Gan Newyddiadurwyr Myfyrwyr, Ava Mclellan-Morgan a Ffion Foster
Mae gan lawer o bobl y camargraff bod Dydd y Cofio yn ymwneud yn unig â’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae Dydd y Cofio yn cydnabod y Rhyfel Byd Cyntaf, yr Ail Ryfel Byd a phawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd ers hynny.
Dechreuodd y 11eg o Dachwedd fel diwrnod coffa i’r rhai a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf, y mae’r amcangyfrif o’r nifer yn tua 16.5 miliwn. Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn wrthdaro rhwng pwerau mawr gan gynnwys Ffrainc, Rwsia, Ymerodraeth Prydain, yr Unol Daleithiau, yr Almaen, a llawer mwy o ddioddefwyr a chyflawnwyr rhyfel.
Wynebodd cymdeithas ymdrechion annirnadwy yn ystod y cyfnod hwn, ac mae’n rhaid cydnabod eu haberthau. Cafodd dynion eu galw i ryfel ac eu gorfodi i amddiffyn eu cenedl ar y rheng flaen a oedd wedi’i hamgylchynu gan waed a chreulondeb. Collodd pobl eu meibion, eu ffrindiau, eu brodyr, eu tadau, eu tadau mawr, a’r aelodau o’u cenedl. Roedd hi’n anodd credu bod gwleidyddiaeth wedi cyrraedd y pwynt hwn o eithafiaeth gyda chanlyniadau mor erchyll; fe’i hadnabyddwyd fel ‘Y Rhyfel Mawr’ gan nad oedd pobl yn gallu dychmygu gwrthdaro arall yn fwy na hwn. Prawfwyd fel arall gyda dechrau’r Ail Ryfel Byd ar y 1af o Fedi 1939. Gwnaeth y rhyfel hwn weld yr Almaen Natsïaidd yn cipio Ewrop gyda syched am bŵer, tir, a’r ymgais i orfodi ‘hil feistr’.
Mae’n dasg anodd iawn ceisio rhoi crynodeb byr o fanylion y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd. Mae rhyfel y tu hwnt i ddeall trwy ysgrifennu. Maent yn cynnwys emosiwn, rhesymeg, canlyniadau, safbwyntiau, marwolaethau, a pherthnasoedd rhyngwladol sydd wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn hanes ein byd. Fodd bynnag, rhaid i ni ymdrechu i gael persbectif cyffredinol ar bob gwrthdaro a chydnabod yr aberthau sydd ynghlwm â hwy.
Nid yw’r Rhyfeloedd Byd wedi cael eu gweld yn ystod ein cenhedlaeth. Gall hyn arwain at bobl yn ddiystyru eu harwyddocâd, sy’n pam mae Dydd y Cofio mor bwysig. Yn yr un modd, mae’n hanfodol cydnabod rhyfeloedd mwy cyfredol, gan gynnwys y rhyfeloedd sy’n cynnwys Rwsia, Wcráin, Iran, Israel, Palesteina, a llawer mwy o wledydd. Mae’r gwrthdaro sydd yn y Dwyrain Canol yn fwy amlwg i ni heddiw, ac mae’n rhaid i ni barhau i addysgu ein hunain a chydnabod y trychinebau sy’n digwydd y tu allan i’n gwlad. Maen nhw’n digwydd nawr, ac nawr yw’r amser i ymateb. Felly, beth allwch chi ei wneud i gydnabod Dydd y Cofio?
Mae myfyrio ar y digwyddiad hanesyddol hwn yn ddi-os yn bwysig, ond sut ydych chi’n gwneud hyn? Efallai y gwelwch o’ch cwmpas ar yr adeg hon bobl yn gwisgo pabi, weithiau wedi’i wneud o wahanol ddeunyddiau fel ffabrig neu emwaith fel symbol o barch i’r rhai a wasanaethodd yn y lluoedd arfog. Nid oes ffordd benodol o’u gwisgo, er bod rhai’n dewis eu gwisgo ar ochr chwith eu brest, yn agos at y galon. Mae’r blodyn hwn hefyd yn cael ei wisgo’n aml mewn seremonïau neu orymdeithiau coffa i anrhydeddu aberthau’r rhai a frwydrodd yn y rhyfel. Mae pabi’n dal i dyfu ar hen faes y gad lle claddwyd llawer o’r milwyr, ac fe’i cyfeirir atynt mewn cerdd enwog ‘In Flanders Fields’ gan John McCrae. Cynhelir dwy funud o dawelwch ar Dachwedd 11eg am 11am, i fyfyrio ar yr aberthau hyn a wnaed gan filwyr. Mae’n foment ddifrifol sy’n annog pobl i feddwl am heddwch a phwysigrwydd cofio hanes.
Anogir darllen pellach os hoffech chi addysgu eich hun yn fwy am hyn, ac mae rhai llyfrau posibl y gallech chi eu harchwilio sy’n trafod hanes ac arwyddocâd y diwrnod hwn yn cynnwys ‘The Great War and Modern Memory’ gan Paul Fussell, sy’n trafod yr hyn a brofwyd ar y cyd yn y rhyfel, neu ‘The Beauty and the Sorrow’ gan Peter England sy’n cynnig safbwynt manwl ar effaith rhyfel ar unigolion a chymdeithas.