Mae Cymdeithaseg yn bwnc ysgogol a dynamig. Bydd myfyrwyr yn astudio unigolion o fewn cymdeithas, sy’n cynnwys grwpiau, mudiadau, diwylliannau a’r rhyngberthynas rhyngddynt. Bydd cyfle gan fyfyrwyr i astudio sefydliadau cymdeithasol megis y Teulu, Addysg, Y Gyfraith, Gwleidyddiaeth, y Cyfryngau a Chrefydd yn ogystal.

Bydd Cymdeithaseg yn annog dysgwyr i:

– ennill gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o brosesau a newidiadau cymdeithasol cyfoes,

– deall a gwerthuso methodoleg gymdeithasegol ac amrediad o ddulliau ymchwil trwy gymryd rhan weithredol yn y broses ymchwil,

– datblygu sgiliau sy’n galluogi unigolion i ganolbwyntio ar eu hunaniaeth, rôl a chyfrifoldeb o fewn y gymdeithas,

– datblygu diddordeb mewn materion cymdeithasol gan gyfeirio at Gymru’n benodol.

Lefel UG (blwyddyn 1)

Uned 1: Caffael Diwylliant (arholiad 1 awr 15 munud)

Adran A: mae’r uned yn canolbwyntio ar y cysyniadau a phrosesau allweddol o drosglwyddo diwylliant, gan gynnwys cymdeithasoli a chaffael hunaniaeth.

Adran B: bydd myfyrwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o gysyniadau a phrosesau cymdeithasoli a diwylliant allweddol trwy astudiaeth fanwl un allan o ddau opsiwn: teuluoedd ac aelwydydd, neu ddiwylliannau ieuenctid.

Uned 2: Deall Cymdeithas a Dulliau Ymchwil Cymdeithasegol (arholiad 2 awr)

Adran A: Mae’r uned orfodol yn canolbwyntio ar ddulliau ymholi cymdeithasegol. Mae dysgwyr yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o gysyniadau cymdeithasegol a materion methodolegol allweddol.

Adran B: mae’r uned hon yn datblygu dealltwriaeth o themâu allweddol o ddiwylliant cymdeithasol a hunaniaeth. Mae’r adran hon o’r uned hefyd yn cynnwys ystyriaeth o’r themâu o wahaniaethu, pŵer a haeniad trwy astudiaeth fanwl o un o dri opsiwn: addysg, y cyfryngau neu grefydd.

Safon Uwch (blwyddyn 2)

Uned 3: Grym a Rheolaeth (arholiad 2 awr)

Mae’r uned hon yn canolbwyntio ar y themâu o rym, gwahaniaethu a haeniad â materion sy’n ymwneud â threfn gymdeithasol a rheolaeth gymdeithasol a astudiwyd drwy un o’r opsiynau canlynol: trosedd a gwyredd, iechyd ac anabledd, gwleidyddiaeth neu gymdeithaseg byd.

Uned 4: Anghydraddoldeb Cymdeithasol a Dulliau Cymhwysol o Ymchwil Cymdeithasegol (arholiad 2 awr 15 munud)

Mae’r uned hon yn canolbwyntio ar y themâu o wahaniaethu cymdeithasol, pŵer a haeniad ac ar gymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o ddulliau ymchwilio cymdeithasegol. Bydd y pwyslais ar arddangos effeithiol o wybodaeth a lefel uchel o sgiliau dadansoddi, dehongli a gwerthuso.

Mae Cymdeithaseg yn ddefnyddiol ar gyfer ystod o gyrsiau a gyrfaoedd gan gynnwys y brifysgol: gwaith cymunedol, rheoli tai, dysgu, rheoli personél, heddlu, y gwasanaeth prawf, gweinyddiaeth sector cyhoeddus, gwaith cymdeithasol a gwaith cyngor lles.

6 gradd C TGAU, gan gynnwys gradd C yn TGAU Saesneg.

Gellir defnyddio gradd C mewn pwnc disgyrsiol megis Hanes, Astudiaethau Crefyddol neu Lenyddiaeth Saesneg yn lle Saesneg.