
Mae cyn-fyfyriwr o Goleg Dewi Sant, Nathan, wedi rhannu ei siwrnai gyffrous o Lefel-A, drwy ddewisiadau prifysgol, i yrfa gwerth chweil yn y diwydiant ynni ymasiad. Wrth adlewyrchu ar ei amser yn y coleg, y brifysgol a thu hwnt, mae e’n cynnig cipolwg i’r dyfodol i’n myfyrwyr presennol sy’n paratoi at fywyd ar ôl Dewi Sant.
Wedi ymuno â Dewi Sant yn y chweched isaf, astudiodd Nathan Lefelau-A mewn Bioleg, Cemeg, Mathemateg, Maths Pellach, a’r Fagloriaeth Gymreig. Gan fod trafod nifer o bynciau’n gofyn am sgiliau rheoli amser cryf, mae e’n ddiolchgar am gynlluniau strwythuredig y coleg, a’i athrawon cefnogol wnaeth ei helpu i lwyddo.
“Anogodd Dewi Sant i fi ddysgu’n annibynnol a chymryd cyfrifoldeb am fy astudiaethau. Roedd hyn yn newid mawr o ‘mhrofiad yn yr ysgol gyfun, ond roedd yn baratoad ardderchog ar gyfer prifysgol.”
Fel llawer o fyfyrwyr, ffeindiodd Nathan bod dewis prifysgolion a phenderfynu ar lwybr gyrfa’n broses anodd. Pan oedd yn teimlo dan bwysau gormod o ddewisiadau, trodd at ei athrawon a staff gyrfaoedd y coleg am arweiniad.
“Ron i’n ofni dewis y llwybr gyrfa anghywir, ond sylweddolais ei fod yn normal i fod yn ansicr. Roedd yn help i siarad ag athrawon a chynghorwyr, a baswn i’n annog unrhywun sy’n cael hi’n anodd i wneud penderfyniadau i wneud yr un peth.”
Ffactor fawr arall oedd lleoliad. Teimlodd dyniad rhwng aros yng Nghymru i fod yn agos at ei deulu, neu fentro ymhellach i ffwrdd, a ffeindiodd e bod siarad â chyfoedion yn y coleg yn arbennig o ddefnyddiol wrth bwyso a mesur dewisiadau. Mae dewis prifysgol yn benderfyniad mawr, ac roedd siarad ag eraill yn help iddo gael syniad cliriach ble hoffai fe fynd.
Wedi gadael Dewi Sant, astudiodd Nathan Beirianneg Cemeg ym Mhrifysgol Caerfaddon, yn cynnwys lleoliad gwaith blwyddyn o hyd yn Hinkley Point C. Roedd y profiad yn werthfawr iawn, ac mae e’n argymell Caerfaddon fel lle gwych i astudio, yn enwedig i’r rhai a hoffai aros o fewn cyrraedd i’w cartref.
Yn dilyn ei raddio, symudodd Nathan i Rydychen ac ymuno â chynllun graddedigion dwy-flynedd Awdurdod Ynni Atomig y DU. Mae’n gweithio bellach fel Peiriannydd Proses ac yn disgrifio ei rôl fel un heriol ond llawn boddhad. Darparodd ei leoliad drwy Brifysgol Caerfaddon brofiad go-iawn iddo o waith mewn diwydiant, a helpodd hynny iddo’i bontio’n rhwydd mewn i’w yrfa.
Cyngor Nathan ar gyfer y sawl sy’n paratoi i adael y coleg, p’un ai i fynd yn syth i’r brifysgol neu mewn i’r gweithle, yw i ymrwymo’n llwyr at ba bynnag lwybr maen nhw yn ei ddewis.
“Bydd bob amser cyfle i newid cyfeiriad os oes angen i chi wneud. Byddwch chi’n synnu pa mor gyflym gallwch chi addasu i sefyllfa newydd os oes raid.”
Mae siwrnai Nathan yn destament i’r seiliau cryf a osodwyd yng Ngholeg Dewi Sant, a’i stori’n ysbrydoliaeth i fyfyrwyr presennol a gorffennol sy’n edrych am eu llwybr nhw tu hwnt i’r coleg.