Trosolwg Cymraeg Lefel A

Mae Lefel A Cymraeg yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fynegi eu hunain yn y Gymraeg, ar ffurf ysgrifenedig a llafar. Bydd cyfle hefyd i ysgrifennu’n greadigol, darllen yn annibynnol, ymateb i wahanol destunau a gwerthfawrogi ffurfiau llenyddol.

Bydd cyfle i fyfyrwyr ymarfer siarad Cymraeg gyda’r athro dosbarth, a myfyrwyr Cymraeg eraill. Efallai y bydd cyfleoedd i ymweld â Nant Gwrtheyrn, y Ganolfan Iaith Genedlaethol yng Ngogledd Cymru ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, e.e., eisteddfodau.

Mae bron i 30% o boblogaeth Cymru yn defnyddio’r Gymraeg. Mae pobl yn ei defnyddio fel iaith fyw fodern bob dydd mewn llawer o alwedigaethau, gan gynnwys busnes, llywodraeth leol, y cyfryngau, twristiaeth, newyddiaduraeth, marchnata a gwleidyddiaeth.

Lefel UG (blwyddyn 1)

Uned 1: Ffilm a Llefaredd (arholiad llafar grŵp 35 munud)
Bydd yr ymgeiswyr yn cael eu holi ar y canlynol:

– y ffilm Patagonia
– y pecyn wnaethant greu fel gwaith cwrs yn uned 2

Uned 2: Gwaith cwrs ysgrifenedig
Gofynnir i’r disgyblion llunio pecyn rhwng 1,500 a 2,000 o eiriau gydag o leiaf tri darn ar ffurfiau gwahanol.

Uned 3: Defnyddio’r Iaith, a Barddoniaeth (arholiad ysgrifenedig 2 awr)

Adran A: Cwestiwn cyfansawdd yn cynnwys gwahanol fathau o ymarferion ieithyddol.

Adran B: Tri chwestiwn wedi’u strwythuro ar y testunau gosod.

Safon Uwch (blwyddyn 2)

Uned 4: Drama a Llafaredd (arholiad llafar, 30 munud)
Caiff yr ymgeiswyr eu holi mewn grwpiau ar y canlynol:

– Byw yn Gymraeg
– y ddrama Crash.
– themâu penodol sy’n nodwedd gyson yn y testunau amrywiol a astudiwyd yn ystod y cwrs (Asesiad Synoptig)

Uned 5: Y Gymraeg yn y Gymdeithas a Thrawsieithu (arholiad 2 awr)

Adran A: Y Gymraeg yn y gymdeithas
Cwestiynau cyfansawdd ynglŷn â’r Gymraeg yn y gymdeithas.

Adran B: Trawsieithu
Ymateb yn ysgrifenedig yn Gymraeg i erthygl Saesneg.

Uned 6: Defnyddio Iaith a Stori Fer (arholiad 2 awr)

Adran A: Defnyddio Iaith
Cwestiwn cyfansawdd yn cynnwys gwahanol fathau o ymarferion ieithyddol.

Adran B: Stori Fer
Disgwylir i fyfyrwyr dadansoddi’n feirniadol ac ymateb yn bersonol i gynnwys un o’r testunau gosod, gan ddefnyddio terminoleg briodol.

Mae Cymraeg yn cael ei siarad gan bron i 30% o boblogaeth Cymru. Mae’n iaith byw fodern sy’n cael ei ddefnyddio bob dydd mewn nifer o alwedigaethau, gan gynnwys busnes, llywodraeth leol, y cyfryngau, twristiaeth, newyddiaduraeth, marchnata a gwleidyddiaeth.

6 gradd C TGAU, gan gynnwys gradd B yn TGAU Cymraeg Ail Iaith (haen uwch ym mhob uned).