Am restr lawn o’r cyrsiau sydd ar gael, ewch i’r adran cyrsiau o’r wefan.

Cefnogaeth Academaidd a Bugeiliol

Gallwch fod yn sicr y byddwn yn cynnig profiad addysgol rhagorol i chi ac yn eich trin fel unigolyn. Mae gennym staff addysgu ymroddedig a phroffesiynol gyda staff cymorth rhagorol. Bydd pob myfyriwr yn cyfarfod gyda’i Hyfforddwr Dysgwr ddwywaith yr wythnos i adolygu eu cynnydd ac i ddilyn ein rhaglen fugeiliol ar Les. Rydym yn annog ein myfyrwyr rhyngwladol i integreiddio eu hunain o fewn y coleg cyfan, fodd bynnag, mae’r swyddfa ryngwladol ar gael ar gyfer arweiniad a chymorth y tu allan i amser gwersi.

Ymgeisio i'r Brifysgol ac Addysg Uwch

Bydd mynychu coleg yn y DU ac yna llwyddo ar Safon Uwch yn cynorthwyo eich cais yn fawr at brifysgol ym Mhrydain. Bydd rhaglen fugeiliol y coleg yn helpu myfyrwyr rhyngwladol i ymgeisio i’r brifysgol drwy ddarparu tystlythyrau a chefnogaeth academaidd wrth ysgrifennu eich datganiad personol.

Mae gan Goleg Dewi Sant hefyd Adran Gyrchfannau ymrwymedig, sy’n cynnig cefnogaeth, gweithdai, a chyngor gyda’ch ceisiadau i’r brifysgol.

Mae Caerdydd yn lleoliad gwych i astudio yn y brifysgol gyda phedwar sefydliadau AU.

 System Addysg yn y DU

Addysg Bellach

Lefel 3: Lefel A (UG ac U) / BTEC

Addysg Uwch

Lefel 4: Diploma / Tystysgrif Addysg Uwch

Lefel 5: Gradd Sylfaen Brifysgol

Lefel 6: Gradd Baglor

Lefel 7: Gradd Feistr / Tystysgrif ôl-raddedig / Diploma ôl-raddedig

Bagloriaeth Cymru

Yn ogystal ag ymgymryd â rhaglen o gyrsiau Lefel A, mae pob myfyriwr yng Ngholeg Dewi Sant yn astudio’r cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Mae’r cymhwyster werth gradd A ychwanegol ac yn gallu cyfrannu at ennill lle yn y brifysgol.