Mae Cemeg yn wyddoniaeth sy’n sail i gymdeithas. Mae’n bwysig ym mhob agwedd o’n bywydau o feddyginiaethau a ddefnyddiwn i’r gwrteithiau a ddefnyddiwn ar y tir i wneud y cynnyrch gorau o’r cnydau.

Mae Cemeg yn cael ei asesu trwy gyfuniad o bapurau ysgrifenedig ac asesiadau ymarferol.

Lefel UG (blwyddyn 1)

Uned 1: Iaith Cemeg, Strwythur Mater ac Adweithiau Syml
Ymchwilir i strwythur atomau yn ogystal â’r cyfrifiadau sy’n ein galluogi i benderfynu ar gynnyrch disgwyliedig o adweithiau cemegol. Yn ogystal, byddwn yn edrych ar adweithiau cildroadwy a strwythurau solidau.

Uned 2: Ynni, Cyfradd a Chemeg Cyfansoddion Carbon
Bydd newidiadau egni o adweithiau yn cael eu hastudio yn ogystal â’r ffactorau sy’n effeithio ar gyfraddau prosesau cemegol. Mae’r modiwl hefyd yn cyflwyno cemeg organig (carbon) a sbectrosgopeg.

 

Safon Uwch (blwyddyn 2)

Uned 3: Cemeg Corfforol ac Anorganig
Bydd y tabl cyfnodol yn cael ei astudio’n fwy manwl nag ar UG. Bydd cemeg yr Elfennau Pontio a Grwpiau III, IV a VII yn cael eu harchwilio. Mae creu potensialau trydanol rhwng dwy elfen wahanol yn cael ei archwilio’n fanwl, ynghyd ag astudiaethau pellach o’r newid egni sy’n digwydd yn ystod adweithiau. Yn olaf, bydd astudiaeth o’r ffordd y gall canlyniadau arbrofol arwain at benderfyniad manwl o’r prosesau sy’n digwydd yn ystod adwaith.

Uned 4: Cemeg Organig a Dadansoddi.
Gan adeiladu ar CH2, bydd y modiwl hwn yn archwilio ystod eang o ddosbarthiadau o gemegau organig a’u hadweithiau nodweddiadol. Bydd dulliau dadansoddi a phriodweddau arbennig i rywogaethau organig penodol yn cael eu hastudio hefyd.

Uned 5: Ymarferol
Mae’r uned hon yn cynnwys dwy dasg sy’n cael eu perfformio o dan amodau arholiad.

Mae’r rhan fwyaf o bynciau yn gallu cael eu hastudio ochr yn ochr â Chemeg. Mae Cemeg yn bwnc y mae llawer o fedrau allweddol yn cael eu datblygu. Mae sgiliau o’r fath yn hanfodol i unrhyw yrfa yn y dyfodol.

Ar gyfer y rhai sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn meddygaeth, milfeddygaeth neu yrfaoedd gwyddonol arall, mae’n rhaid astudio Cemeg. Mae llawer o gemegwyr yn dod o hyd i yrfaoedd mewn gwerthu a marchnata, newyddiaduraeth a hysbysebu, a’r gyfraith. Mae’r ystod o yrfaoedd sy’n agored iddynt yn cadarnhau’r parch mawr sydd i rywun sydd â chymaint o fedrau.

6 gradd C TGAU, gan gynnwys gradd BB yn TGAU Gwyddoniaeth Dyfarniad Dwbl NEU radd B yng Nghemeg haen uwch. Mae gradd B yn TGAU Mathemateg a gradd B yn TGAU Saesneg hefyd yn ofynnol.

Gellir defnyddio gradd B mewn pwnc disgyrsiol megis Hanes, Astudiaethau Crefyddol neu Lenyddiaeth Saesneg yn lle Saesneg.