Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Lefel A
Cymhwyster
UG ac Uwch
Bwrdd Arholi
CBAC
Meini Prawf Mynediad
6 gradd C TGAU, gan gynnwys gradd C yn TGAU Saesneg.
Trosolwg Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Lefel A
Mae Lefel A Llywodraeth a Gwleidyddiaeth yn rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr i fyfyrwyr o systemau gwleidyddol. Mae’n canolbwyntio ar strwythurau a phrosesau llywodraeth y DU a pherthnasedd ideolegau gwleidyddol. Mae’r cwrs hwn yn archwilio themâu allweddol fel democratiaeth, llywodraethu, a hawliau dynol, gan ganiatáu i fyfyrwyr ymgysylltu â materion cenedlaethol a rhyngwladol cyfoes.
Bydd myfyrwyr yn dysgu am weithrediadau’r Senedd, rôl y frenhiniaeth, a’r dylanwadau ideolegol ar bleidiau gwleidyddol ac ymddygiad pleidleiswyr. Mae’r pwnc rhyngddisgyblaethol hwn yn paru’n dda â’r celfyddydau a’r dyniaethau, gan wella sgiliau meddwl beirniadol a dadansoddi.
Mae’r sgiliau a enillir, fel galluoedd cyfathrebu ac ymchwil effeithiol, yn amhrisiadwy ar gyfer addysg uwch mewn hanes, y gyfraith, newyddiaduraeth, neu addysgu.
Lefel UG (blwyddyn 1)
Uned 1: Llywodraeth yng Nghymru a’r DU
Mae’r uned hon yn cyflwyno myfyrwyr i sut mae Cymru a’r DU yn cael ei llywodraethu heddiw. Bydd myfyrwyr yn astudio Cyfansoddiad y DU, pŵer y Cynulliad a’r Senedd yn ogystal â rôl y Llys Goruchaf yng ngwleidyddiaeth y DU. Bydd dysgwyr yn gallu trafod, dadansoddi a gwerthuso themâu allweddol, materion a dadleuon o amgylch llywodraethu yng Nghymru a’r DU.
Uned 2 :Byw a Chymryd Rhan mewn Democratiaeth
Mae’r uned hon yn canolbwyntio ar y thema o ymddygiad gwleidyddol yn y DU. Mae’n archwilio i sut gall patrymau cyfranogiad gwahanol bobl cael ei egluro a mathau gwahanol o gyfraniad mewn democratiaeth. Mae pwysigrwydd ymddygiad pleidleisio, dylanwad systemau etholiadol wrth gyfathrebu barn wleidyddol a’r dadleuon sy’n ymwneud â’r defnydd o refferenda yn bynciau hanfodol ar gyfer dadansoddiad.
Safon Uwch (blwyddyn 2)
Uned 3: Cysyniadau a Damcaniaethau Gwleidyddol
Bydd amrywiaeth o draddodiadau ideolegol yn cael eu harchwilio fel Rhyddfrydiaeth, Ceidwadaeth, Sosialaeth, Comiwnyddiaeth a Chenedlaetholdeb. Bydd dysgwyr yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r ideolegau hyn yn feirniadol a’u perthnasedd cyfoes i wleidyddiaeth y DU a Chymru.
Uned 4: Llywodraeth a Gwleidyddiaeth yr UDA
Mae’r uned hon yn canolbwyntio ar thema llywodraeth yr UDA. Mae’n edrych ar y gwahanol brosesau sy’n ymwneud â gwneud penderfyniadau a’r rhwystrau a gwrthbwysau sy’n gynhenid yn y system wleidyddol yr UDA. Mae’n uned synoptig a bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i gadw’n gyfredol â materion cyfoes yr UDA a gwledydd eraill. Anogir cymhwyso’r wybodaeth a gafwyd o’r cwrs UG wrth werthuso rôl pleidiau gwleidyddol, carfannau pwyso a phatrwm pleidleisio yn yr UDA.
Oherwydd natur eang y pwnc, a’r sgiliau a gaffaelir drwy gydol y cwrs, mae’n cyfuno’n dda gyda phynciau dyniaethau neu gelfyddydol arall. Bydd Llywodraeth a Gwleidyddiaeth yn bwnc defnyddiol i fyfyrwyr sy’n gwneud cais am gyrsiau’r Brifysgol mewn Hanes, y Gyfraith, Newyddiaduraeth neu Addysgu.
6 gradd C TGAU, gan gynnwys gradd C yn TGAU Saesneg. Nid yw unrhyw ddysg mewn gwleidyddiaeth yn ofynnol, fodd bynnag mae’n hanfodol i’r cwrs aros yn gyfredol â materion cyfoes.