Celfyddydau Perfformio: Diploma BTEC (Triphlyg)
Cyfwerth
Cyfwerth â 3 Lefel A
Cymhwyster
Diploma BTEC Lefel 3
Bwrdd Arholi
Pearson
Meini Prawf Mynediad
5 gradd C TGAU, neu gymwysterau galwedigaethol cyfatebol, gan gynnwys gradd C yn TGAU Saesneg, a gradd C yn TGAU Drama neu Gerddoriaeth, os ydynt yn cael eu hastudio.
Gofynion Mynediad Ychwanegol
Bydd angen i ymgeiswyr lwyddo mewn clyweliad o flaen y tîm addysgu celfyddydau perfformio.
Celfyddydau Perfformio: Diploma BTEC (Triphlyg)
Mae BTEC Lefel 3 Ymarfer Celfyddydau Perfformio ar gyfer dysgwyr sy’n angerddol am Theatr Gerdd. Bydd y cwrs deinamig ac ymarferol hwn yn eich hyfforddi i ddatblygu eich sgiliau yn y tair disgyblaeth. Y disgyblaethau hyn yw: canu, dawnsio ac actio, gan eich helpu i ddod yn berfformiwr amryddawn sy’n barod ar gyfer amrywiol gyfleoedd llwyfan. Bydd pwyslais ar gydweithio, creadigrwydd a rhagoriaeth perfformio.
Efallai mai eich uchelgais yw perfformio ar y llwyfan mewn sioeau cerdd neu longau mordeithio. Efallai eich bod yn dyheu am berfformio i eraill fel rhan o’r diwydiant adloniant. Drwy gydol y cwrs hwn, bydd dysgwyr ymroddedig yn profi amrywiaeth eang o arddulliau perfformio a byddant yn datblygu eu sgiliau’n gyson i’w helpu i gyflawni eu breuddwydion a chyrraedd eu potensial llawn.
Oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa mewn Theatr Gerdd ac eisiau cwrs cyfatebol Lefel A, ond cwrs sy’n cynnig hyfforddiant ym mhob agwedd ar Theatr Gerdd? Yna gallai ein cwrs fod y dewis cywir. Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen gref i chi ar gyfer symud ymlaen i ysgolion Drama, astudio celfyddydau perfformio mewn Addysg Uwch, neu yrfa o fewn y diwydiannau celfyddydau perfformio neu adloniant, hamdden neu gyfathrebu.
Mae dysgwyr Celfyddydau Perfformio fel arfer wedi mynd ymlaen i gyrsiau Theatr Gerdd neu Actio ar ôl cwblhau eu hastudiaethau.
Strwythur y Cwrs
Blwyddyn 1
A, Datblygu Sgiliau’r Celfyddydau Perfformio
A1 Archwilio Arddulliau PerfformioYn yr uned hon, byddwch yn astudio’r gwahanol arddulliau canu mewn theatr gerdd, gan gynnwys astudiaeth o repertoire sy’n wirioneddol a chyfoes. Byddwch yn mynd i’r afael â chanu unawdol a chanu mewn ensemble, yn ogystal â sgiliau darllen ar yr olwg gyntaf. Byddwch yn derbyn hyfforddiant dawnsio, gan fynd i’r afael â repertoire proffesiynol a datblygu sgiliau sylfaenol ar draws ystod o arddulliau gwahanol megis jas, bale, a dawns gyfoes. Byddwch yn datblygu’ch sgiliau actio ymhellach drwy waith sgriptio ac addasu ar y pryd gan astudio gwaith ymarferwyr amrywiol. Ar ddiwedd yr uned, bydd dau gyfle gennych i berfformio o flaen cynulleidfa.
A2 Creu Deunydd Perfformio
Yn ystod yr uned hon, byddwch yn cael cyfle i addasu ar y pryd a dyfeisio sioe gerdd eich hun. Gallwch ysgrifennu’r sgript, ysgrifennu’r caneuon, coreograffi neu gyfarwyddo’r sioe – mae yna lu o bosibiliadau! Byddwch yn gweithio fel rhan o grŵp er mwyn creu sioe gerdd sy’n cwmpasu’r ystod o arddulliau a sgiliau yr ydych wedi eu datblygu fel grŵp. Mae’r uned hon yn helpu chi ddeall fel perfformiwr sut i greu gwaith eich hun, a gwella’ch rhagolygon yn ôl safonau’r diwydiant proffesiynol.
A3 Perfformio ar gyfer cynulleidfaMae hon yn uned gyffrous, lle bydd gennych gyfle i gael clyweliad am rôl mewn sioe gerdd gyflawn. Byddwch yn cael cyfnod o 6-8 wythnos i ymarfer, ac yna, byddwch yn perfformio o flaen cynulleidfa. Mae’r cyfle hwn yn darparu profiad go iawn o weithio mewn cynhyrchiad theatr gerdd.
F Y Diwydiant Celfyddydau Perfformio
F16 Cynllunio Gyrfa yn y DiwydiantYn yr uned hon, byddwch yn dysgu am y diwydiant perfformio, a sut i gael eich cyflogi fel perfformiwr theatr gerdd. Bydd cyfle gennych i gael eich llun wedi tynnu (saethiad pen ac ysgwyddau) ac i ysgrifennu CV ar gyfer y dyfodol. Byddwch yn dysgu popeth am gastio a ble i ymgeisio am waith. Hefyd, byddwch yn datblygu’ch dealltwriaeth o ysgolion drama a mynediad at Addysg Uwch.
Blwyddyn 2
G Proffil Personol Celfyddydau PerfformioMae’r uned hon yn paratoi dysgwyr ar gyfer dilyniant, trwy ddatblygu’u dealltwriaeth o gyfleoedd yn y dyfodol, cynllunio dilyniant, a gweithio’n annibynnol. Mae’r rhain yn sgiliau hollbwysig ar gyfer Addysg Uwch a chyflogaeth yn y sector.
G17 Defnyddio Cynlluniau Datblygu i Goethi SgiliauMae yna ddigon o gyfleoedd yn yr uned hon i chi fyfyrio ar eich sgiliau a gweithio ar y cyd gyda’ch tiwtoriaid i barhau â’ch dilyniant ac i herio’ch hunain ymhellach.
G18 Cynhyrchu Prosiect Personol
Mae’r uned hon yn rhoi cyfle i chi ddyfeisio, datblygu, a chynhyrchu prosiect eich hun, sy’n arddangos eich sgiliau technegol a dehongli.
G19 Defnyddio Deunydd ar gyfer Hunan-hyrwyddo a RhyngweithioMae’r uned hon yn eich galluogi i greu a chyflwyno deunydd ar gyfer hunan-hyrwyddo a fyddai’n helpu chi yn y diwydiant proffesiynol. Bydd angen cynnwys y deunydd hefyd fel rhan o’r broses ymgeisio ar gyfer ysgol ddrama neu brifysgol.
H Prosiect Celfyddydau Perfformio CydweithredolBydd dysgwyr yn gallu ymgymryd â phrosiect ar raddfa fawr mewn cydweithrediad â’u cyfoedion. Gall y prosiect gael ei addasu ar gyfer gwahanol arbenigedd, diddordeb, neu gymuned leol, ac sy’n gallu gweithredu fel arddangosfa derfynol.
H20 Ymgymryd â Rôl Greadigol neu WeinyddolBydd yr uned hon yn eich galluogi i archwilio’r Celfyddydau Perfformio o safbwynt gwahanol, ac i ddysgu am gynllunio a pharatoi ar gyfer rôl greadigol neu weinyddol. Byddwch yn cyfrannu at y prosiect gan ddefnyddio’r sgiliau a ddysgoch yn ystod y broses.
H21 Defnyddio Cydweithrediad Creadigol i Ddatblygu Prosiect
Ar gyfer yr uned hon, byddwch yn arddangos ymgysylltiad personol a chyfrifoldeb unigol wrth ddatblygu prosiect cydweithredol. Bydd gennych gyfle i arddangos eich sgiliau perfformio, ac i gymhwyso’ch sgiliau cydweithrediad i greu’r prosiect.
H22 Cynhyrchu’r Prosiect CydweithredolAr gyfer yr uned hon, byddwch yn arddangos sgiliau perfformio technegol ym mhrosiect ar y cyd terfynol sy’n cael ei gyflwyno mewn perfformiad byw.
Fel arfer, symuda myfyrwyr sy’n astudio Celfyddydau Perfformio ymlaen i weithio yn y sector Theatr Gerdd neu i astudio cyrsiau Drama/Actio.
5 gradd C TGAU, neu gymwysterau galwedigaethol cyfatebol, gan gynnwys gradd C yn TGAU Saesneg, a gradd C yn TGAU Drama neu Gerddoriaeth, os ydynt yn cael eu hastudio.
Bydd angen i ymgeiswyr lwyddo mewn clyweliad o flaen y tîm addysgu celfyddydau perfformio.
Gellir defnyddio gradd C mewn pwnc traethodol megis Hanes, Astudiaethau Crefyddol neu Lenyddiaeth Saesneg yn lle Saesneg.
Cynhyrchiad Eleni yw: FAME! The Musical
Fame: The Musical Sioe yw hon am grŵp amrywiol o fyfyrwyr yn Ysgol Uwchradd Celfyddydau Perfformio Efrog Newydd yn y 1980au. Mae’r sioe gerdd yn dilyn eu siwrneai drwy hyfforddiant gelfyddydol, heriau academaidd ac anawsterau personol gyda rhamant, torcalon a hunanadnabyddiaeth, tra’n gweithio at y nod eithaf o gyrraedd enwogrwydd.