Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at fyfyrwyr sy’n caru chwaraeon ac sydd eisiau astudio chwaraeon, gyda ffocws penodol ar yr ochr damcaniaethol.

Bydd y cwrs yn eu galluogi i ddatblygu sgiliau a thechnegau angenrheidiol:

– i berfformio’n effeithiol mewn gweithgarwch corfforol;

– ar gyfer rolau megis perfformwyr, arweinydd a swyddog gweithgarwch corfforol;

– i ddeall ffactorau gwahanol sy’n galluogi perfformwyr i fod yn egnïol yn gorfforol;

– i ddeall sut gall perfformwyr gwneud y fwyaf o’r gyfleoedd a llwybrau sydd ar gael.

– i ddeall a gwerthuso dylanwadau allweddol a allai gyfyngu neu annog cyfranogiad pobl ifanc.

Lefel UG (blwyddyn 1)

Arholiad (1 awr 45 munud) yn cynnwys cwestiynau strwythuredig gorfodol ac un cwestiwn traethawd
Perfformiad ymarferol mewn un chwaraeon

Hyfforddi/gweinyddu

Gwaith cwrs (2000 o eiriau) proffil perfformiad ymarferol

Meysydd theori UG:

Dewisiadau ffordd o fyw (iechyd, ffitrwydd a hamdden), cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol (dwysedd hyfforddi, adfer, seicoleg, a.y.y.b.), maeth (deiet cytbwys, hydradiad, a.y.y.b.).

Safon Uwch (blwyddyn 2)

Arholiad (2 awr) yn cynnwys cwestiynau strwythuredig a un cwestiwn traethawd

Perfformiad ymarferol mewn un gamp neu hyfforddi/gweinyddu

Gwaith cwrs – ymchwil archwiliol 3000 o eiriau

Meysydd theori Safon Uwch:

Mireinio perfformiad a gwella iechyd (dadansoddi perfformiad, rheoli pryder, cymhelliant, a.y.y.b), dylanwadau cyfoes (drefnu chwaraeon, cyffuriau mewn chwaraeon, noddi, datblygiadau technolegol mewn chwaraeon a.y.y.b).

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i arfogi unigolion â’r wybodaeth, dealltwriaeth a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer llwyddiant yn y diwydiannau chwaraeon a hamdden, neu ar gyfer mynediad i raglenni cenedlaethol uwch neu radd israddedig mewn Addysg Gorfforol, Gwyddorau Chwaraeon, Datblygu Chwaraeon neu Hyfforddi Chwaraeon. Mae’n bosib caniatáu dilyniant i raglenni ffisiotherapi gyda chymhwyster gwyddoniaeth ychwanegol (Bioleg).

6 gradd C TGAU, gan gynnwys gradd BC yn TGAU Gwyddoniaeth, gradd C yn TGAU Addysg Gorfforol a gradd C yn TGAU Saesneg.

Anrhydeddau cynrychioli mewn o leiaf un o’r canlynol: Lefel clwb uchel, lefel sir, lefel ardal, neu’r cyfwerth ar gyfer y gweithgaredd. Rhaid i hyfforddwr neu athro Addysg Gorfforol ddarparu a llofnodi datganiad ynghylch lefel perfformiad.

Gellir defnyddio gradd C mewn pwnc disgyrsiol megis Hanes, Astudiaethau Crefyddol neu Lenyddiaeth Saesneg yn lle Saesneg.