Jessica Leigh Jones yw un o’r entrepreneuriaid mwyaf ysbrydoledig a dylanwadol yng Nghymru 

Ers iddi gwblhau’i hastudiaethau yng Ngholeg Dewi Sant 9 mlynedd ‘nôl…. bydda’n barod am ysgytwad … mae hi wedi graddio o Brifysgol Caerdydd gyda gradd mewn Astroffiseg, wedi cwblhau tystysgrif addysg uwch mewn Rheolaeth Adnoddau Dynol, ac wedi cael ei chydnabod fel gweithiwr proffesiynol siartredig. Gweithiodd hi gyda chwmni Sony am 5 mlynedd – fel peirianydd yn y lle cyntaf, yn gyfrifol am brosiect ‘Big Data’, systemau deallus, a roboteg. Roedd hi’n arweinydd ar brosiect a gyflwynodd robot YUMI gyntaf y DU i’r farchnad. Aeth hi ymlaen i reoli tîm o beirianwyr meddalwedd ac electronig, wrth iddynt ddatblygu systemau cynhyrchu newydd ar gyfer ffactrïoedd Sony byd-eang, cyn mynd ymlaen i reoli 100 o bobl ar draws 5 adran. (anadla!) 

Yn 20 oed, penodwyd Jessica fel Ymddiriedolwr a Chyfarwyddwr Cynllun Addysg Beirianneg Cymru. Ym 2018, ymunodd hi â Bwrdd CBAC, cyn mynd ymlaen i fod yn Gadeirydd ei gyfleusterau cynhyrchu ac yn is-Gadeirydd y cwmni yn gyffredinol.  Hefyd, fe benodwyd hi’n Gyfarwyddwr Anweithredol yr Athrofa Brentisiaethau ac Addysg Dechnegol yn Lloegr, ar yr un pryd yr oedd hi’n is-Gadeirydd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd. Yn ddiweddar, fe etholwyd hi’n Gadeirydd Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yng Nghymru, ac yn ogystal â hynny, fe ennillodd hi Wobr ‘Womenspire’ am Gyfarwyddwr Anweithredol y Flwyddyn (ac nid y cyfan yw hynny!)

Ym 2019, fe wnaeth Jessica gwblhau ei thaith i bedwar ban byd, er mwyn cyflwyno sgyrsiau i bobl ifanc, gwleidyddwyr, ac entrepreneuriaid ym Mhortiwgal, Bwlgaria, Siapan, yr Almaen, a Rwsia. Buodd hi’n gweithio gyda sawl glient cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys Forbes, HSBC, Barclays, CBI, Webit, GMIS, a llywodraethau gwahanol. Ers 2012, mae hi wedi cyflwyno sgyrsiau i fwy na 30, 000 o bobl ifanc byd-eang, ac o ganlyniad, derbyniodd hi MBE ym 2020 am eu gwasanaethau er lles menywod yn y sector peirianneg.

Gadawodd Jessica Sony yn ystod y pandemig er mwyn sefydlu busnes ei hun, gan gyflogi rhai o’r peirianwyr a adawodd y cwmni hefyd. Sefydlodd hi gwmni “iungo”, sy’n golygu “i gysylltu”, gyda’r nod o gyd-gysylltu gwneuthurwyr polisi, cyflogwyr, a darparwyr hyfforddiant.

Pan oeddet yn fyfyriwr yma yng Ngholeg Dewi Sant, fe greaist ti raglen beirianneg ar gyfer myfyrwyr – pam mae’n bwysig i gymryd rhan mewn cyfleoedd ychwanegol, ynghyd ag astudio?

Credaf ei fod yn hollbwysig i bobl ifanc gymryd rhan mewn cyfleoedd ychwanegol oherwydd maent yn tanio eu dychymyg, yn agor eu llygaid i lwybrau gyrfaol newydd, ac yn helpu nhw i sefyll allan ymysg y dorf yn y farchnad swyddi. Nid yw’n ddigon i gael Lefel A neu radd hyd yn oed, gan fod rhaid i berson ifanc ddatblygu’u sgiliau craidd trosglwyddadwy, ac ennill profiad go iawn i’w gwneud yn fwy hyderus a medrus ar eu llwybr gyrfaol dewisol.

Pa sgiliau trosglwyddadwy fydd ar dop eich rhestr i bobl ifanc sy’n ystyried peirianneg fel gyrfa? 

Yn fy marn i, y gallu i fod yn greadigol yw’r sgil pwysicaf y dylai pobl ifanc ei ddatblygu. Ym 2020, fe wnaeth Fforwm Economaidd y Byd enwi ‘creadigrwydd, gwreiddioldeb, a menter’ fel y 10 sgil pwysicaf y bydd pob cyflogwr yn chwilio amdanynt erbyn 2025. Mae creadigrwydd yn gofyn am lefel uwch o ymgysylltu gwybyddol oherwydd, yn wahanol i sgiliau eraill, nid ydych chi’n cymhwyso gwybodaeth, ond rydych chi’n creu cysyniadau a syniadau newydd. Fel peirianwyr, yn aml rydyn ni’n dda iawn yn datrys problemau ar fyr dro, ond a ydyn ni erioed yn stopio am eiliad i feddwl am ffyrdd eraill o ddatrys y problemau hynny? Mae creadigrwydd yn golygu darganfod ffyrdd newydd o ddatrys problemau, ac wrth inni symud tuag at fyd heb COVID lle bydd gweithio’n hyblyg yn her enfawr, bydd rhaid i ni fod yn greadigol wrth geisio datrys rhai o broblemau mwyaf y gymdeithas.

Yn yr un modd, pa nodweddion sy’n gyffredin ymhlith entrepreneuriaid da? 

Yn gyntaf, mae entrepreneuriaid da yn angerddol dros yr hyn y maen nhw’n eu gwneud. Nid ydynt yn gweithio mewn busnes er mwyn ennill arian yn gyflym; yn hytrach maen nhw’n ceisio datrys problem fawr mewn modd newydd a chreadigol. Yn ail, mae entrepreneuriaid da yn wydn a dyfalbarhaus. Rydyn nhw’n derbyn methiant yn glou, ond maen nhw’n dysgu’n gyflymach. Dyma’r nodwedd sy’n gwahanu entrepreneuriaid llwyddiannus ymysg bawb arall.

Rwyt ti wedi cael dy gydnabod gan Forbes, gwobrwyon Womenspire, ‘Insiders Rising Stars’ a mwy – a yw’n bwysig i fenywod ifanc mewn ysgol/coleg weld pobl yn debyg iddyn nhw mewn swyddi sy’n ddyhead iddynt? 

Mae’n hanfodol bod gennym fodelau rol amrywiol ym mhob proffesiwn a phob sector. Gan amlaf, nid yw pobl ifanc yn gwybod ym mhle y hoffan nhw fod mewn 10 mlynedd – ac mae hwnna’n iawn – ond os nad oes modd iddynt gwrdd na rhyngweithio gyda’r bobl y maent yn uniaethu â hwy, yna fydden nhw’n cael hi’n anodd i ddod o hyd i yrfa sy’n apelio atynt. Mewn sectorau sydd dan ddylanwad dynion yn draddodiadol, mae’n fwy pwysig nag erioed i gael modelau rol sy’n flaenllaw, cryf, ac ysbrydoledig er mwyn chwalu’r ystrydebau a dinistrio’r nenfwd gwydr.