Mae’n rhaid i chi fod rhwng 16-19 mlwydd oed i ymgeisio i Goleg Dewi Sant. Yn ogystal, fydd rhaid i chi gwrdd â’r meini prawf canlynol:

O leiaf chwech TGAU/TGAUR gradd C neu uwch i astudio tair lefel UG

NEU

O leiaf chwech TGAU gradd B neu uwch i astudio pedair lefel UG

Os nad ydy eich gwlad yn cynnig TGAU neu TGAUR, bydd angen i chi ddarparu eich adroddiadau blynyddol ar gyfer eich holl bynciau.

Os ydych yn cwrdd â’r meini prawf uchod, ac yn dymuno ymgeisio i Goleg Dewi Sant, dilynwch y camau isod os gwelwch yn dda: 

  1. Lawr lwythwch ein ffurflen gais a’i ddanfon ar e-bost, gyda’r dogfennau isod, i internationalstudents@colegdewisant.ac.uk
    1. Sgan o’ch pasbort a/neu wybodaeth am fisa
    2. Llythyr o ganiatâd gan riant neu warchodwr swyddogol os ydych chi o dan 18 oed
  2. Rhaid i chi brofi eich gwybodaeth am yr iaith Saesneg pan fyddwch yn ymgeisio.
  3. Gallwch brofi eich gwybodaeth o’r Saesneg drwy basio Prawf Saesneg Diogel (SELT) gan ddarparwr cymeradwy
  4. Os ydych yn ateb gofynion y cyrsiau rydych chi wedi eu dewis, byddwn yn rhoi llythyr cynnig amodol i chi.
  5. Ar ôl derbyn y llythyr cynnig bydd angen i chi fodloni’r amodau y sonnir amdanynt a thalu ffi’r cwrs.
  6. Ar ôl i chi gyfarfod yr holl amodau, byddwch yn cael cynnig diamod. Yna bydd angen i chi wneud cais am fisa Visa & Immigration yn y DU.

Nodwch y gall y broses o gael fisa gymryd sawl mis felly gwnewch gais yn gynnar er mwyn osgoi unrhyw oedi i ddechrau eich addysg.

Cyn bod cadarnhad o dderbyn ar gyfer astudiaethau (CDA) yn cael ei gyhoeddi gan y Coleg, mae’r ddogfennaeth isod yn angenrheidiol:

  • Ffurflen gais wedi’i llenwi â datganiad personol a ystyrir yn ofalus lle mae’r myfyriwr yn nodi ei resymau dros fynychu’r DU i astudio
  • Copi o basbort y myfyriwr yn cadarnhau cenedligrwydd ac oedran
  • Cymwysterau sy’n cyfateb â’r gofynion mynediad i fyfyrwyr y DU ar gyfer mynediad i astudiaeth lefel 3 NQF. Cynigir astudiaeth Lefel 3 gan y coleg fel Lefel A
  • Cymwysterau sy’n dangos bod astudio yn y coleg yn ddilyniant o’u haddysg flaenorol
  • Cyflwyno adroddiad academaidd neu gyfeiriadau o’u hysgol flaenorol yn dangos dawn i’w hastudio
  • Rhaid i chi brofi y gallwch ddarllen, ysgrifennu, siarad a deall Saesneg i lefel CERF B1 o leiaf
  • Bydd angen i chi ddangos bod gennych ddigon o arian i gefnogi eich hun. Bydd angen £1023 y mis arnoch (am hyd at 9 mis) ynghyd â ffi dysgu. Mae’n rhaid i chi gael yr arian yma am o leiaf 28 diwrnod yn olynol. Rhaid i ddyddiad gorffen y cyfnod 28 diwrnod fod o fewn 31 diwrnod i’r dyddiad y byddwch yn gwneud cais am eich fisa.
  • Bydd angen i chi hefyd ddarparu copi o’ch tystysgrif geni (neu ddogfen arall a gyhoeddwyd gan y llywodraeth) sy’n dangos enwau eich rhieni.
  • Talu ffioedd dysgu
  • Cytundeb rhiant / gwarcheidwad wedi’i lofnodi y ddau riant i roi caniatâd i deithio, derbyn a gofal os yw’r myfyriwr o dan 18 oed

 

Os ydych chi o dan 18 oed bydd angen caniatâd ysgrifenedig arnoch gan y ddau riant neu warcheidwaid cyfreithiol (neu un rhiant os oes ganddyn nhw unig gyfrifoldeb).

Rhaid i hyn gynnwys eu caniatâd ar gyfer:

  • Eich cais am fisa
  • Eich trefniadau byw a gofal yn y DU
  • Eich teithio i’r DU