Os ydych yn angerddol am Theatr Gerdd, mae’r cwrs tra ymarferol hwn yn darparu’r hyfforddiant sydd ei angen arnoch yn y tair disgyblaeth: canu, dawnsio ac actio, er mwyn i chi ddatblygu’n perfformiwr Theatr Gerdd amryddawn. Efallai eich uchelgais yw bod yn berfformiwr sioe gerdd ar lwyfan, ar longau mordaith, neu ar y cyd ag eraill fel rhan o’r diwydiant adloniant. Yn ystod y cwrs, caiff myfyrwyr brofiad o berfformio amrywiaeth eang o arddulliau perfformio, a byddant yn datblygu’r sgiliau fydd eu hangen arnynt i wireddu eu breuddwydion.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn gyrfa mewn Theatr Gerdd, ac os hoffech ennill cymhwyster cyfwerth â Lefel A sy’n cynnig hyfforddiant ym mhob agwedd o Theatr Gerdd, dyma yw’r cwrs i chi. Mae’n darparu sylfaen gref i chi fedru symud ymlaen naill ai i ysgolion Drama neu Addysg Uwch, dilyn gyrfa yn y celfyddydau perfformio, neu weithio yn niwydiant adloniant, hamdden neu gyfathrebu.

Strwythur y Cwrs

Blwyddyn 1

A, Datblygu Sgiliau’r Celfyddydau Perfformio

A1 Archwilio Arddulliau PerfformioYn yr uned hon, byddwch yn astudio’r gwahanol arddulliau canu mewn theatr gerdd, gan gynnwys astudiaeth o repertoire sy’n wirioneddol a chyfoes. Byddwch yn mynd i’r afael â chanu solo a chanu mewn ensemble, yn ogystal â sgiliau darllen ar yr olwg gyntaf. Byddwch yn derbyn hyfforddiant dawnsio, gan fynd i’r afael â repertoire proffesiynol a datblygu sgiliau sylfaenol ar draws ystod o arddulliau gwahanol megis jas, bale, a dawns gyfoes. Byddwch yn datblygu’ch sgiliau actio ymhellach drwy waith sgriptio ac addasu ar y pryd gan astudio gwaith ymarferwyr amrywiol. Ar ddiwedd yr uned, bydd dau gyfle gennych i berfformio o flaen cynulleidfa.

A2 Creu Deunydd Perfformio

Yn ystod yr uned hon, byddwch yn cael cyfle i addasu ar y pryd a dyfeisio sioe gerdd eich hun. Gallwch ysgrifennu’r sgript, ysgrifennu’r caneuon, coreograffi neu gyfarwyddo’r sioe – mae yna lu o bosibiliadau! Byddwch yn gweithio fel rhan o grŵp er mwyn creu sioe gerdd sy’n cwmpasu’r ystod o arddulliau a sgiliau yr ydych wedi eu datblygu fel grŵp. Mae’r uned hon yn helpu chi ddeall fel perfformiwr sut i greu gwaith eich hun, a gwella’ch rhagolygon yn ôl safonau’r diwydiant proffesiynol.  

A3 Perfformio ar gyfer cynulleidfaMae hon yn uned gyffrous, lle bydd gennych gyfle i gael clyweliad am rôl mewn sioe gerdd gyflawn. Byddwch yn cael cyfnod o 6-8 wythnos i ymarfer, ac yna, byddwch yn perfformio o flaen cynulleidfa.  Mae’r cyfle hwn yn darparu profiad go iawn o weithio mewn cynhyrchiad theatr gerdd.

F Y Diwydiant Celfyddydau Perfformio

F16 Cynllunio Gyrfa yn y DiwydiantYn yr uned hon, byddwch yn dysgu am y diwydiant perfformio, a sut i gael eich cyflogi fel perfformiwr theatr gerdd. Bydd cyfle gennych i gael eich llun wedi tynnu (saethiad pen ac ysgwyddau) ac i ysgrifennu CV ar gyfer y dyfodol. Byddwch yn dysgu popeth am gastio a ble i ymgeisio am waith. Hefyd, byddwch yn datblygu’ch dealltwriaeth o ysgolion drama a mynediad at Addysg Uwch.

