Sbaeneg
Cymhwyster
UG & U
Canlyniadau
Gradd A*-C: 91%
Bwrdd Arholi
CBAC
Bydd y pynciau canlynol yn cael eu hastudio o safbwynt Sbaeneg yn ogystal â chyd-destun byd-eang fel yn briodol:
Blwyddyn 1 (Uwch Gyfrannol)
Thema 1: (UG) Bod yn berson ifanc mewn cymdeithas sy’n siarad Sbaeneg
- Strwythur teuluol, gwerthoedd traddodiadol a modern, cyfeillgarwch / perthnasoedd
- Tueddiadau ieuenctid, materion a hunaniaeth bersonol
- Cyfleoedd addysgol a chyflogaeth
Thema 2: Deall y byd sy’n siarad Sbaeneg
- Diwylliant a threftadaeth ranbarthol yn Sbaen, gwledydd a chymunedau sy’n siarad Sbaeneg
- Llenyddiaeth, celf, ffilm a cherddoriaeth yn y byd sy’n siarad Sbaeneg
Blwyddyn 2 (Safon Uwch)
Thema 3: Amrywiaeth a gwahaniaethu
- Mudo ac integreiddio
- Hunaniaeth ddiwylliannol ac ymyleiddio
- Cyfoethogi diwylliannol a dathlu gwahaniaeth
- Gwahaniaethu ac amrywiaeth
Thema 4: Y Ddau Sbaen, 1936 ymlaen
El franquismo – tarddiad, datblygiad a chanlyniadau
- Sbaen ar ôl y rhyfel cartref – effeithiau hanesyddol a gwleidyddol
- Rhyfel cartref Sbaen a’r newid i ddemocratiaeth (a gynrychiolir yn y celfyddydau, sinema, llenyddiaeth, celf a ffotograffiaeth)
- Sbaen – derbyn y gorffennol? “Recuperación de la memoria histórica”
Yn ogystal â’r pynciau penodedig, bydd myfyrwyr UG yn astudio ffilm o restr ragnodedig a bydd myfyrwyr Safon Uwch yn astudio llyfr o restr ragnodedig.
Yn ystod y cwrs, mae’n bosib bydd gan fyfyrwyr y cyfle i ymweld â Sbaen fel rhan o daith gyfnewid neu daith, yn ogystal ag ymweliadau â digwyddiadau diwylliannol Sbaeneg rheolaidd.
Mae gan fyfyrwyr y cyfle hefyd i gymryd rhan mewn rhaglenni Llysgennad Myfyrwyr gyda’r rhaglen Llwybr i Ieithoedd Prifysgol Caerdydd. Bydd y myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i siarad Sbaeneg yn rheolaidd gyda siaradwr brodorol, a dysgu am ddiwylliant Sbaeneg.
UG Uned 1
Asesiad llafar heb arholiad
- 2-15 munud (gyda 15 munud o amser paratoi ychwanegol)
- 12% o’r cymhwyster
- 48 marc
Tasg 1: Ymdrin â safbwynt yn seiliedig ar gerdyn ysgogiad ysgrifenedig (5 – 6 munud)
Tasg 2: Trafodaeth yn seiliedig ar ail gerdyn ysgogiad ysgrifenedig (7-9 munud)
Ni chaniateir i ddysgwyr defnyddio geiriaduron mewn unrhyw ran o’r asesiad.
UG Uned 2
Gwrando, darllen, cyfieithu ac ymateb beirniadol yn ysgrifenedig.
- Arholiad ysgrifenedig
- 2 awr 30 munud
- 28% o’r cymhwyster
- 84 marc
Adran A: Gwrando
Adran B: Darllen
Adran C: Cyfieithu – o’r Sbaeneg i’r Saesneg / Cymraeg
Adran Ch: Ymateb critigol yn ysgrifenedig
Ni chaniateir i ddysgwyr ddefnyddio geiriaduron mewn unrhyw rhan o’r asesiad.
A2 Uned 3
Asesiad llafar heb arholiad
- 11-12 munud
- 18% o’r cymhwyster
- 72 marc
Prosiect ymchwil annibynnol
Tasg 1: Cyflwyno prosiect ymchwil annibynnol (2 funud)
Task 2: Trafodaeth ar gynnwys y prosiect ymchwil annibynnol (9-10 munud)
Ni chaniateir i ddysgwyr ddefnyddio geiriaduron mewn unrhyw rhan o’r asesiad.
A2 Uned 4
Gwrando, darllen a chyfieithu
- Arholiad ysgrifenedig
- 1 awr 45 munud
- 30& o’r cymhwyster
- 100 marc
Adran A: Gwrando
Adran B: Darllen
Adran C: Cyfieithu – o’r Saesneg / Cymraeg i’r Sbaeneg
A2 Uned 5
Ymateb beirniadol a dadansoddol yn ysgrifenedig (llyfr caeedig)
- Arholiad ysgrifenedig
- 1 awr 30 munud
- 12% o’r cymhwyster
- 40 marc
Un cwestiwn traethawd yn seiliedig ar astudiaeth o un darn o waith lenyddol o’r rhestr ragnodedig.
Ni chaniateir i ddysgwyr ddefnyddio geiriaduron neu destunau mewn unrhyw rhan o’r asesiad.
Mae’r gallu i siarad iaith arall yn ased pendant. Mae ieithoedd tramor cyfoes yn cael eu defnyddio’n gyffredin ym myd masnach, busnes rhyngwladol, diplomyddiaeth, y byd celf, gwasanaethau ariannol, y cyfryngau, twristiaeth a thechnoleg.
Mae iaith dramor cyfoes yn berthnasol ac yn ddefnyddiol ar gyfer nifer o gyrsiau gradd, megis: Y Gyfraith, Cyrsiau Meddygol, Astudiaethau Busnes, Marchnata / Rheoli Allforio, Newyddiaduraeth Astudiaethau’r / Cyfryngau, Addysg a Thwristiaeth.
6 TGAU A*-C gan gynnwys gradd B neu’n uwch mewn Sbaeneg (haen uwch).