Mae’r cwrs CBAC Edquas Lefel A Astudiaethau Ffilm yn cynnig cyflwyniad gwych i’r diwydiant ffilm yn yr UDA a’r DU gyda’r gwaith yn cwmpasu ffilmiau clasurol Hollywood, Hollywood newydd, ffilmiau cyfoes Americanaidd annibynnol a ffilmiau Prydeinig. Mae’r cwrs yn cwmpasu gwaith ar symudiadau ffilm, ffilmiau dogfennol, ffilm fyd-eang a ffilmiau byr. Bydd hefyd cyfle i gynhyrchu ffilm fer neu sgript ar gyfer ffilm fer neu sgript.

Mae hwn yn gymhwyster llinol ac felly mae’r holl arholiadau yn digwydd ar ddiwedd yr ail flwyddyn.

Ffilm Americanaidd a Phrydeinig (2½ awr): Bydd yr adran hon yn asesu gwybodaeth a dealltwriaeth chwe phrif ffilm.

  • Adran A: Hollywood 1930-1990 (Astudiaeth gymharol) Bydd myfyrwyr yn ffocysu ar ddwy ffilm, un o’r oes Hollywood Clasurol a’r llall o oes Hollywood cyfoes.
  • Adran B: Ffilm Americanaidd ers 2005 (Astudiaeth dwy ffilm) Bydd dwy ffilm Americanaidd yn cael eu hastudio yn yr adran yma, un yn ffilm brif ffrwd a’r llall yn ffilm annibynnol gyfoes.
  • Adran C: Ffilm Brydeinig ers 1995 (Astudiaeth dwy ffilm)

Gwneud ffilmiau (2½ awr): Mae’r adran hon yn asesu gwybodaeth a dealltwriaeth o bum brif ffilm (neu’r cyfatebol).

  • Adran A: Ffilm fyd-eang (Astudiaeth dwy ffilm) Bydd dwy ffilm fyd-eang yn cael eu hastudio, un Ewropeaidd ac un o du hwnt i Ewrop.
  • Adran B: Dadansoddi ffilm dogfen. Bydd myfyrwyr yn dadansoddi un ffilm dogfen.
  • Adran C: Symudiadau ffilm – Sinema Dawel. Bydd myfyrwyr yn dewis un ffilm tawel neu grŵp o ffilmiau byr tawel.
  • Adran D: Symudiadau ffilm – Ffilm Arbrofol (1960-2000). Bydd un ffilm arbrofol yn cael ei astudio.

Gwaith Cwrs: Cynhyrchu (asesiad heb arholiad)

Bydd yr adran hon yn asesu cynhyrchiad a’i dadansoddiad gwerthusol. Bydd myfyrwyr yn creu: naill ai ffilm fer (4-5 munud), neu sgript ar gyfer ffilm fer (1600-1800 o eiriau) a bwrdd stori sy’n defnyddio lluniau digidol o rhan allweddol o’r sgript.

Mae Astudiaethau Ffilm yn sefyll yn dda fel pwnc academaidd ar ei ben ei hun, ac mae’n cael ei gydnabod yn gynyddol fel y cyfryw yn enwedig gyda’r twf yn y diwydiant ffilm yn y DU. Mae’n cyfuno’n dda â phynciau eraill megis Saesneg, y Cyfryngau neu Ieithoedd Modern.

Mae graddedigion ffilm wedi gwneud gyrfa mewn meysydd fel cyfathrebu, hysbysebu, cyhoeddi, y diwydiant sinema, newyddiaduraeth, darlledu ac addysg. Mae Cyrsiau ôl-raddedig wedi cynnwys Ieithyddiaeth, Amlgyfryngau, Cyfathrebu a Diwylliant ac wrth gwrs, Gwneud ffilm.

6 gradd C TGAU, gan gynnwys gradd C yn TGAU Saesneg.