Daeth yr ymaros nerfus ar gyfer canlyniadau Safon Uwch i ben ddydd Iau, wrth i fyfyrwyr fynd i’r coleg i gasglu eu canlyniadau a rhannu eu llwyddiant gyda ffrindiau a staff.

Cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ym mis Chwefror y byddai’n ceisio pontio’n ôl i brosesau cyn y pandemig, felly roedd disgwyl y byddai ffiniau graddau 2023 yn gostwng “yn gyffredinol i rywle rhwng 2019 a 2022”.

Roedd graddau dysgwyr o Goleg Dewis Sant yn parhau i fod yn uwch na ffiniau graddau y cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer 2023, gyda llwyddiannau nodedig lle’r oedd graddau A*-B yn 2.4 o bwyntiau canran yn uwch (60.3%), a graddau A*-C yn 3.6 o bwyntiau canran yn uwch (82.5%) na’r cyfartaledd cenedlaethol.

Mae canlyniadau dysgwyr sy’n sefyll arholiadau UG yn arbennig o uchel, gyda 30.6% o raddau’n radd A, y radd uchaf y gellir ei chael; 5.1 o bwyntiau canran yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol. Roedd graddau A*-B yn 6.8 o bwyntiau canran yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol (52.1%). Mae hyn yn rhoi ein dysgwyr yn y dosbarth chweched is mewn sefyllfa gref wrth iddynt ddechrau ar eu blwyddyn Safon Uwch derfynol ym mis Medi.

Perfformiodd dysgwyr ar Raglen er Anrhydedd Dewi Sant yn benodol o dda, gyda 59% o raddau dysgwyr yn A* neu’n A a 95% o’r graddau rhwng A* a C.

Mae mwy na 400 o ddysgwyr bellach yn ymadael â Dewi Sant i fynd i’r brifysgol, gyda bron i 40% ohonynt yn mynd i brifysgolion Grŵp Russell. Mae llawer o ddysgwyr eraill yn symud ymlaen i brentisiaethau, prentisiaethau gradd a chyfleoedd cyflogaeth.

Roedd nifer enfawr o straeon llwyddiannus ar fore lle trodd ‘beth os’ i fod yn realiti. Fodd bynnag, mae’n bwysig peidio ag anghofio am unigolion. Llongyfarchiadau i Michael, a gafodd gynnig i astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ar ôl cyflawni pedwar A*.

 

Mae pob athro sydd wedi addysgu Michael yn cydnabod cymaint mae’n haeddu’r lle hwn ar raglen gradd meddygaeth. Mae ei ganlyniadau’n dangos yr angerdd sydd ganddo yn ei faes dewisol. Cafodd Michael ganmoliaeth gan ei athrawon Rhaglen Paratoi Meddygol wrth iddo dderbyn y newyddion am ei gynnig gan Brifysgol Caerdydd, ac mae’n deg dweud na allai neb guddio ei gyffro na’i bleser.

Llongyfarchiadau i Dylan, a ddangosodd aeddfedrwydd a disgyblaeth fawr wrth baratoi ar gyfer arholiadau eleni, gan arwain at set neilltuol o ganlyniadau – A* A* A* A.

Mae Dylan wedi bod yn aelod gweithgar o gymuned y coleg eleni. Bu hyd yn oed yn rhoi o’i amser yn ystod ei sesiynau adolygu i siarad mewn digwyddiadau i ddysgwyr sy’n dechrau eu Safon Uwch ym mis Medi. Wrth wneud hynny, mae’n paratoi’r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr am yr hyn sydd o’u blaenau, gan rannu ei brofiad personol o ddysgu.

Mae rhagor o straeon yn ein cyrraedd wrth i ddysgwyr ac athrawon rannu eu cyffro am yr hyn sy’n dod nesaf.

Am y canlyniadau, meddai’r Pennaeth Mark Leighfield:

“Da iawn i’r holl ddysgwyr sy’n symud ymlaen o Goleg Dewi Sant i’r bennod nesaf yn eu bywydau. Rydym ni wedi gweld set wych o ganlyniadau, sy’n dangos yn glir lefel eithriadol o ymrwymiad ac ymroddiad o fyfyrwyr a staff yng nghymuned gyfan y coleg.

Diolch i’r holl aelodau o staff yng Ngholeg Dewi Sant sydd wedi gweithio ar y cyd i ddarparu ar gyfer ein dysgwyr mor dda. Mae’r canlyniadau a welwyd heddiw yn adlewyrchu eu hymrwymiad i bobl ifanc ein cymuned.

Fel coleg, rydym ni bellach yn edrych tua’r flwyddyn newydd, wrth i fyfyrwyr newydd ddewis i barhau â’u haddysg yng Ngholeg Dewi Sant. Edrychwn ymlaen at agor adeilad newydd ein coleg, yn ogystal â gwaith adnewyddu mawr ar gampws y coleg. Mae llawer o resymau i fod yn ddiolchgar ac yn llawn cyffro wrth i’r flwyddyn academaidd newydd nesáu.”