg.