Astudiaethau Crefyddol Lefel A

Mae Astudiaethau Crefyddol Lefel A ar lefel UG yn cynnwys dwy uned sy’n cynnwys ystod eang o bynciau i’w hystyried, gan gynnwys astudiaeth fanwl ac eang o Gristnogaeth, crefydd a moeseg ac athroniaeth crefydd. Mae manyleb Lefel A yn caniatáu i ddysgwyr barhau â’u hastudiaeth systematig o’r tri maes hyn.

Bydd ymgymryd ag Astudiaethau Crefyddol yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau gan gynnwys dadansoddi syniadau, barn feirniadol, ymchwilio, darllen a dehongli testunau, trafod a dadlau syniadau dadleuol, dychmygu bywyd ar adegau eraill ac mewn mannau eraill, gwerthfawrogi a pharchu safbwyntiau eraill, a chymryd rhan hyderus mewn trafodaethau grŵp.

Mae Astudiaethau Crefyddol yn berthnasol ar gyfer graddau Addysg Uwch mewn: archaeoleg, athroniaeth, hanes, y gyfraith, meddygaeth, cymdeithaseg, seicoleg, gwyddorau cymdeithasol, addysg, llenyddiaeth a’r celfyddydau cyffredinol.

Lefel UG (blwyddyn 1)

RS1: (arholiad 1 awr 15 munud)
Mae’r uned hon yn rhoi’r cyfle i ddysgwyr ennill a datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o rai o nodweddion allweddol Cristnogaeth, yn amrywio o ffigyrau crefyddol i arferion crefyddol.

RS2: (arholiad 1 awr 45 munud)
Mae’r uned hon wedi’i rhannu’n ddwy adran. Mae Adran A yn rhoi cyfle i ddysgwyr ennill a datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o gysyniadau a damcaniaethau moesegol allweddol, yn amrywio o absoliwtiaeth foesol i Iwtilitariaeth. Mae Adran B yn archwilio i rai o nodweddion allweddol o themâu athronyddol, gan amrywio o ddadleuon dros fodolaeth Duw i brofiad crefyddol.

Safon Uwch (blwyddyn 2)

RS6: (arholiad 1 awr 30 munud)
Mae’r uned hon yn rhoi’r cyfle i ddysgwyr gynnal astudiaeth fanwl ac eang o bedwar thema testun, sydd mewn perthynas â llenyddiaeth y Testament newydd: gwyrthiau, damhegion, llythyron ac apocalyptaidd.

RS4: (arholiad 1 awr 30 munud)
Mae’r uned hon yn rhoi cyfle i ddysgwyr gynnal astudiaeth fanwl ac eang o themâu moesegol sylfaenol, gan amrywio o iaith a meddwl moesegol i wirfodd a phenderfyniaeth.

RS5: (arholiad 1 awr 30 munud)
Mae’r uned hon yn rhoi cyfle i ddysgwyr gynnal astudiaeth fanwl ac eang o themâu athronyddol sylfaenol, gan amrywio o ddadleuon dros fodolaeth Duw at ddefnydd o iaith grefyddol.

Bydd ymgymryd ag Astudiaethau Crefyddol yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau gan gynnwys: dadansoddi syniadau; mynegi barn yn feirniadol; ymchwilio; darllen a dehongli testunau; trafod a dadleuo syniadau; rhagweld bywyd ar adegau eraill ac mewn mannau eraill; gwerthfawrogi a pharchu safbwyntiau eraill; cyfrannu yn hyderus mewn trafodaethau grŵp.

Bydd Astudiaethau Crefyddol yn berthnasol ar gyfer graddau mewn: Archaeoleg, Athroniaeth, Hanes, Y Gyfraith, Meddygaeth, Cymdeithaseg, Seicoleg, Y Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg, Llenyddiaeth a Chelfyddydau cyffredinol.

6 gradd C TGAU, gan gynnwys gradd C yn Saesneg.