Mae Lefel A Drama a Theatr yn meithrin brwdfrydedd dros y celfyddydau dramatig a gwerthfawrogiad beirniadol ohonynt drwy lwybr sy’n seiliedig ar berfformiad neu gynhyrchiad. Mae’n datblygu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o arwyddocâd dylanwadau cymdeithasol, diwylliannol a hanesyddol ar ddatblygiad y celfyddydau dramatig.

Bydd myfyrwyr yn archwilio ymarferwyr a’u cyfraniad at y theatr, y cysylltiadau rhwng damcaniaeth ac ymarfer a ddangosir drwy nifer o ffurfiau, genres ac arddulliau perfformio.

Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi i ddysgwyr y sgiliau lefel uchel o ymchwil, dadansoddi a gwerthuso sy’n ofynnol i astudio ar lefel Addysg Uwch. Mae’n gweithio’n dda gyda’r rhan fwyaf o bynciau ond mae’n gydymaith delfrydol ar y cyd â Saesneg. Mae myfyrwyr hefyd yn defnyddio hyn fel sail gadarn ar gyfer ceisiadau a chlyweliadau.

Lefel UG (blwyddyn 1)

Mae’r Lefel UG yn cael ei asesu trwy ddau arholiad, (un ymarferol ac un ysgrifenedig) ar ddiwedd y cwrs. Mae’r rhain wedi’u cynllunio i brofi galluoedd myfyrwyr ar draws ystod o ddisgyblaethau.

Uned 1:  Gweithdy Theatr (asesir yn fewnol)
Gall myfyrwyr ddewis i gael ei asesu naill ai ar actio neu ddylunio . Bydd myfyrwyr yn creu, datblygu a pherfformio darn o theatr sy’n seiliedig ar ail-ddehongli dyfyniad o destun, gan ddefnyddio syniadau ymarferwyr theatr neu gwmni theatr. Mae’n rhaid i fyfyrwyr hefyd gwblhau Log Creadigol a gwerthusiad ysgrifenedig fel gwaith cwrs.

Uned 2: Testun mewn Theatr (arholiad ysgrifenedig 1.5awr)
Archwilio’n ymarferol a dadansoddi’r un testun gosod, gydag asesiad yn seiliedig ar draethawd. Mae myfyrwyr yn cael y cyfle i weld cymaint o theatr fyw ag y bo modd ac mae’n ofynnol iddynt gyfeirio at hyn yn eu hymatebion i’r testun gosod.

Safon Uwch (blwyddyn 2)

Uned 3: Testun ar Waith (asesir o flaen cynulleidfa fyw ac arholwr CBAC)
Mae’r uned hon yn cynnwys dau berfformiad ymarferol yn seiliedig ar ymateb i thema a roddir, bydd y perfformiad yn cynnwys; golygfeydd neu ddarnau o destun a roddwyd a darn a ddyfeisiwyd fel grŵp, wedi’i ddilyn gan broses a gwerthusiad ysgrifenedig.

Uned 4: Testun mewn Perfformiad (arholiad ysgrifenedig 2.5 awr)  
Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu ar eu gallu i ddadansoddi dau destun gosod o safbwynt actor, cyfarwyddwr a dylunydd cynhyrchu. Bydd gofyn iddynt hefyd gyfeirio at gynyrchiadau theatr byw maent wedi gweld yn ystod y cwrs.

Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi’r sgiliau lefel uchel sydd eu hangen i astudio Drama ac astudiaethau theatr ar lefel addysg uwch. Mae’n gweithio’n dda gyda’r rhan fwyaf o bynciau, ond yn enwedig Saesneg. Mae myfyrwyr hefyd yn defnyddio hwn fel sail gadarn i wneud cais i a mynychu clyweliadau ar gyfer ysgolion drama.

6 gradd C TGAU, gan gynnwys gradd C yn TGAU Saesneg a gradd C yn TGAU Drama.

Gellir defnyddio teilyngdod neu uwch yn BTEC Lefel 2 Celfyddydau Perfformio yn lle TGAU Drama.