Coleg Catholig i’r gymuned sy’n ceisio darganfod a gwireddu potensial llawn pawb, mewn awyrgylch o gariad, gwasanaeth a pharch wedi ei ysbrydoli gan Grist.

Mae Tyddewi yn mwynhau safle unigryw yn nhermau addysgol gan mai dyma’r unig goleg chweched dosbarth Catholig yng Nghymru. Fe’i sefydlwyd gan Archesgobaeth Caerdydd i fod yn fan lle mae ffydd yn cael ei barchu a’i hannog, man hynod ddynol lle mae pobl yn dod o hyd i ddealltwriaeth a chyfeillgarwch.

Er bod blaenoriaeth derbyn yn cael ei roi i fyfyrwyr o’n pum ysgol partner Catholig, rydym yn croesawu myfyrwyr o grefyddau a chefndiroedd eraill. Pwy bynnag ydych chi, a beth bynnag yw hynny sy’n eich gwneud chi’n unigryw yng ngolwg Duw, byddwn ni’n gwerthfawrogi’r unigrywrwydd hwnnw yn Nhyddewi.

Rydym yn falch iawn o’n henw da am ragoriaeth academaidd, yn 2019 cafodd 28.3% o fyfyrwyr radd ‘A*’ neu ‘A’ ar lefel A a aeth 405 o fyfyrwyr ymlaen i’r Brifysgol – ac aeth 40% ohonynt i Brifysgolion Grŵp Russell. (Roedd ffigyrau 2020 a 2021 yn uwch. 2019 oedd y flwyddyn ddiwethaf lle cynhaliwyd arholiadau).

Mae cefnogi myfyrwyr yn un o gonglfeini’r coleg, fel a gadarnhawyd yn adroddiad Estyn 2019, lle cafodd Coleg Dewi Sant ei ganmol am ei safonau dysgu uchel a chyflawniadau ein myfyrwyr. Dywedodd yr arolygwyr “Yn gyffredinol, mae dysgwyr yn ennill graddau rhagorol ar ddiwedd eu cyrsiau o’u cymharu â’u cyrhaeddiad TGAU blaenorol” a nododd fod “y prifathro ac uwch arweinwyr wedi sefydlu ethos, yn seiliedig ar y ffydd Gatholig, sy’n groesawgar ac yn gynhwysol dysgwyr o bob ffydd a chefndir”.

Oherwydd ein bod wedi ein lleoli ar un campws cryno yn agos i ganol Caerdydd, rydyn ni’n gymuned real gydag awyrgylch gefnogol iawn. Mae’r dewis o bynciau yma’n rhyfeddol o eang – llawer mwy nag y gall y rhan fwyaf o ysgolion eu cynnig.

Ein gobaith yw y bydd yr ethos academaidd a gofalgar gref yma yn eich ysbrydoli i gyrraedd eich potensial llawn.

 

– Mark Leighfield, Pennaeth a Christian Mahoney, Cadeirydd y llywodraethwyr