Trosolwg Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Triphlyg)

Mae cymwysterau Tystysgrif a Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (dwbl): Egwyddorion a Chyd-destunau yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar y gwahanol sectorau yn y maes hwn. Mae’n gwrs diddorol gyda chynnwys amrywiol. I gwblhau’r cymhwyster, bydd angen i chi ymgymryd ag o leiaf 100 awr o ymgysylltu â’r sector. Mae hyn yn cynnwys 60 awr y mae’n rhaid i chi eu treulio mewn lleoliad gwaith. Bydd yr ymgysylltu â’r sector yn sicrhau eich bod yn cael profiad bywyd go iawn. Mae hyn yn darparu cyfleoedd i brofi gwahanol rolau yn y maes hwn i lywio eich gyrfa yn y dyfodol. Mae’r cwrs hwn fwyaf addas ar gyfer unigolion sy’n dymuno dilyn gyrfaoedd yn y maes gwaith hwn. Mae hyn yn cynnwys llwybrau gyrfa fel addysgu, gwaith cymdeithasol, ac ati.

Mae’r fanyleb yn darparu cwrs astudio cydlynol, boddhaol a gwerth chweil hyd yn oed os na fyddwch yn symud ymlaen i astudio ymhellach yn y pwnc hwn, er y gallwch hefyd symud ymlaen i gymwysterau eraill yn y maes gwaith hwn. Mae hefyd yn darparu sylfaen addas ar gyfer astudio iechyd a gofal cymdeithasol trwy ystod o gyrsiau addysg uwch neu brentisiaethau

Blwyddyn 1 (Diploma 90 Credyd)

Uned 1: Egwyddorion gofal ac ymarfer diogel o fewn gofal person-ganolog sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau (Asesiad di-arholiad 20 awr)

Asesir yr uned hon yn fewnol drwy asesiad di-arholiad (NEA): yn cael ei farcio gan eich athro/athrawes, a’i gymedroli’n allanol gan CBAC. Yn yr uned hon, byddwch chi’n meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o gyfrifoldebau, rolau ac atebolrwydd proffesiynol gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn y sector. Byddwch hefyd yn dysgu am wahanol ffactorau megis codau ymddygiad a chyfathrebu sy’n effeithio ar ofal person-ganolog sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau.

Uned 2: Ffactorau sy’n effeithio ar dwf a datblygiad unigolion ar draws y rhychwant oes a sut mae hyn yn effeithio ar ganlyniadau, gofal ac anghenion cymorth (Arholiad 1 awr 45 munud)

Yn yr uned hon a asesir drwy arholiad, byddwch chi’n meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n effeithio ar dwf a datblygiad unigolion ar draws y rhychwant oes, a’r effeithiau gall hyn eu cael ar eu canlyniadau lles personol ac anghenion gofal a chymorth.

Uned 3: Hybu hawliau unigolion ar draws y rhychwant oes (NEA 20 awr)

Yn yr uned hon a asesir drwy asesiad di-arholiad (NEA), byddwch chi’n meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o hawliau unigolion a’r rhwystrau i gymryd rhan y gallant eu hwynebu, sut y caiff y rhain eu hyrwyddo a’u herio er mwyn gwella iechyd a lles.

Uned 5: Helpu unigolion sydd mewn perygl i gyflawni’r canlyniadau maen nhw’n dymuno eu cael (Arholiad 1 awr 45 munud)

Yn yr uned hon a asesir drwy arholiad, byddwch chi’n meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o’r ffactorau a allai gyfrannu at roi unigolion mewn perygl o gael eu cam-drin a’u hesgeuluso, gofynion deddfwriaeth, rheoliadau a chodau ymddygiad ac ymarfer ar gyfer diogelu ac amddiffyn unigolion sydd mewn perygl yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol a dulliau o sicrhau hawliau unigolion.

Blwyddyn 2 (Diploma Estynedig)

Uned 4: Deall sut mae cyflyrau cyffredin yn effeithio ar y corff dynol (NEA 15 awr)

Yn yr uned hon a asesir drwy asesiad di-arholiad (NEA), byddwch chi’n meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o gyflyrau cyffredin, eu mathau a’u hachosion, ac yn ymchwilio i’r ffordd y gallant effeithio ar y corff dynol, yn ogystal ag archwilio’r gofal a chymorth sydd ar gael i unigolion sy’n byw gyda chyflyrau ffisiolegol a’r heriau y gallant eu hwynebu.

Uned 6: Gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol (NEA 18 awr)

Yn yr uned hon a asesir drwy asesiad di-arholiad (NEA), byddwch chi’n adeiladu ar eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o weithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol drwy addysgu yn yr ystafell ddosbarth a thrwy ymgysylltu gorfodol â’r sector (isafswm o 100 awr, y mae’n rhaid iddynt gynnwys 60 awr o leoliad gwaith). Bydd angen i chi gadw cofnod myfyriol o’ch profiadau.

Unedau ychwanegol – bydd dwy uned ychwanegol i’w hastudio hefyd, fodd bynnag nid yw’r bwrdd arholi wedi rhyddhau’r rhain eto oherwydd dechreuodd blwyddyn 1 o’r cymhwyster hwn ym mis Medi 2022.

Mae’r fanyleb yn darparu cwrs astudio sy’n gydlynol, boddhaol, a buddiol hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu parhau ag astudiaeth bellach yn y pwnc, er y gallwch hefyd barhau i gymwysterau eraill o fewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae hefyd yn darparu sylfaen addas ar gyfer astudio iechyd a gofal cymdeithasol trwy ystod o gyrsiau addysg uwch, neu brentisiaethau.

5 TGAU neu gyfwerth

Os astudiwyd Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau – Teilyngdod neu uwch.