Blwyddyn 2

G Proffil Personol Celfyddydau PerfformioMae’r uned hon yn paratoi dysgwyr ar gyfer dilyniant, trwy ddatblygu’u dealltwriaeth o gyfleoedd yn y dyfodol, cynllunio dilyniant, a gweithio’n annibynnol. Mae’r rhain yn sgiliau hollbwysig ar gyfer Addysg Uwch a chyflogaeth yn y sector.

G17 Defnyddio Cynlluniau Datblygu i Goethi SgiliauMae yna ddigon o gyfleoedd yn yr uned hon i chi fyfyrio ar eich sgiliau a gweithio ar y cyd gyda’ch tiwtoriaid i barhau â’ch dilyniant ac i herio’ch hunain ymhellach.

G18 Cynhyrchu Prosiect Personol

Mae’r uned hon yn rhoi cyfle i chi ddyfeisio, datblygu, a chynhyrchu prosiect eich hun, sy’n arddangos eich sgiliau technegol a dehongli.

G19 Defnyddio Deunydd ar gyfer Hunan-hyrwyddo a RhyngweithioMae’r uned hon yn eich galluogi i greu a chyflwyno deunydd ar gyfer hunan-hyrwyddo a fyddai’n helpu chi yn y diwydiant proffesiynol. Bydd angen cynnwys y deunydd hefyd fel rhan o’r broses ymgeisio ar gyfer ysgol ddrama neu brifysgol.

H Prosiect Celfyddydau Perfformio CydweithredolBydd dysgwyr yn gallu ymgymryd â phrosiect ar raddfa fawr mewn cydweithrediad â’u cyfoedion. Gall y prosiect gael ei addasu ar gyfer gwahanol arbenigedd, diddordeb, neu gymuned leol, ac sy’n gallu gweithredu fel arddangosfa derfynol.

H20 Ymgymryd â Rôl Greadigol neu WeinyddolBydd yr uned hon yn eich galluogi i archwilio’r Celfyddydau Perfformio o safbwynt gwahanol, ac i ddysgu am gynllunio a pharatoi ar gyfer rôl greadigol neu weinyddol. Byddwch yn cyfrannu at y prosiect gan ddefnyddio’r sgiliau a ddysgoch yn ystod y broses.

H21 Defnyddio Cydweithrediad Creadigol i Ddatblygu Prosiect

Ar gyfer yr uned hon, byddwch yn arddangos ymgysylltiad personol a chyfrifoldeb unigol wrth ddatblygu prosiect cydweithredol. Bydd gennych gyfle i arddangos eich sgiliau perfformio, ac i gymhwyso’ch sgiliau cydweithrediad i greu’r prosiect.

H22 Cynhyrchu’r Prosiect CydweithredolAr gyfer yr uned hon, byddwch yn arddangos sgiliau perfformio technegol ym mhrosiect ar y cyd terfynol sy’n cael ei gyflwyno mewn perfformiad byw. 

 

Fel arfer, symudir myfyrwyr sy’n astudio Celfyddydau Perfformio ymlaen i weithio yn y sector Theatr Gerdd neu i astudio cyrsiau Drama/Actio.

5 gradd C TGAU, neu gymwysterau galwedigaethol cyfatebol, gan gynnwys gradd C yn TGAU Saesneg, a gradd C yn TGAU Drama neu Gerddoriaeth, os ydynt yn cael eu hastudio.

Bydd angen i ddysgwyr lwyddo clyweliad o flaen y tîm addysgu celfyddydau perfformio.

Gellir defnyddio gradd C mewn pwnc disgyrsiol megis Hanes, Astudiaethau Crefyddol neu Lenyddiaeth Saesneg yn lle Saesneg.