Bydd y pynciau canlynol yn cael eu hastudio o safbwynt Ffrangeg yn ogystal â chyd-destun byd-eang fel yn briodol:

Blwyddyn 1 (Uwch Gyfrannol)

Thema 1: (UG) Bod yn berson ifanc mewn cymdeithas sy’n siarad Ffrangeg

  • Strwythur teuluol, gwerthoedd traddodiadol a modern, cyfeillgarwch / perthnasoedd
  • Tueddiadau ieuenctid, materion a hunaniaeth bersonol
  • Cyfleoedd addysgol a chyflogaeth

Thema 2: Deall y byd sy’n siarad Ffrangeg

  • Diwylliant a threftadaeth ranbarthol yn Ffrainc, gwledydd a chymunedau sy’n siarad Ffrangeg
  • Llenyddiaeth, celf, ffilm a cherddoriaeth yn y byd sy’n siarad Ffrangeg

 

Blwyddyn 2 (Safon Uwch)

Thema 3: Amrywiaeth a gwahaniaethu 

  • Mudo ac integreiddio
  • Hunaniaeth ddiwylliannol ac ymyleiddio
  • Cyfoethogi diwylliannol a dathlu gwahaniaeth
  • Gwahaniaethu ac amrywiaeth

Thema 4: Ffrainc o 1940-1950: Meddiannaeth yn y flynyddoedd ôl-rhyfel

  • O 1940- Fai 1950: (meddiannaeth, rhyddhad a diwedd yr Ail Rhyfel Byd)
  • Bywyd yn Ffrainc a feddiannwyd a’r cydbwysedd diwylliannol (theatr, sinema, llenyddiaeth)
  • 1945 – 1950: ailadeiladu ac ailstrwythuro
  • Effeithiau ar gyfer Ffrainc modern.

Yn ogystal â’r pynciau penodedig, bydd myfyrwyr UG yn astudio ffilm o restr ragnodedig a bydd myfyrwyr Safon Uwch yn astudio llyfr o restr ragnodedig.

Yn ystod y cwrs, mae’n bosib bydd gan fyfyrwyr y cyfle i ymweld â Ffrainc fel rhan o daith gyfnewid neu daith, yn ogystal ag ymweliadau â digwyddiadau diwylliannol Ffrangeg rheolaidd.  Mae gan fyfyrwyr y cyfle hefyd i gymryd rhan mewn rhaglenni Llysgennad Myfyrwyr gyda’r rhaglen Llwybr i Ieithoedd Prifysgol Caerdydd. Bydd y myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i siarad Ffrangeg yn rheolaidd gyda siaradwr brodorol, a dysgu am ddiwylliant Ffrangeg.

UG Uned 1

Asesiad llafar heb arholiad

  • 12-15 munud (gyda 15 munud o amser paratoi ychwanegol)
  • 12% o’r cymhwyster
  • 48 marc

Tasg 1: Ymdrin â safbwynt yn seiliedig ar gerdyn ysgogiad ysgrifenedig (5 – 6 munud)

Tasg 2: Trafodaeth yn seiliedig ar ail gerdyn ysgogiad ysgrifenedig (7-9 munud)

Ni chaniateir i ddysgwyr defnyddio geiriaduron mewn unrhyw ran o’r asesiad.

 

UG Uned 2

Gwrando, darllen, cyfieithu ac ymateb beirniadol yn ysgrifenedig.

  • Arholiad ysgrifenedig
  • 2 awr 30 munud
  • 28% o’r cymhwyster
  • 84 marc

Adran A: Gwrando

Adran B: Darllen

Adran C: Cyfieithu – o’r Ffrangeg i’r Saesneg / Cymraeg

Adran Ch: Ymateb critigol yn ysgrifenedig

Ni chaniateir i ddysgwyr ddefnyddio geiriaduron mewn unrhyw rhan o’r asesiad.

 

A2 Uned 3

Asesiad llafar heb arholiad

  • 11-12 munud
  • 18% o’r cymhwyster
  • 72 marc

Prosiect ymchwil annibynnol

Tasg 1: Cyflwyno prosiect ymchwil annibynnol (2 funud)

Task 2: Trafodaeth ar gynnwys y prosiect ymchwil annibynnol (9-10 munud)

Ni chaniateir i ddysgwyr ddefnyddio geiriaduron mewn unrhyw rhan o’r asesiad.

 

A2 Uned 4

Gwrando, darllen a chyfieithu

  • Arholiad ysgrifenedig
  • 1 awr 45 munud
  • 30& o’r cymhwyster
  • 100 marc

Adran A: Gwrando

Adran B: Darllen

Adran C: Cyfieithu – o’r Saesneg / Cymraeg i’r Ffrangeg

 

A2 Uned 5

Ymateb beirniadol a dadansoddol yn ysgrifenedig (llyfr caeedig)

  • Arholiad ysgrifenedig
  • 1 awr 30 munud
  • 12% o’r cymhwyster
  • 40 marc

Un cwestiwn traethawd yn seiliedig ar astudiaeth o un darn o waith lenyddol o’r rhestr ragnodedig.

Ni chaniateir i ddysgwyr ddefnyddio geiriaduron neu destunau mewn unrhyw rhan o’r asesiad.

Mae’r gallu i siarad iaith arall yn ased pendant. Mae ieithoedd tramor cyfoes yn cael eu defnyddio’n gyffredin ym myd masnach, busnes rhyngwladol, diplomyddiaeth, y byd celf, gwasanaethau ariannol, y cyfryngau, twristiaeth a thechnoleg.

Mae iaith dramor cyfoes yn berthnasol ac yn ddefnyddiol ar gyfer nifer o gyrsiau gradd, megis: Y Gyfraith, Cyrsiau Meddygol, Astudiaethau Busnes, Marchnata / Rheoli Allforio, Newyddiaduraeth Astudiaethau’r / Cyfryngau, Addysg a Thwristiaeth.

6 TGAU A*-C, gan gynnwys B neu’n uwch Ffrangeg (haen uwch).