Cynllun Strategol 2021-2025
Mae Cynllun Strategol 2021-2025 Coleg Chweched Dosbarth Dewi Sant, sef ‘Y Ffordd, y Gwirionedd, a’r Bywyd’, yn amlinellu gweledigaeth y Coleg a’i amcanion allweddol hyd at 2025.
Polisi Ffitrwydd i Astudio
Mae’r coleg yn disgwyl i’r holl ddysgwyr gynnal y disgwyliadau craidd, i’n galluogi i greu amgylchedd dysgu sy’n ddiogel i bawb. Lle bydd ymddygiad yn gostwng o dan y disgwyliadau craidd fel y’i gosodir yn ein siarter, bydd y coleg yn gweithredu ei weithdrefn “Ffitrwydd i Astudio”.
Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliol
Rydym am fod yn goleg sy’n ddiogel, yn deg ac yn groesawgar; Coleg lle mae gan bob dysgwr yr un gofal, cefnogaeth ac arweiniad o ansawdd uchel, waeth beth fo’u hethnigrwydd neu gefndir diwylliannol. Rydym eisiau coleg gwrth-hiliol.
Polisi Camddefnyddio Sylweddau
Mae’r polisi hwn yn dangos agwedd y coleg at gamddefnyddio sylweddau, gan hyrwyddo iechyd, diogelwch a lles yr holl ddysgwyr. Mae’n amlinellu disgwyliadau o ran ymddygiad, yn darparu arweiniad ar gefnogaeth ac ymyrraeth, ac yn adlewyrchu ymrwymiad y coleg at greu amgylchedd dysgu diogel, parchus a chynhwysol.
Cynllun Cydraddoldeb Strategol Coleg Dewi Sant 2022-2026
Mae Coleg Chweched Dosbarth Catholig Dewi Sant yn falch o gyhoeddi’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn sy’n cwmpasu’r cyfnod 2022 i 2026, yn unol â gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r Cynllun hwn yn amlinellu ein hamcanion cydraddoldeb allweddol er mwyn sicrhau cydraddoldeb i bawb.
Polisi Arholiadau
Mae’r coleg wedi ymrwymo i sicrhau bod pob arholiad ac asesiad yn cael ei gynnal yn deg, yn dryloyw, ac yn unol â’r rheoliadau perthnasol priodol.
Polisi Deallusrwydd Artiffisial (AI)
Mae’r polisi hwn yn nodi’r egwyddorion a’r gweithdrefnau ar gyfer defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn gyfrifol ar draws y sefydliad, gan gwmpasu addysgu a dysgu a gwasanaethau proffesiynol.
Polisi Derbyn a Dilyniant
Mae Datganiad Cenhadaeth y Coleg yn amlinellu blaenoriaethau derbyn y Coleg:
“Coleg Catholig ar gyfer y gymuned, sy’n ceisio darganfod a gwireddu potensial llawn pawb mewn awyrgylch o gariad, gwasanaeth a pharch a symbylwyd gan Grist”.
Polisi Dysgwyr ac Ymgeiswyr Gydag Euogfarnau Troseddol
Mae’r polisi hwn yn ceisio sicrhau bod ymgeiswyr a dysgwyr sydd ag euogfarnau troseddol heb eu disbyddu yn cael pob cyfle i ddilyn cwrs priodol yng Ngholeg Dewi Sant, ar yr amod y gall y Coleg gynnal ei ddyletswydd i ddarparu amgylchedd diogel i holl aelodau ei gymuned.
Polisi Gofalwyr Ifanc
Yng Ngholeg Catholig Dewi Sant, credwn fod gan bob un o’n dysgwyr yr hawl i addysg, waeth beth sy’n digwydd gartref.
Polisi Cwynion, Pryderon a Chanmoliaeth
Mae Coleg Catholig Dewi Sant yn ymrwymedig i ddarparu addysg o’r ansawdd orau i’n holl ddysgwyr. Credwn ein bod yn darparu addysg ragorol i bob un o’n dysgwyr, ac mae’r staff yn gweithio’n galed i sefydlu perthnasau cadarnhaol gyda’n dysgwyr, rhieni, a rhanddeiliaid eraill. Serch hynny, mae’r Coleg yn ymroddedig i roi gweithdrefnau ar waith rhag ofn y derbynnir unrhyw gŵyn sy’n ymwneud ag ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gennym. Mae’n bwysig, felly, bod pryderon yn cael eu codi cyn gynted â phosib er mwyn i ni fedru ymdrin â nhw mewn modd amserol.
Polisi TG - Systemau Defnyddwyr
Mae argaeledd cyfleusterau TG i bob aelod o’r Coleg yn ganolog i weithrediad priodol y Coleg. Ystyrir unrhyw gamddefnydd ohonynt fel mater difrifol iawn. Dilynir tystiolaeth o gamddefnydd parhaus dan reolau disgyblaethol. Gall tystiolaeth o ladrata neu ddifrod maleisus arwain at achos cyfreithiol.
Polisi Iaith Gymraeg
Nod y polisi yw sicrhau bod Safonau’r Gymraeg yn cael eu cymhwyso’n llawn yn y coleg a hwyluso gwasanaethau dwyieithog i’r cyhoedd yng Ngholeg Catholig Dewi Sant, boed hynny ar gyfer dysgwyr, staff, neu aelodau’r cyhoedd, a hybu ethos dwyieithog.
Polisi Iechyd a Diogelwch
Mae’r polisi hwn yn cynrychioli polisi iechyd a diogelwch y Coleg, ac felly, mae’n disodli pob fersiwn flaenorol ohono. Mae Corff Llywodraethu Coleg Dewi Sant yn cydnabod bod rhaid i iechyd a diogelwch gael eu rheoli’n llwyddiannus ar bob lefel.
