Ffrangeg
Cymhwyster
UG & U
Canlyniadau
Gradd A* - C: 81.8%
Bwrdd Arholi
CBAC
Bydd y pynciau canlynol yn cael eu hastudio o safbwynt Ffrangeg yn ogystal â chyd-destun byd-eang fel yn briodol:
Blwyddyn 1 (Uwch Gyfrannol)
Thema 1: (UG) Bod yn berson ifanc mewn cymdeithas sy’n siarad Ffrangeg
- Strwythur teuluol, gwerthoedd traddodiadol a modern, cyfeillgarwch / perthnasoedd
- Tueddiadau ieuenctid, materion a hunaniaeth bersonol
- Cyfleoedd addysgol a chyflogaeth
Thema 2: Deall y byd sy’n siarad Ffrangeg
- Diwylliant a threftadaeth ranbarthol yn Ffrainc, gwledydd a chymunedau sy’n siarad Ffrangeg
- Llenyddiaeth, celf, ffilm a cherddoriaeth yn y byd sy’n siarad Ffrangeg
Blwyddyn 2 (Safon Uwch)
Thema 3: Amrywiaeth a gwahaniaethu
- Mudo ac integreiddio
- Hunaniaeth ddiwylliannol ac ymyleiddio
- Cyfoethogi diwylliannol a dathlu gwahaniaeth
- Gwahaniaethu ac amrywiaeth
Thema 4: Ffrainc o 1940-1950: Meddiannaeth yn y flynyddoedd ôl-rhyfel
- O 1940- Fai 1950: (meddiannaeth, rhyddhad a diwedd yr Ail Rhyfel Byd)
- Bywyd yn Ffrainc a feddiannwyd a’r cydbwysedd diwylliannol (theatr, sinema, llenyddiaeth)
- 1945 – 1950: ailadeiladu ac ailstrwythuro
- Effeithiau ar gyfer Ffrainc modern.
Yn ogystal â’r pynciau penodedig, bydd myfyrwyr UG yn astudio ffilm o restr ragnodedig a bydd myfyrwyr Safon Uwch yn astudio llyfr o restr ragnodedig.
Yn ystod y cwrs, mae’n bosib bydd gan fyfyrwyr y cyfle i ymweld â Ffrainc fel rhan o daith gyfnewid neu daith, yn ogystal ag ymweliadau â digwyddiadau diwylliannol Ffrangeg rheolaidd. Mae gan fyfyrwyr y cyfle hefyd i gymryd rhan mewn rhaglenni Llysgennad Myfyrwyr gyda’r rhaglen Llwybr i Ieithoedd Prifysgol Caerdydd. Bydd y myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i siarad Ffrangeg yn rheolaidd gyda siaradwr brodorol, a dysgu am ddiwylliant Ffrangeg.
UG Uned 1
Asesiad llafar heb arholiad
- 12-15 munud (gyda 15 munud o amser paratoi ychwanegol)
- 12% o’r cymhwyster
- 48 marc
Tasg 1: Ymdrin â safbwynt yn seiliedig ar gerdyn ysgogiad ysgrifenedig (5 – 6 munud)
Tasg 2: Trafodaeth yn seiliedig ar ail gerdyn ysgogiad ysgrifenedig (7-9 munud)
Ni chaniateir i ddysgwyr defnyddio geiriaduron mewn unrhyw ran o’r asesiad.
UG Uned 2
Gwrando, darllen, cyfieithu ac ymateb beirniadol yn ysgrifenedig.
- Arholiad ysgrifenedig
- 2 awr 30 munud
- 28% o’r cymhwyster
- 84 marc
Adran A: Gwrando
Adran B: Darllen
Adran C: Cyfieithu – o’r Ffrangeg i’r Saesneg / Cymraeg
Adran Ch: Ymateb critigol yn ysgrifenedig
Ni chaniateir i ddysgwyr ddefnyddio geiriaduron mewn unrhyw rhan o’r asesiad.
A2 Uned 3
Asesiad llafar heb arholiad
- 11-12 munud
- 18% o’r cymhwyster
- 72 marc
Prosiect ymchwil annibynnol
Tasg 1: Cyflwyno prosiect ymchwil annibynnol (2 funud)
Task 2: Trafodaeth ar gynnwys y prosiect ymchwil annibynnol (9-10 munud)
Ni chaniateir i ddysgwyr ddefnyddio geiriaduron mewn unrhyw rhan o’r asesiad.
A2 Uned 4
Gwrando, darllen a chyfieithu
- Arholiad ysgrifenedig
- 1 awr 45 munud
- 30& o’r cymhwyster
- 100 marc
Adran A: Gwrando
Adran B: Darllen
Adran C: Cyfieithu – o’r Saesneg / Cymraeg i’r Ffrangeg
A2 Uned 5
Ymateb beirniadol a dadansoddol yn ysgrifenedig (llyfr caeedig)
- Arholiad ysgrifenedig
- 1 awr 30 munud
- 12% o’r cymhwyster
- 40 marc
Un cwestiwn traethawd yn seiliedig ar astudiaeth o un darn o waith lenyddol o’r rhestr ragnodedig.
Ni chaniateir i ddysgwyr ddefnyddio geiriaduron neu destunau mewn unrhyw rhan o’r asesiad.
Mae’r gallu i siarad iaith arall yn ased pendant. Mae ieithoedd tramor cyfoes yn cael eu defnyddio’n gyffredin ym myd masnach, busnes rhyngwladol, diplomyddiaeth, y byd celf, gwasanaethau ariannol, y cyfryngau, twristiaeth a thechnoleg.
Mae iaith dramor cyfoes yn berthnasol ac yn ddefnyddiol ar gyfer nifer o gyrsiau gradd, megis: Y Gyfraith, Cyrsiau Meddygol, Astudiaethau Busnes, Marchnata / Rheoli Allforio, Newyddiaduraeth Astudiaethau’r / Cyfryngau, Addysg a Thwristiaeth.
6 TGAU A*-C, gan gynnwys B neu’n uwch Ffrangeg (haen uwch).