Os ydych yn angerddol am Theatr Gerdd, mae’r cwrs tra ymarferol hwn yn darparu’r hyfforddiant sydd ei angen arnoch yn y tair disgyblaeth: canu, dawnsio ac actio, er mwyn i chi ddatblygu’n perfformiwr Theatr Gerdd amryddawn. Efallai eich uchelgais yw bod yn berfformiwr sioe gerdd ar lwyfan, ar longau mordaith, neu ar y cyd ag eraill fel rhan o’r diwydiant adloniant. Yn ystod y cwrs, caiff myfyrwyr brofiad o berfformio amrywiaeth eang o arddulliau perfformio, a byddant yn datblygu’r sgiliau fydd eu hangen arnynt i wireddu eu breuddwydion.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn gyrfa mewn Theatr Gerdd, ac os hoffech ennill cymhwyster cyfwerth â Lefel A sy’n cynnig hyfforddiant ym mhob agwedd o Theatr Gerdd, dyma yw’r cwrs i chi. Mae’n darparu sylfaen gref i chi fedru symud ymlaen naill ai i ysgolion Drama neu Addysg Uwch, dilyn gyrfa yn y celfyddydau perfformio, neu weithio yn niwydiant adloniant, hamdden neu gyfathrebu.