Polisi Cyfraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae’r Coleg yn credu bod gan bob person urddas sylfaenol, sy’n dod oddi wrth Dduw; nid o unrhyw ansawdd neu gyflawniad dynol; nid o hil na rhyw nag oedran na statws economaidd.
Polisi Diogelu ac Amddiffyn Plant
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn ymwneud ag amddiffyn pobl ifanc ac oedolion rhag cam-drin neu esgeulustod ac addysgu’r rhai o’u cwmpas i adnabod yr arwyddion a’r peryglon. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) wedi cyflwyno dull partneriaeth cryfach, cadarn ac effeithiol o ddiogelu. Un o egwyddorion pwysicaf y Ddeddf hon yw bod Diogelu yn gyfrifoldeb pawb.
Polisi Efrydiaeth
Mae’r polisi hwn yn ymwneud ag efrydiaeth, sy’n cynnwys monitro presenoldeb, prydlondeb, ymddygiad, a chwblhad aseiniadau pob myfyriwr. Yn bennaf, noda’r Polisi Efrydiaeth hwn y broses a dilynir mewn achos pan fydd myfyriwr yn mynd yn groes i’n disgwyliadau o’r hyn sy’n cyfrif fel efrydiaeth dda.
Polisi Presenoldeb Dysgwyr
Mae’r polisi hwn wedi’i ddatblygu fel rhan o ymrwymiad Coleg Dewi Sant i wireddu potensial pawb yn ein cymuned, fel y’i cwmpaswyd yn ein cenhadaeth: ‘Coleg Catholig i’r gymuned, sy’n ceisio darganfod a gwireddu potensial llawn pawb mewn awyrgylch o gariad, gwasanaeth a pharch a ysbrydolwyd gan Grist.’
Polisi Urddas Dysgwr
Mae’r polisi hwn yn ceisio cefnogi dysgwyr i gyflawni eu potensial llawn trwy annog eu cyfranogiad llawn ym mywyd y coleg fel y gallant wneud cynnydd llwyddiannus yn eu bywydau, yn academaidd ac yn ysbrydol.
Polisi Cefnogi Ysgoloriaeth
Mae’r canlynol yn cynnwys y polisi traws-golegol sy’n ymwneud ag ysgoloriaeth gan gynnwys presenoldeb dysgwyr, prydlondeb, ymddygiad, cwblhau aseiniadau. Mae’r Polisi Ysgoloriaeth yn manylu ar y broses a ddilynwyd os bydd disgwyliadau’r coleg o ran ysgoloriaeth dda yn cael eu torri.
Datganiadau Ariannol 2020-21
Adroddiad a’r Datganiadau Ariannol am y flwyddyn yn gorffen 31 Gorffennaf 2021
Adroddiad Cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg 2023-24
Dyma adroddiad blynyddol 2023-24 Coleg Chweched Dosbarth Dewi Sant, sy’n manylu ar ei gydymffurfiad â’r Safonau Iaith Gymraeg.
Hysbysiad Cydymffurfio – Adran 44 Mesur Y Gymraeg (CYMRU) 2011
Hysbysiad Cydymffurfio – Adran 44 Mesur Y Gymraeg (CYMRU) 2011
Coleg Catholig Dewi Sant- – Dyddiad Dyroddi: 31/03/2021
Polisi Defnydd Mewnol Or Gymraeg
Mae’n ofynnol i ni weithredu polisi ar ddefnyddio’r Gymraeg i gyfathrebu o fewn y coleg.
Polisi Arian Wrth Gefn a Grant Myfyrwyr
Wedi’i Lywio gan Drawma - Datganiad o Ymrwymiad y Coleg
Yng Ngholeg Dewi Sant, rydym wedi ymrwymo’n angerddol i greu amgylchedd wedi’i lywio gan drawma sy’n hyrwyddo urddas, iachâd, gwytnwch a thwf i bob aelod o’n cymuned.
Gwybodaeth Cydraddoldeb Staff a Dysgwyr
Hysbysiad Preifatrwydd Myfyriwr
Er mwyn cwrdd â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), rhaid i ysgolion a cholegau gyhoeddi Hysbysiad Preifatrwydd i fyfyrwyr / rhieni a gwarcheidwaid cyfreithiol sy’n crynhoi’r wybodaeth a ddelir mewn cofnodion am blant a phobl ifanc, pam y caiff ei ddal, a’r trydydd parti y gellid ei phasio atynt.
Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd
Er mwyn cwrdd â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data (GDPR), rhaid i ysgolion a cholegau ddarparu Hysbysiad Preifatrwydd i ymgeiswyr/rhieni a gwarcheidwaid cyfreithiol sy’n crynhoi’r wybodaeth a ddelir ar gofnod am blant a phobl ifanc, pam y’i cedwir, a’r trydydd parti y gall gael ei rannu â nhw.
Polisi Diogelu Data
Pwrpas y Polisi Diogelu Data hwn yw sefydlu ymrwymiad Coleg Catholig Dewi Sant o ran diogelu data personol. Mae’n bodoli i sicrhau bod y coleg yn cwrdd â’i rhwymedigaethau cyfreithiol, rheoliadol a moesegol wrth brosesu data personol ac i gefnogi datblygiad diwylliant o ddiogelu data sy’n gwerthfawrogi preifatrwydd, atebolrwydd a thryloywder.
Amserlen Cadw Cofnodion
Nod yr Amserlen Cadw Cofnodion yw amlinellu’r cofnodion a all gael eu cadw gan Goleg Catholig Dewi Sant, hyd y cyfnod y cânt eu cadw a’r cyfiawnhad am waredu arnynt.